Pecyn ymgynghori ar geisiadau i awdurdodi 3 chynnyrch bwyd CBD fel bwydydd newydd
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â 3 chais am gynhyrchion rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon. Dyddiad lansio: 28 Awst 2025 Ymateb erbyn: 20 Tachwedd 2025
Pecyn ymgynghori ar geisiadau i awdurdodi tri chynnyrch bwyd CBD fel bwydydd newydd
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â thri chais am gynhyrchion rheoleiddiedig. Mae’r ceisiadau wedi’u cyflwyno er mwyn awdurdodi “canabidiol synthetig (CBD)”, “arunigyn canabidiol (CBD)” a “chanabidiol (CBD) arunig sy’n deillio o gywarch (‘hemp’) (hynny yw, Cannabis sativa)” fel bwydydd newydd. Bydd yr ASB yn ystyried ymatebion rhanddeiliaid cyn paratoi cyngor terfynol i weinidogion yng Nghymru a Lloegr, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa i Weinidog Iechyd Gogledd Iwerddon. Mae’r penderfyniad ynghylch awdurdodi yn nwylo’r gweinidogion; mae’r ASB wedi paratoi argymhellion drafft ar gyfer pob cais, sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad. Yr argymhellion drafft yw awdurdodi’r 3 bwyd newydd, yn amodol ar fodloni’r telerau awdurdodi a nodir yn yr ymgynghoriad.
Gan mai dyma’r ceisiadau cyntaf i awdurdodi cynhyrchion bwyd CBD fel bwydydd newydd a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, mae’r ymgynghoriad hefyd yn nodi dull arfaethedig o ymdrin â materion polisi ehangach a fydd yn berthnasol i geisiadau yn y dyfodol ar gyfer cynhyrchion CBD, gan gynnwys materion o ran gorfodi ac o ran diogelu grwpiau agored i niwed.
Nod cyffredinol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wrth ddatblygu’r cynigion hyn fu sicrhau bod modd diogelu iechyd defnyddwyr i’r eithaf, ac ystyried buddiannau ehangach y defnyddiwr. Er bod yr ASB yn datblygu’r polisi a’r cyngor ar y materion hyn, Gweinidogion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban (gyda chyngor gan Safonau Bwyd yr Alban (FSS)) sy’n gyfrifol yn y pen draw am wneud y penderfyniadau i awdurdodi cynhyrchion bwyd CBD fel bwydydd newydd. Bwriad yr ymgynghoriad hwn a’r ymatebion cyfatebol gan randdeiliaid yw cefnogi gwaith yr ASB o lunio cyngor i weinidogion. Nid yw cynnwys y pecyn ymgynghori hwn yn arwydd o farn unrhyw un o weinidogion y DU. Bydd y cyngor terfynol a roddir i weinidogion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn cael ei lywio gan ganlyniad yr ymgynghoriad hwn.
Dyddiad lansio: 28 Awst 2025
Ymatebion erbyn: 20 Tachwedd 2025
I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?
Pob busnes bwyd yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd, a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant mewn diogelwch bwyd.
- Cynhyrchwyr a chyflenwyr CBD, bwydydd newydd, mewnforwyr, dosbarthwyr, a chyfanwerthwyr a manwerthwyr
- Cymdeithasau Masnach y Diwydiant Bwyd sy’n ymwneud â bwydydd newydd a CBD
- Defnyddwyr a’r cyhoedd
- Grwpiau ymgyrchu sydd â buddiant mewn CBD a chynhyrchion bwyd CBD
- Sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr yn y gadwyn fwyd
- Awdurdodau gorfodi ar draws y Deyrnas Unedig (DU), gan gynnwys awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd porthladdoedd, a chynghorau dosbarth
Pwnc a diben yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am adborth rhanddeiliaid ar y ceisiadau a gyflwynwyd am gynhyrchion rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon. Mae’r ceisiadau hyn wedi cael eu cyflwyno ar gyfer awdurdodiad newydd (3 bwyd newydd).
Mae FSS yn cyhoeddi ymgynghoriad cyfochrog i hysbysu gweinidogion yn yr Alban cyn iddynt wneud penderfyniad.
Gellir gweld crynodeb o’r argymhellion rheoli risg, yr asesiad diogelwch a’r telerau awdurdodi arfaethedig isod
England, Northern Ireland and Wales
Sut i ymateb
Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn drwy’r arolwg ar-lein. Os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i:
E-bost: RPconsultations@food.gov.uk
Rhoddir manylion llawn ar sut i ymateb isod.
Manylion yr ymgynghoriad
Beth yw bwydydd newydd a sut maen nhw’n cael eu hawdurdodi?
Wrth sôn am fwydydd newydd, rydym yn golygu bwydydd nad oedden nhw’n cael eu cynhyrchu i’w bwyta gan bobl i raddau helaeth yn y DU neu’r UE cyn 15 Mai 1997. Mae hyn yn golygu nad oes gan y bwydydd hyn ‘hanes o gael eu bwyta’. Mae enghreifftiau o fwydydd newydd yn cynnwys:
- bwydydd newydd, er enghraifft, ffytosterolau a ffytostanolau a ddefnyddir mewn sbrediau sy’n lleihau colesterol
- bwydydd traddodiadol sy’n cael eu bwyta mewn mannau eraill yn y byd, er enghraifft, hadau chia, baobab
- bwydydd a gynhyrchir drwy brosesau newydd, er enghraifft, bara wedi’i drin â golau uwch-fioled i gynyddu lefelau fitamin D
Mae’n rhaid awdurdodi bwydydd newydd gan weinidogion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Wrth osod bwydydd newydd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid gwneud hyn yn unol â Rheoliad a gymathwyd (UE) 2015/2283.
Beth yw CBD?
Mae CBD yn un o lawer o gemegion a elwir yn ganabinoidau (‘cannabinoids’). Mae’n bresennol mewn planhigion cywarch (‘hemp’) a chanabis, a gellir ei gynhyrchu’n synthetig.
Gellir cael echdyniadau (‘extracts’) CBD o’r rhan fwyaf o rannau planhigion canabis neu gywarch. Gellir eu hechdynnu’n ddetholus, a gall hynny grynodi CBD. Gall rhai prosesau newid cyfansoddion cemegol eraill.
Mae cynhyrchion CBD yn cael eu gwerthu fel bwydydd, yn aml fel atchwanegiadau bwyd, yn y DU. Maent ar gael yn eang mewn siopau, mewn caffis ac ar-lein.
Mae CBD a werthir fel bwyd, neu fel atchwanegiad bwyd, yn cynnwys:
- olewau
- diferion, tinturau a chwistrellau
- capsiwlau gel
- losin/fferins a melysion
- bara a chynhyrchion becws eraill
- diodydd
Ar 15 Ionawr 2019 (a chyn i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd), gwnaeth y Comisiwn Ewropeaidd gynnwys CBD yn y catalog bwydydd newydd , gan gadarnhau ei statws fel bwyd newydd. Fel bwydydd newydd, mae cynhyrchion bwyd CBD yn ddarostyngedig i ofynion rheoleiddio’r Rheoliad Bwyd Newydd, ac mae angen awdurdodiad cyn-farchnata arnynt, yn unol â’r rheoliad hwnnw, cyn eu rhoi ar y farchnad.
