Ymgynghoriad ar geisiadau i awdurdodi tri chynnyrch bwyd Canabidiol (CBD) fel bwydydd newydd – Awst 2025
Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r ceisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon, sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi. Mae’r ceisiadau hyn wedi cael eu cyflwyno ar gyfer awdurdodiadau newydd o fwydydd newydd.
I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?
Pob busnes bwyd yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd, a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant mewn diogelwch bwyd.
- Cynhyrchwyr a chyflenwyr CBD, bwydydd newydd, mewnforwyr, dosbarthwyr, a chyfanwerthwyr a manwerthwyr
- Cymdeithasau Masnach y Diwydiant Bwyd sy’n ymwneud â bwydydd newydd a CBD
- Defnyddwyr a’r cyhoedd
- Grwpiau ymgyrchu sydd â buddiant mewn CBD a chynhyrchion bwyd CBD
- Sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr yn y gadwyn fwyd
- Awdurdodau gorfodi ar draws y Deyrnas Unedig (DU), gan gynnwys awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd porthladdoedd, a chynghorau dosbarth
Pwnc yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â thri o geisiadau am fwydydd bwyd sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi ym Mhrydain Fawr. Yn ogystal â’r ymgynghoriad hwn, rydym wedi cyhoeddi dogfen ar y cyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS), yn cynnwys argymhellion rheoli risg ac asesiadau diogelwch ar gyfer y ceisiadau. O dan Fframwaith Windsor, gellir rhoi Canabidiol synthetig (CBD) a gymeradwyir ym Mhrydain Fawr ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon, os ydynt yn gymwys ar gyfer Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS), a’u bod yn cael eu symud drwyddo. O dan delerau NIRMS, dim ond nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw y gellir eu symud i Ogledd Iwerddon, felly ni fyddai’r Cynllun yn caniatáu i fusnesau sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon gynhyrchu eu cynhyrchion CBD eu hunain, ond byddai’n gyfreithlon iddynt fewnforio cynhyrchion wedi’u cynhyrchu ymlaen llaw o Brydain Fawr.
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi’r cyfle i randdeiliaid gyflwyno eu safbwyntiau ar awdurdodi bwydydd newydd. Bydd yr ASB yn ystyried adborth gan randdeiliaid er mwyn hysbysu gweinidogion Cymru a Lloegr cyn iddynt wneud penderfyniad, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa i Weinidog Iechyd Gogledd Iwerddon.
Rydym yn ceisio adborth ar y telerau awdurdodi arfaethedig, ein hasesiad o’r effeithiau posib a nodir yn y pecyn ymgynghori, ac unrhyw dystiolaeth bellach a allai fod gennych ar effeithiau ychwanegol y dylem eu hystyried.
Mae Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yn cyhoeddi ymgynghoriad cyfochrog ddiwedd yr haf i lywio penderfyniad gweinidogion yn yr Alban yn yr un modd.
Pecyn ymgynghori
Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu’r wybodaeth gefndirol, y manylion a’r cwestiynau y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Mae hefyd yn darparu dolenni i ddogfennau technegol yr ASB/FSS ar gyfer yr argymhellion rheoli risg a’r asesiadau diogelwch. Mae’r ddogfen ymgynghori lawn ar gael ar y tudalennau canlynol hefyd:
Pecyn ymgynghori ar geisiadau i awdurdodi 3 chynnyrch bwyd CBD fel bwydydd newydd
England, Northern Ireland and Wales
Sut i ymateb
Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn drwy’r arolwg ar-lein. Os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i:
E-bost: RPconsultations@food.gov.uk
Enw: Awdurdodi Cynhyrchion Rheoleiddiedig i’w Rhoi ar y Farchnad
Is-adran/Cangen: Gwasanaethau Rheoleiddiedig
Os byddwch yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd ynghylch ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Os bydd angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat sy’n haws i’w ddarllen, anfonwch fanylion at y cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried.
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny yn y ddogfen ymgynghori.