Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar gael gwared ar y gofyniad i ddefnyddio’r pictograff ‘Do Not Eat’ ar ddeunyddiau gweithredol a deallus a ddaw i gysylltiad â bwyd

Penodol i Gymru a Lloegr

Mae’r ymgynghoriad yn ymwneud â’r pictograff ‘Do Not Eat’ ar eitemau gweithredol neu ddeallus a roddir ar farchnad Prydain Fawr. Mae Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) sy’n ymwneud â deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd yn parhau i fod yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon, ac o dan delerau cyfredol Protocol Iwerddon/Gogledd Iwerddon. Bydd cynhyrchion a roddir ar farchnad Gogledd Iwerddon yn parhau i ddefnyddio pictograff ‘Do Not Eat’ yr UE.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 September 2022

Crynodeb o ymatebion

Crynodeb o ymatebion

England and Wales

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb mwyaf i’r diwydiannau bwyd a deunydd pecynnu, yn enwedig y rheiny sy’n cynhyrchu ar lefel genedlaethol, ac sy’n defnyddio deunyddiau ac eitemau gweithredol neu ddeallus y bwriedir iddynt, neu y disgwylir yn rhesymol iddynt, ddod i gysylltiad â bwyd. Bydd hefyd o ddiddordeb i ddefnyddwyr.

Pwnc yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad yn ymwneud â’r pictograff ‘Do Not Eat’ ar eitemau gweithredol neu ddeallus a roddir ar farchnad Prydain Fawr. Mae Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) sy’n ymwneud â deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd yn parhau i fod yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon, ac o dan delerau cyfredol Protocol Iwerddon/Gogledd Iwerddon. Bydd cynhyrchion a roddir ar farchnad Gogledd Iwerddon yn parhau i ddefnyddio pictograff ‘Do Not Eat’ yr UE.

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnig cael gwared ar y gofyniad i ddefnyddio’r pictograff ‘Do Not Eat’ ar eitemau sy’n cael eu rhoi ar farchnad Prydain Fawr. Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar y newid polisi arfaethedig mewn perthynas â’r gofynion o ran y pictograff ‘Do Not Eat’ ar gyfer deunyddiau ac eitemau gweithredol neu ddeallus ar y farchnad ym Mhrydain Fawr.

Pecyn ymgynghori

Sut i ymateb

Dylid anfon ymatebion i’r ymgynghoriad hwn at tim.chandler@food.gov.uk 

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.