Fel bwydydd newydd, rhaid awdurdodi cynhyrchion bwyd CBD cyn eu rhoi ar y farchnad. Mae hyn er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel.
Y farchnad CBD ym Mhrydain Fawr
Mae marchnad ddomestig helaeth o gynhyrchion CBD wedi bodoli ym Mhrydain Fawr (GB) ers dros ddegawd, a hynny cyn yr adeg y gwnaeth y Comisiwn Ewropeaidd gadarnhau statws CBD fel cynnyrch newydd yn y catalog bwydydd newydd. Wedi i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, etifeddodd yr ASB ac FSS gyfrifoldebau am ddadansoddi risg cynhyrchion rheoleiddiedig, gan gynnwys bwydydd newydd (a CBD). Cyflwynodd hyn her bolisi i’r ASB ac FSS o ran sut i fynd i’r afael â’r twf parhaus ym marchnad cynhyrchion bwyd CBD heb eu rheoleiddio, a hynny wrth reoli ceisiadau am fwydydd newydd drwy’r broses dadansoddi risg.
Penderfynodd yr ASB fabwysiadu dull cymesur o orfodi, gan gynghori awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr i flaenoriaethu gwaith gorfodi yn erbyn cynhyrchion CBD nad ydynt yn mynd drwy’r camau priodol i gael awdurdodiad. Gall cynhyrchion sydd eisoes ar y farchnad yng Nghymru a Lloegr barhau i fod ar werth os ydynt wedi’u cysylltu â chais dilys i awdurdodi bwyd newydd. Gwnaeth y penderfyniad hwn ystyried datganiad Pwyllgor Arbenigol Sefydliad Iechyd y Byd ar Ddibyniaeth ar Gyffuriau, a ddaeth i’r casgliad nad yw’n debyg y gallai CBD, yn ei gyflwr pur, gael ei gamddefnyddio nac achosi niwed.
Dyma’r meini prawf y mae’n rhaid i gynhyrchion eu bodloni i fod yn gymwys ar gyfer y dull rheoleiddio cymesur hwn:
- roedd y cynhyrchion ar y farchnad adeg ein cyhoeddiad ar CBD (13 Chwefror 2020)
- daeth cais am awdurdodiad ar gyfer y cynhyrchion i law cyn 31 Mawrth 2021
- rydym wedi dilysu’r cais neu wedi cytuno ei fod yn symud yn ei flaen yn ddigonol tuag at gael ei ddilysu
Rhestr Gyhoeddus CBD: cynhyrchion sy’n gysylltiedig â cheisiadau bwyd newydd
Cyhoeddodd yr ASB restr gyhoeddus o’r cynhyrchion bwyd CBD a oddefir i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda phenderfyniadau gorfodi ac i helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus am y cynhyrchion maen nhw’n eu prynu. Nid yw cynhyrchion ar y rhestr gyhoeddus wedi’u hawdurdodi’n ffurfiol i’w gwerthu, ond maen nhw’n gysylltiedig â cheisiadau sy’n symud trwy’r broses ar gyfer bwydydd newydd. Wrth gynnwys cynnyrch ar y rhestr gyhoeddus, nid yw hynny’n warant y bydd yn cael ei awdurdodi. Er nad yw’r rhestr gyhoeddus yn gymwys yn yr Alban nac yng Ngogledd Iwerddon, mae nifer sylweddol o gynhyrchion CBD ar y rhestr ar gael yn y ddwy farchnad, gan olygu bod gweithredu ar sail y rhestr yn berthnasol i’r pedair gwlad.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ystyried y tri chais cyntaf i awdurdodi cynhyrchion bwyd CBD fel bwydydd newydd sydd wedi symud trwy’r cam asesu diogelwch ym mhroses dadansoddi risg ar y cyd yr ASB ac FSS, ac y cynhyrchwyd argymhellion rheoli risg drafft ar eu cyfer. Mae tua 3,000 o gynhyrchion CBD unigol sy’n gysylltiedig â’r ceisiadau hyn ar y rhestr gyhoeddus o gynhyrchion bwyd CBD. At ei gilydd, mae tua 11,500 o gynhyrchion bwyd CBD wedi’u cynnwys ar y rhestr gyhoeddus sy’n gysylltiedig â cheisiadau sy’n symud trwy’r broses awdurdodi.
Mae’r rhestr gyhoeddus o gynhyrchion CBD yn creu cyd-destun unigryw ar gyfer yr ystyriaethau rheoli risg ar gyfer y ceisiadau bwyd newydd yn yr ymgynghoriad hwn oherwydd bydd penderfyniadau ynghylch awdurdodi cynhyrchion unigol yn cael effaith ar y rhestr gyhoeddus. Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnwys cwestiynau mewn perthynas â gweithredu’r rhestr gyhoeddus ac effaith penderfyniadau awdurdodi ar ddefnyddwyr, asiantaethau gorfodi a busnesau bwyd.
Y broses awdurdodi ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig
Er mwyn cael eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid cyflwyno ceisiadau i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig i’r ASB ac FSS. Yna, mae’r ASB ac FSS yn cydweithio i asesu’r ceisiadau a datblygu cyngor i weinidogion, gyda’r nod o sicrhau bod safonau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid y DU yn parhau i fod yn uchel, a bod defnyddwyr yn cael eu diogelu. Mae’r gweinidogion priodol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn gwneud y penderfyniad terfynol ar awdurdodi, a rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf i Weinidog Iechyd Gogledd Iwerddon. Wrth wneud eu penderfyniad, bydd gweinidogion yn ystyried argymhellion yr ASB ac FSS, unrhyw ddarpariaethau perthnasol mewn cyfraith a gymathwyd, ac unrhyw ffactorau dilys eraill, gan gynnwys y rhai a godwyd yn ystod y broses ymgynghori.
Mae’r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn drefniant anstatudol rhwng llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig i sefydlu dulliau cyffredin o ymdrin â meysydd polisi lle mae pwerau wedi dychwelyd o’r UE o fewn meysydd lle mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli. Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â’r ymrwymiadau i gydweithio ar draws y pedair gwlad fel y nodir yn y fframwaith hwn.
Mabwysiadodd yr ASB ac FSS ganllawiau technegol a phrosesau sicrhau ansawdd a ddefnyddir gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) er mwyn gallu cynnal asesiadau risg Prydain Fawr ar gyfer ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig. Gweler y dolenni ym mhob atodiad i’r asesiadau diogelwch unigol.
Aseswyr risg yr ASB ac FSS sy’n cyflwyno’r wyddoniaeth sy’n sail i’n cyngor. Maent yn gyfrifol am nodi a disgrifio peryglon a risgiau i iechyd, ac asesu lefelau cysylltiad (‘exposure’). Mae’r ceisiadau am fwydydd newydd wedi bod yn destun asesiad diogelwch gan yr ASB ac FSS, gan gynnwys adolygiad o goflen yr ymgeisydd a gwybodaeth atodol.
Mae dogfen rheoli risg yr ASB yn amlinellu argymhelliad yr ASB i awdurdodi’r 3 bwyd newydd. Mae’r ymgynghoriad hwn yn cyflwyno’r ffactorau y mae’r ASB wedi nodi eu bod yn berthnasol i’r ceisiadau hyn, gan gynnwys effeithiau posib unrhyw benderfyniad a wneir gan weinidogion. Gwahoddir rhanddeiliaid i fanteisio ar y cyfle hwn i roi sylwadau ar y ffactorau hyn neu i nodi unrhyw ffactorau ychwanegol y dylid eu dwyn i sylw gweinidogion cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Oes gennych chi unrhyw bryderon am ddiogelwch y bwydydd newydd o ran y defnyddwyr arfaethedig? Os oes, rhowch dystiolaeth ychwanegol os oes peth ar gael.
Oes gennych chi unrhyw sylwadau neu bryderon am effeithiau awdurdodi neu beidio ag awdurdodi’r bwydydd newydd, ac, os ydych o blaid awdurdodi, delerau awdurdodi’r bwydydd newydd (fel yr amlinellir yn argymhellion rheoli risg yr ASB)?
Oes unrhyw ffactorau eraill y dylai gweinidogion eu hystyried sydd heb eu hamlygu’n barod?
Ffactorau a ystyriwyd wrth reoli risg
Ar gyfer y ceisiadau yn yr ymgynghoriad hwn, mae’r ASB wedi ystyried yr holl ffactorau cyfreithlon hysbys ac wedi nodi ystod o effeithiau posib sy’n berthnasol i ddefnyddwyr a’r diwydiant o ganlyniad i’r ffactorau hyn. Mae’r rhain wedi’u nodi isod. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gwahodd safbwyntiau ar yr effeithiau cyffredinol mewn perthynas â CBD fel dosbarth o gynhyrchion, ac ar faterion sy’n benodol i bob cais unigol, a ddisgrifir yn y ddogfen rheoli risg ar gyfer pob cais yn yr atodiadau.
Potensial ar gyfer camddefnyddio’r bwyd newydd a’r cymeriant dyddiol derbyniol
Yn 2023, cyhoeddodd y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP) a’r Pwyllgor ar Wenwyndra (COT) bapur a sefydlodd gymeriant dyddiol derbyniol (“ADI”) dros dro ar gyfer CBD, a’r disgwyl yw na fydd niwed i ddefnyddwyr cyffredinol os byddant yn cadw islaw’r lefel honno.
Yr ADI sydd wedi’i sefydlu yw 0.15 mg/kg o bwysau corff/dydd, hynny yw, 10 mg o CBD/dydd ar gyfer oedolyn iach sy’n pwyso 70 kg.
Daeth yr asesiadau diogelwch i’r casgliad fod dull pwysau tystiolaeth wedi’i ddefnyddio i ddod at yr ADI. O ran yr effeithiau iechyd dynol mwyaf sensitif y mae’r ADI yn diogelu rhagddynt, gwelir y rhain yn gyson yn yr afu/iau a’r thyroid mewn nifer o astudiaethau sy’n defnyddio >98% o CBD pur. Mae’r gwerth hwn hefyd yn ystyried y diffyg tystiolaeth hirdymor sy’n seiliedig ar bobl yn ogystal â thystiolaeth ynghylch grwpiau a allai fod yn agored i niwed.
Roedd yr asesiadau diogelwch hefyd yn cynnwys y testun canlynol, ‘If the inclusion level of this CBD isolate leads to an intake per individual serving of each product type of 10 mg/day, only one product type per day should be consumed to ensure the ADI is not exceeded. Multiple intakes of products containing CBD on the same day should be avoided to support minimising exposure to below the ADI.’
Wrth gynnal yr asesiad diogelwch, archwiliodd yr ACNFP y potensial ar gyfer camddefnydd rhagweladwy o’r bwyd newydd. Mae’r ADI wedi’i sefydlu fel bod 10mg/dydd o CBD yn ddiogel o ystyried ffactorau amrywiol i’r unigolyn, ni waeth pa mor aml y mae’r unigolyn yn bwyta CBD mewn cyfnod amhenodol. Ni fyddai bwyta CBD bob dydd yn arfer ‘ddisgwyliedig’. Fodd bynnag, mae’r ADI yn darparu lefel defnydd ddiogel pe bai rhywun yn penderfynu defnyddio cynhyrchion CBD yn barhaol, ac yn ddyddiol. Gwneir yr un ystyriaeth ni waeth beth fo’r cynnyrch/y fformat y caiff ei ddefnyddio ynddo.
Mae argymhellion rheoli risg drafft yr ASB wedi cynnwys lefel uchaf ragnodedig, sef “Yn unol â’r cymeriant dyddiol derbyniol o 10 mg/dydd o CBD”, a darpariaethau labelu ar wahân i sicrhau na fydd defnyddwyr yn mynd dros yr ADI ac i gefnogi defnyddwyr i wneud dewisiadau diogel ynghylch eu defnydd o CBD.
Rydym yn ceisio safbwyntiau gan randdeiliaid ynghylch a yw’r darpariaethau labelu mewn perthynas â’r ADI yn ddigonol i helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau diogel wrth fwyta nifer o gynhyrchion bwyd CBD mewn un diwrnod.
Ydych chi’n meddwl bod y darpariaethau labelu mewn perthynas â’r ADI yn ddigonol i helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau diogel wrth fwyta nifer o gynhyrchion CBD mewn un diwrnod?
Yn dilyn ymgynghoriadau, bydd yr ASB ac FSS yn gwerthuso ymatebion rhanddeiliaid ac yn ystyried a oes angen unrhyw ddarpariaethau ychwanegol.
Y posibilrwydd o gamarwain defnyddwyr wrth awdurdodi’r bwyd newydd yn y categori ‘atchwanegiadau bwyd’
Mae Erthygl 7(b) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2015/2283 yn mynnu bod yr awdurdod priodol (gweinidogion ym mhob awdurdodaeth ym Mhrydain Fawr) yn cael awdurdodi bwyd newydd ar yr amod nad yw’r defnydd bwriadedig ar gyfer y bwyd yn camarwain y defnyddiwr. Yn ogystal, mae Rheoliad (UE) a gymathwyd 1169/2011 (‘y Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr’) yn nodi gofyniad cyfreithiol, sef na chaiff gwybodaeth am fwyd fod yn gamarweiniol, yn enwedig drwy briodoli i’r bwyd effeithiau neu briodweddau nad yw’n meddu arnynt.
Mae pob un o’r tri ymgeisydd wedi gwneud cais i awdurdodi’r bwydydd newydd i’w defnyddio yn y categori bwyd “atchwanegiadau bwyd”. Yn achos dau o’r tri chais, dim ond yn y categori atchwanegiadau bwyd y mae’r ymgeiswyr yn ceisio awdurdodiad, ac nid ydynt yn bwriadu marchnata’r bwyd newydd mewn categorïau bwyd eraill.
Mae awdurdodi o fewn y categori atchwanegiadau bwyd yn cyflwyno’r potensial i gamarwain defnyddwyr. Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau ynghylch a yw awdurdodi CBD o fewn y categori atchwanegiadau bwyd yn gamarweiniol i ddefnyddwyr neu a yw'n cefnogi buddiannau defnyddwyr.
Mae’r adran hon yn archwilio’r cyd-destun y mae ein hargymhellion yn seiliedig arno ac yn cyflwyno’r rhesymeg pam yr ydym yn credu, ar y cyfan, mai argymhelliad i awdurdodi o fewn y categori hwn yw’r opsiwn gorau ar gyfer cefnogi dewis a buddiannau defnyddwyr.
Er mwyn nodi hyn yn glir, rydym wedi cynnwys gwybodaeth am beth yw atchwanegiadau bwyd, sut maen nhw’n cael eu diffinio, a’r hyn y mae’r ASB yn ei wybod am agweddau ac arferion defnyddwyr mewn perthynas â chynhyrchion bwyd CBD.
Beth yw atchwanegiad bwyd?
Yng Nghymru a Lloegr, diffinnir atchwanegiadau bwyd gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003 a Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Lloegr) 2003 (“Rheoliadau 2003”), yn y drefn honno.
Yn Rheoliadau 2003, ystyr “ychwanegyn bwyd” yw unrhyw fwyd sydd wedi'i fwriadu i ychwanegu at ddeiet normal ac sydd —
(a) yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad; a
(b) yn cael ei werthu ar ffurf dogn ;
Gall atchwanegiadau bwyd effeithio ar y corff mewn amrywiaeth o ffyrdd. Prif fwriad atchwanegiadau bwyd yw mynd i’r afael â diffygion trwy adfer lefelau maetholion hanfodol pan nad yw cymeriant deietegol yn ddigonol. Mae rhai atchwanegiadau bwyd wedi’u llunio i gefnogi prosesau ffisiolegol penodol, fel iechyd esgyrn (calsiwm a fitamin D) neu iechyd y galon (asidau brasterog omega-3). Gellir defnyddio rhai atchwanegiadau bwyd hefyd i wella perfformiad (creatin).
Mae Rheoliadau 2003 yn gymwys i atchwanegiadau bwyd a werthir fel bwyd ac a gyflwynir felly, ac yn sefydlu cyfyngiadau ar farchnata atchwanegiadau bwyd, gan gynnwys y modd y mae cynhyrchion yn cael eu labelu a’u pecynnu. Byddai busnesau bwyd a geir yn torri’r gofynion hyn yn destun gorfodi o dan y rheoliadau hyn.
Yng Nghymru, Llywodraeth Cymru sydd â’r cyfrifoldeb deddfwriaethol a pholisi dros atchwanegiadau bwyd. Mae’r cyfrifoldeb hwn wedi’i ddatganoli i FSS yn yr Alban, ac yn dod o dan gylch gwaith yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr. Yr ASB sy’n cadw cyfrifoldeb polisi dros atchwanegiadau bwyd yng Ngogledd Iwerddon. Fodd bynnag, mae’r ceisiadau i awdurdodi’r bwydydd newydd yn ymwneud â Phrydain Fawr yn unig.
Gan fod Rheoliadau 2003 yn diffinio atchwanegiadau bwyd fel unrhyw fwyd sydd wedi’i fwriadu i ychwanegu at ddeiet normal ac sydd yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad, ac sy’n cael ei werthu ar ffurf dogn, rhaid i atchwanegiadau bwyd sy’n cynnwys y bwyd newydd naill ai gynnwys ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwynau neu fod ag effaith faethol neu ffisiolegol er mwyn bodloni’r diffiniad ac felly’r defnydd a ganiateir o dan y categori bwyd o atchwanegiadau bwyd. Cyfrifoldeb gweithredwyr busnes bwyd yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith.
Buddiannau defnyddwyr
Gwnaeth yr asesiadau diogelwch werthuso’r defnydd o CBD yn y categori bwyd “atchwanegiadau bwyd”. Canfu’r asesiadau fod y bwyd newydd yn ddiogel o dan yr amodau defnydd arfaethedig. Nid swyddogaeth yr ASB wrth gynnal yr asesiad diogelwch oedd pennu a oedd gan CBD unrhyw effaith therapiwtig gan mai’r ffocws oedd diogelwch ac effeithiau andwyol i iechyd pobl. Mae hyn yn unol â swyddogaeth statudol yr ASB fel yr Awdurdod Diogelwch Bwyd yng Nghymru a Lloegr o dan Erthygl 11 o Reoliad 2015/2283. Fodd bynnag, mae hwn yn faes dilys i’r ASB ei ystyried yn ei chyngor rheoli risg ac wrth wneud argymhellion i weinidogion ar awdurdodiadau. Mae’r asesiadau diogelwch yn nodi nad oes unrhyw effaith faethol. Nid yw’r ASB wedi ystyried unrhyw dystiolaeth yn ystod yr asesiad diogelwch sy’n ymwneud ag unrhyw effeithiau ffisiolegol CBD, ac felly ni all gadarnhau a fyddai effeithiau ffisiolegol o ganlyniad i fwyta CBD o dan yr amodau defnydd arfaethedig.
Mae ymchwil yr ASB ei hun i arferion defnyddwyr yn dangos bod defnyddwyr CBD yn defnyddio cynhyrchion CBD ar gyfer amrywiaeth o broblemau. Dywedodd defnyddwyr CBD mai’r prif reswm dros ddefnyddio CBD yw lleddfu poen. Gwnaethant hefyd adrodd bod CBD wedi helpu i leddfu pryder, cynorthwyo ymlacio a chwsg, cefnogi iechyd meddwl a lleddfu iselder. Roedd tua dwy ran o dair o ddefnyddwyr CBD yn teimlo bod CBD wedi bod o fudd i’w hiechyd cyffredinol a/neu wedi’u helpu gyda chyflwr meddygol. Lleddfu pryder/straen, arthritis a phoen cefn yw’r cyflyrau y mae pobl yn fwyaf tebygol o ddweud bod CDB wedi’u helpu gyda nhw. Mae dros draean o ddefnyddwyr CBD yn dweud eu bod yn ddibynnol arno neu y byddent yn poeni pe na allent ei brynu mwyach.
Er bod ymchwil yr ASB i arferion defnyddwyr yn rhoi cipolwg ar ganfyddiadau defnyddwyr mewn perthynas â CBD ar lefel anecdotaidd, nid yw’n darparu tystiolaeth empirig o unrhyw effeithiau ffisiolegol CBD. Ar ben hynny, nid yw ymchwil yr ASB yn darparu data ar sut mae defnyddwyr unigol yn defnyddio CBD (er enghraifft, faint o CBD maen nhw’n ei gymryd, ar ba ffurf a pha mor rheolaidd). Ni allwn gadarnhau bod arferion y defnyddwyr yn cyd-fynd â’r lefelau defnydd argymelledig a ddarperir yng nghanllawiau’r ASB neu yn unol â’r hyn y gofynnwyd amdano gan ymgeiswyr yn eu ceisiadau. Nid yw’r ymchwil hon, felly, yn llenwi unrhyw fylchau data sy’n weddill ynghylch effeithiau ffisiolegol CBD.
Nid yw’r ASB wedi gweld unrhyw dystiolaeth i bennu a ellir cadarnhau effaith ffisiolegol ar ddos o 10/mg y dydd. Mae astudiaethau sy’n dangos y gallai CBD beri effeithiau ffisiolegol, ond roedd yr astudiaethau hynny’n cynnwys dosau llawer uwch na’r ADI dros dro o 10mg/dydd o CBD.
Ar y sail hon, mae’r ASB yn ystyried nad yw cynnyrch CBD ar y lefel uchaf arfaethedig o 10mg/dydd o bosib yn bodloni’r diffiniad cyfreithiol o atchwanegiad bwyd o dan Reoliadau 2003, a hynny oherwydd diffyg tystiolaeth o ran yr effaith ffisiolegol. Dywedir hyn er gwaetha’r ffaith bod cynhyrchion CBD yn cael eu marchnata’n gyffredin fel atchwanegiadau bwyd a bod defnyddwyr wedi nodi effeithiau therapiwtig o ddefnyddio CBD. Mae marchnata CBD fel atchwanegiadau bwyd yn cyflwyno’r posibilrwydd o gamarwain y defnyddiwr.
Y cynnig
Mae ein hymchwil yn dangos bod llawer o ddefnyddwyr yn credu bod gan CBD effaith gadarnhaol arnyn nhw. Gan nad oedd yr asesiadau diogelwch wedi nodi unrhyw bryderon diogelwch mewn perthynas â defnyddio CBD yn y categori ‘atchwanegiad bwyd’, mae’r ASB yn cynnig argymell bod y bwydydd newydd hyn yn cael eu hawdurdodi o fewn y categori bwyd ‘atchwanegiadau bwyd’, yn unol â cheisiadau’r ymgeiswyr.
Mae’r ASB yn ymwybodol o’r posibilrwydd o gamarwain defnyddwyr, oherwydd, wrth gymeradwyo awdurdodi CBD yn y categori ‘atchwanegiadau bwyd’, gellid dehongli hynny fel cadarnhau bod CBD yn bodloni’r diffiniad cyfreithiol o atchwanegiad bwyd. Fodd bynnag, ar y cyfan, ac wrth ystyried y rhesymau pam mae defnyddwyr yn dewis defnyddio cynhyrchion CBD, mae’r ASB yn ystyried bod argymhelliad o’r fath yn rhesymol ac yn gyfiawn, gan fod defnyddwyr yn gyffredinol yn adnabod cynhyrchion CBD fel atchwanegiadau bwyd. Mae argymell na ddylid awdurdodi cynhyrchion CBD yn y categori ‘atchwanegiadau bwyd’ ar hyn o bryd yn debygol o gael effeithiau negyddol ar farchnata cynhyrchion CBD, ac effaith negyddol ar ddefnyddwyr sy’n teimlo’n ddibynnol ar atchwanegiadau bwyd CBD.
Yn ogystal, os yw cynhyrchion bwyd CBD yn bodloni’r diffiniad o atchwanegiadau bwyd ac yn cael eu marchnata felly, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i weithredwyr busnesau bwyd gadw at y gofynion labelu a phecynnu a amlinellir yn y ddeddfwriaeth atchwanegiadau bwyd. Dylai’r gofynion ychwanegol hyn sicrhau bod defnyddwyr yn cael digon o wybodaeth am y cynhyrchion CBD maen nhw’n eu bwyta, pan gânt eu marchnata fel atchwanegiadau bwyd.
Rydym yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ynghylch a yw awdurdodi’r bwydydd newydd yn y categori ‘atchwanegiadau bwyd’ yn cefnogi buddiannau defnyddwyr neu a allai gwneud hynny gamarwain defnyddwyr.
Oes gennych chi unrhyw sylwadau ynghylch a oes potensial i ddefnyddwyr gael eu camarwain drwy awdurdodi’r bwydydd newydd yn y categori ‘atchwanegiadau bwyd’, neu a yw hyn yn cefnogi buddiannau defnyddwyr?
Yn dilyn ymgynghoriad, bydd yr ASB yn ystyried ymatebion rhanddeiliaid ac yn ymgysylltu â swyddogion mewn llywodraethau datganoledig ac adrannau eraill o’r llywodraeth, yn ogystal â swyddogion yr ASB sy’n gweithio ar bolisi atchwanegiadau bwyd yng Ngogledd Iwerddon, lle bo’n berthnasol ac yn briodol. Mae gweinidogion hefyd yn cadw’r pŵer i ailystyried yr awdurdodiad, os bydd tystiolaeth newydd yn dod i’r amlwg sy’n atal y bwydydd newydd yn gyfan gwbl rhag bodloni’r diffiniad o atchwanegiad bwyd.
Statws CBD fel bwyd a sylwedd rheoledig
Mae Atodlen 2 i Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (“yr MDA”) yn darparu’r rhestr o sylweddau sy’n cael eu dosbarthu’n gyffuriau rheoledig. Er nad yw CBD wedi’i gynnwys yn yr Atodlen hon, mae canabinol (CBN) a deilliadau CBN wedi’u cynnwys yn Rhan II o’r Atodlen hon ac wedi’u dosbarthu’n gyffuriau Dosbarth B. Mae hyn yn cynnwys tetrahydrocanabinol (THC) fel deilliad o CBN. Y Swyddfa Gartref sydd â’r cyfrifoldeb deddfwriaethol am y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau a’r Rheoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001 cysylltiedig (“yr MDR”), ac, o ganlyniad, mae polisi ar CBD fel sylwedd rheoledig hefyd yn nwylo’r Swyddfa Gartref. Mae’r ASB wedi gweithio gyda’r Swyddfa Gartref i ystyried goblygiadau polisi ar sylweddau rheoledig mewn perthynas â chynhyrchion bwyd CBD fel bwydydd newydd.
Cyfreithlondeb
Mae ystyr “bwyd” wedi’i ddiffinio’n gyfreithiol gan Erthygl 2 o Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 178/2002. Nid yw’r diffiniad hwn yn cynnwys sylweddau a ystyrir yn rhai narcotig neu’n seicotropig o dan Gonfensiwn Sengl y Cenhedloedd Unedig ar Gyffuriau Narcotig 1961 a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Sylweddau Seicotropig 1971 (y Confensiynau). Nid ystyrir bod CBD pur yn dod o dan y Confensiynau gan nad oes ganddo effaith seicotropig. Sefydlwyd hyn gan lys yr UE, ac mae’n rhan o gyfraith achosion yr UE a gymathwyd yn y DU.
O dan y Confensiynau, mae THC wedi’i ddosbarthu’n sylwedd seicotropig. Mae’r ASB yn ystyried cynhyrchion CBD sy’n cynnwys symiau isel iawn o THC yn baratoadau sy’n cynnwys sylwedd narcotig/seicotropig, yn hytrach na bod yn sylweddau narcotig/seicotropig eu hunain. Mae’r ceisiadau’n dangos mai dim ond gweddillion bach o THC sy’n bresennol yn y bwydydd newydd. Felly, mae’r ASB a’r Swyddfa Gartref yn ystyried cynhyrchion bwyd CBD yn fwydydd, a dylent gael eu rheoleiddio o dan gyfraith bwyd.
Oherwydd yr anawsterau wrth ei echdynnu ar ei ffurf bur, gall CBD gynnwys lefelau hybrin o ganabinoidau eraill. Mae rhai ohonynt yn gyffuriau rheoledig o dan yr MDA. Mae hyn yn cynnwys THC. Mae’r MDA yn gwneud unrhyw gynnyrch neu baratoad sy’n cynnwys cyffur rhestredig yn gyffur rheoledig ei hun. Felly, mae CBD sy’n cynnwys hyd yn oed lefelau isel iawn o THC (neu unrhyw ganabinoidau rheoledig eraill) yn gyffur rheoledig o dan yr MDA ac yn fwyd o dan gyfraith bwyd.
Cymhwyso cyfraith cyffuriau yn ehangach
Mae Rheoliad 2 o’r MDR yn nodi’r diffiniad o “gynnyrch wedi’i eithrio”. Mae “cynnyrch wedi’i eithrio” yn golygu paratoad neu gynnyrch arall sy’n cynnwys un neu fwy o gydrannau, y mae unrhyw un ohonynt yn cynnwys cyffur rheoledig, lle mae’r canlynol yn wir:
a) nid yw’r paratoad na’r cynnyrch arall wedi’i gynllunio ar gyfer rhoi’r cyffur rheoledig i berson nac anifail
b) mae’r cyffur rheoledig mewn unrhyw gydran wedi’i becynnu mewn modd, neu mewn cyfuniad â sylweddau gweithredol neu anadweithiol eraill, fel na ellir ei adfer trwy ddulliau y gellir eu cymhwyso’n hawdd neu mewn cynnyrch sy’n peri risg i iechyd
c) nid oes unrhyw un gydran o’r cynnyrch na’r paratoad yn cynnwys mwy nag un miligram o’r cyffur rheoledig
Safbwynt y Swyddfa Gartref yw bod yr uned fesur berthnasol (hynny yw, cydran y cynnyrch neu’r paratoad) ar gyfer y ‘trothwy’ o 1mg y cyfeirir ato yn Rhan (c) o’r diffiniad yn ymwneud â’r cynhwysydd (fel potel o olew) ac nid (er enghraifft) y dos nodweddiadol tybiedig (o unrhyw gynnyrch).
Ni fydd cynhyrchion wedi’u heithrio yn ddarostyngedig i’r gwaharddiadau ar fewnforio, allforio, cynhyrchu, cyflenwi a meddu ac ati o dan yr MDA. Felly, byddai cynhyrchion CBD a gafodd eu hawdurdodi fel bwydydd newydd yn gallu aros ar y farchnad yn gyfreithiol, ar yr amod eu bod yn bodloni’r diffiniad hwn. Lle nad ydynt yn gynhyrchion wedi’u heithrio, bydd yn anghyfreithlon yn gyffredinol i'w mewnforio, eu hallforio, eu cyflenwi, eu cynhyrchu, neu feddu arnynt, ac eithrio o dan drwydded y Swyddfa Gartref.
Trwyddedau
Rhaid i’r sawl sy’n ymwneud â chynhyrchu, prosesu neu ddosbarthu cynhyrchion sy’n deillio o ganabis sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion trwyddedu’r Swyddfa Gartref, os ydynt yn berthnasol, fel y nodir yn nhaflen ffeithiau trwyddedu cyffuriau’r Swyddfa Gartref ar ganabis, CBD a chanabinoidau eraill. Mae angen trwydded bob amser er mwyn tyfu’r planhigyn canabis. Yn ogystal, mae angen trwydded ar y sawl sy’n trin rhannau rheoledig o’r planhigyn, neu sympau o gynhyrchion CBD nad ydynt yn bodloni’r diffiniad o gynnyrch wedi’i eithrio. Mae’r trwyddedau hyn yn cael eu rhoi gan y Swyddfa Gartref (neu, yng Ngogledd Iwerddon, Adran Iechyd), a dylai busnesau CBD sicrhau bod ganddynt y trwyddedau cywir os oes angen.
Dylid gwneud ceisiadau mewn da bryd, a dylai’r sawl sy’n cyflwyno trwyddedai fod yn ymwybodol, lle mae angen trwydded arnynt i drin sylweddau cyffuriau rheoledig yn gyfreithlon, nad oes darpariaeth i wneud hynny tra bod cais ar y gweill. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am geisiadau ar wefan y Llywodraeth.
Mae’r Swyddfa Gartref yn gyfrifol am gyhoeddi trwyddedau ym Mhrydain Fawr yn unig. Ar gyfer ceisiadau yng Ngogledd Iwerddon, dylai ymgeiswyr gysylltu â’r Adran Iechyd.
Gorfodi
O dan y ddeddfwriaeth bresennol, mae’n bosib na all swyddogion awdurdodau lleol a chynghorau dosbarth gymryd meddiant yn gyfreithlon o gynhyrchion CBD sy’n cynnwys mwy na’r terfyn o 1mg fel y nodir yn y diffiniad o gynnyrch wedi’i eithrio. Dim ond gydag awdurdod cyfreithlon (nad oes gan swyddogion awdurdodau lleol a chynghorau dosbarth o dan yr MDR) neu o dan drwydded y Swyddfa Gartref y gellir meddu ar gynhyrchion nad ydynt wedi’u heithrio. Dylid tynnu’r cynhyrchion oddi ar y farchnad naill ai drwy’r heddlu a fydd yn eu hatafaelu, neu drwy eu tynnu oddi ar y farchnad yn wirfoddol neu yn unol ag amod hysbysiad, ac yna gall yr heddlu eu hatafaelu, neu gellir eu hildio i’r heddlu. Fodd bynnag, dim ond yr heddlu all orfodi hyn (trwy atafaelu).
Bydd swyddogion gorfodi awdurdodau lleol yn gallu defnyddio darpariaethau gorfodi sydd wedi’u cynnwys yn Rheoliadau Bwyd Newydd 2018 cyn atafaelu, fel hysbysiadau stopio a gwella, a dirwyon, gan ofyn ar yr un pryd i’r heddlu atafaelu pe bai amheuaeth o ddiffyg cydymffurfio â deddfwriaeth cyffuriau.
Er mwyn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, bydd yr ASB yn datblygu canllawiau i egluro sut i gymhwyso cyfraith bwyd a chyffuriau at gynhyrchion bwyd CBD. Bydd yr ASB hefyd yn gweithio gyda Safonau Bwyd yr Alban (FSS) i sicrhau bod awdurdodau lleol yn yr Alban yn cael canllawiau perthnasol. Bydd y canllawiau’n nodi’r hyn y gall awdurdodau lleol ei wneud o fewn cyfraith bwyd mewn perthynas â CBD, a phryd a sut y dylent weithio gyda’r heddlu ar faterion a allai ddod o dan gyfraith cyffuriau.
Mae cwmpas y ceisiadau yn yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud â Phrydain Fawr yn unig. Fodd bynnag, o dan Fframwaith Windsor, efallai y bydd modd rhoi nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw, sydd wedi’u cymeradwyo fel bwydydd newydd, ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon, os ydynt yn gymwys ar gyfer hynny, ac yn cael eu symud i Ogledd Iwerddon drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon. Mae’r ASB yn bwriadu drafftio canllawiau ychwanegol i gefnogi cynghorau dosbarth yng Ngogledd Iwerddon mewn perthynas â chynhyrchion bwyd CBD sy’n cael eu marchnata yng Ngogledd Iwerddon, pe bai gweinidogion Prydain Fawr yn gwneud penderfyniadau i awdurdodi’r bwydydd newydd.
Rydym yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar effeithiau, os o gwbl, mewn perthynas â statws cyfreithiol THC a’r cymhlethdodau canlyniadol, os oes rhai, sy’n ymwneud â gorfodi o dan ddeddfwriaeth cyffuriau neu Reoliadau Bwydydd Newydd 2018.
Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar yr effeithiau, os o gwbl, mewn perthynas â statws cyfreithiol THC a’r cymhlethdodau canlyniadol, os oes rhai, sy’n ymwneud â gorfodi o dan ddeddfwriaeth cyffuriau neu’r Rheoliadau Bwydydd Newydd?
Oes unrhyw effeithiau eraill yn ymwneud â gorfodi yr hoffech chi dynnu sylw’r ASB atynt?
Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd yr ASB yn ystyried ymatebion rhanddeiliaid ac yn gweithio gydag FSS i sicrhau bod gan awdurdodau gorfodi ym mhob rhan o’r DU ganllawiau digonol i ymgymryd â gwaith gorfodi.
Grwpiau sy’n agored i niwed
Gwnaeth yr asesiadau diogelwch gadarnhau’r cyngor presennol i ddefnyddwyr sy’n nodi na ddylid bwyta cynhyrchion CBD os ydych chi’n feichiog neu’n bwydo ar y fron, ac y dylai pobl sy’n cymryd unrhyw feddyginiaeth ar bresgripsiwn osgoi defnyddio cynhyrchion CBD. Dylai defnyddwyr sy’n cymryd meddyginiaethau rheolaidd geisio cyngor gan weithiwr meddygol proffesiynol cyn defnyddio unrhyw fath o gynnyrch bwyd sy’n cynnwys CBD. Yn ogystal, cynghorir darpar rieni sy’n ceisio cael babi, a phlant i beidio â bwyta cynhyrchion CBD. Yn yr un modd, cynghorir y rhai sydd â system imiwnedd wan i beidio â’u bwyta hefyd oherwydd bylchau yn y data ac ansicrwydd ynghylch diogelwch CBD i’r grwpiau hyn o ddefnyddwyr.
Yn absenoldeb data, mae’r ASB ac FSS yn cynnig na ddylai pobl o dan 18 oed fwyta’r bwydydd newydd. Roedd y ceisiadau’n glir nad yw eu cynhyrchion bwyd CBD cysylltiedig sy’n cynnwys y bwyd newydd wedi’u bwriadu i’w bwyta gan bobl dan 18 oed. Yn ein canllawiau i ddefnyddwyr, mae’r ASB eisoes yn argymell na ddylai pobl dan 18 oed fwyta cynhyrchion bwyd CBD. Mae ein hargymhellion rheoli risg drafft yn adlewyrchu’r cyngor hwn, a safbwynt yr ASB yw na ddylid targedu’r cynhyrchion hyn at blant drwy unrhyw ddulliau, deunydd pecynnu, labelu na hysbysebu o unrhyw fath.
Bydd yr ASB yn parhau i weithio’n agos gyda’r diwydiant, manwerthwyr, yr Awdurdod Safonau Hysbysebu ac awdurdodau lleol i gryfhau a gwreiddio ein negeseuon i ddefnyddwyr mewn perthynas â’r rheiny dan 18 oed.
Bydd yr ASB hefyd yn archwilio cynlluniau gwirfoddol gyda’r diwydiant a manwerthwyr i sicrhau na all pobl dan 18 oed gael mynediad at y cynhyrchion hyn. Bydd gwaith ymgysylltu rhagweithiol â rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant CBD cyn i’r awdurdodiadau cyntaf ddod i rym, er mwyn cyfleu safbwynt yr ASB a’r neges na ddylid targedu’r grŵp hwn o’r boblogaeth.
Nid yw’r ASB wedi nodi unrhyw gyfiawnhad diogelwch dros argymell i weinidogion na ddylid awdurdodi’r cynhyrchion oherwydd yr ansicrwydd ynghylch diogelwch i blant. Yn lle hynny, rydym yn cynnig bod ein cyngor i weinidogion yn cynnwys gofynion labelu penodol a fydd yn ei gwneud yn glir i ddefnyddwyr na ddylai grwpiau sy’n agored i niwed, fel y’u diffinnir isod, fwyta cynhyrchion bwyd CBD. Mae’r ymgeiswyr wedi gofyn yn eu ceisiadau am gael defnyddio labelu i atal pobl dan 18 oed rhag bwyta’r cynhyrchion hyn.
Bydd yr ASB hefyd yn cydweithio ag adrannau eraill o’r llywodraeth a gweinyddiaethau datganoledig drwy’r Fframwaith Cyffredin dros dro ar Ddiogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid i gyfleu negeseuon am grwpiau sy’n agored i niwed, a hynny wrth ymgysylltu â’r diwydiant ar yr un pryd i liniaru’r risg i ddefnyddwyr ymhellach. Dylai gwaith ymgysylltu ar lefel manwerthu ac wrth ddefnyddio fframweithiau sefydledig y llywodraeth gryfhau’r gofynion labelu ychwanegol canlynol ar gyfer grwpiau sy’n agored i niwed sydd wedi’u cynnwys yn yr argymhellion drafft:
- Nodyn i ddweud nad yw’n addas i bobl o dan 18 oed.
- Nodyn i ddweud nad yw’n addas i fenywod sy’n feichiog neu sy’n bwydo ar y fron, nac ar gyfer dynion a menywod sy’n ceisio beichiogi.
- Nodyn sy’n pwysleisio, os ydych chi’n cymryd unrhyw feddyginiaethau neu os oes gennych chi system imiwnedd wan, y dylech siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn defnyddio’r cynnyrch hwn.
Rydym yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ynghylch a yw ein cynigion ar gyfer labelu yn ddigonol i atal pobl dan 18 oed rhag defnyddio’r cynhyrchion hyn.
Ydych chi’n meddwl bod y cynigion labelu sydd wedi’u cynnwys yn yr argymhellion rheoli risg drafft yn ddigonol i atal pobl dan 18 oed rhag eu defnyddio?
Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am ein dull o ddefnyddio labelu i ddiogelu grwpiau agored i niwed, neu am unrhyw un o’r cynigion labelu penodol ar gyfer ceisiadau unigol?
Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd yr ASB yn ystyried ymatebion rhanddeiliaid ac yn ymgysylltu â swyddogion mewn llywodraethau datganoledig ac adrannau eraill o’r llywodraeth, gan gynnwys yr Awdurdod Safonau Hysbysebu, ynghylch unrhyw fesurau posib pellach sy’n gysylltiedig â marchnata, labelu neu hysbysebu’r bwydydd newydd, yn ôl yr angen.
Cynhyrchion ar y rhestr gyhoeddus sy’n gysylltiedig â’r ceisiadau
Mae Rhestr Gyhoeddus yr ASB yn cynnwys manylion am gynhyrchion bwyd CBD, gan gynnwys gwybodaeth weinyddol (fel enw’r cynnyrch, y cyflenwr), ond nid cyfansoddiad manwl o’r cynhyrchion. Mae manwerthwyr yn defnyddio’r rhestr wrth ystyried pa gynhyrchion i’w stocio, a gall cyflenwyr ddefnyddio’r rhestr i ddangos hygrededd i fanwerthwyr a buddsoddwyr.
Pe bai gweinidogion yn cytuno i awdurdodi’r bwydydd newydd, bydd angen i unrhyw gynhyrchion sy’n gysylltiedig â’r ceisiadau gydymffurfio’n gyfreithiol ag unrhyw amodau defnyddio a osodir gan weinidogion fel rhan o’u hawdurdodiad. Mewn rhai achosion, efallai na fydd cynhyrchion ar y rhestr gyhoeddus – fel y maent yn cael eu marchnata ar hyn o bryd – yn cyd-fynd â’r canllawiau diweddaraf a gyhoeddir gan yr ASB neu’r telerau awdurdodi arfaethedig, fel gofynion labelu. Yn yr achosion hyn, oni bai bod busnesau’n ailfformiwleiddio ac yn ail-labelu i gydymffurfio â’r awdurdodiad, gallai’r cynhyrchion hynny, fel bwydydd newydd sy’n cael eu marchnata heb fod yn unol â thelerau awdurdodiad y bwyd newydd, fod yn destun gorfodi a byddai angen eu tynnu oddi ar y farchnad. Gallai cael gwared ar gynhyrchion presennol yn ôl yn sylweddol effeithio ar ddefnyddwyr sy’n defnyddio cynhyrchion bwyd CBD ar hyn o bryd.
Mae’r data diweddaraf o arolwg tracio mewnwelediadau defnyddwyr yr ASB (Mehefin 2025) yn dangos bod 11% o’r ymatebwyr wedi defnyddio neu fwyta CBD yn ystod y 6 mis diwethaf. Ar hyn o bryd, mae tua 3,000 o gynhyrchion bwyd CBD ar y Rhestr Gyhoeddus sy’n gysylltiedig â’r tri chais sy’n destun yr ymgynghoriad hwn.
Rydym yn ymwybodol bod busnesau’n gweithio gyda chadwyni cyflenwi cymhleth a bod modd cynllunio’r amserau arwain ar gyfer cynhyrchion newydd sawl mis ymlaen llaw yn aml. Pe na bai cynhyrchion yn cydymffurfio ar unwaith ag unrhyw un o’r telerau awdurdodi y cytunwyd arnynt, gallai fod tarfu ar gadwyni cyflenwi a manwerthwyr wrth i fusnesau gymryd y camau angenrheidiol i ddiweddaru eu cynnyrch yn unol â’r awdurdodiad. Gallai hyn olygu bod llai o gynhyrchion bwyd CBD ar gael i ddefnyddwyr.
Mae’r ASB yn cydnabod bod angen lliniaru unrhyw effeithiau ar ddefnyddwyr sy’n defnyddio’r cynhyrchion hyn o ganlyniad i’r awdurdodiadau arfaethedig, pe bai telerau’r awdurdodiadau fel y’u cynigir yn effeithio ar sut y caiff y cynhyrchion hyn eu marchnata.
Yn ddiweddar, mae’r ASB wedi diweddaru ei pholisi mewn perthynas ag ailfformiwleiddio ac ail-labelu cynhyrchion bwyd CBD ar y Rhestr Gyhoeddus ac wedi diweddaru ei chanllawiau yn unol â hynny. Gwnaethom ymgysylltu â’r diwydiant CBD ynghylch y newid polisi hwn i’r Rhestr Gyhoeddus cyn lansio ein canllawiau newydd i fusnesau. Dylai’r cyngor newydd roi sicrwydd i randdeiliaid ynghylch y safonau y mae’r ASB bellach yn disgwyl iddynt eu bodloni.
Cyn y newid polisi hwn, nid oedd busnesau’n cael gwneud unrhyw newidiadau i fformiwleiddiad na chyflwyniad cynhyrchion bwyd CBD ar y Rhestr Gyhoeddus. Mae ein cyngor newydd yn cydnabod bod busnesau eisiau ailfformiwleiddio eu cynhyrchion i fod yn unol â chyngor diogelwch diweddaraf yr ASB. Yn wir, mae ein cyngor newydd yn annog busnesau i gymryd y camau angenrheidiol i wneud newidiadau i’w cynhyrchion a rhoi gwybod i’r ASB am unrhyw newidiadau gofynnol i’r cofnod cyfatebol ar y Rhestr Gyhoeddus.
Ar yr un pryd, mae’r ASB wedi annog busnesau i ail-labelu eu cynhyrchion i gyd-fynd â chanllawiau diweddaraf yr ASB i ddefnyddwyr mewn perthynas â bwyta cynhyrchion CBD yn ddiogel. Wrth fabwysiadu’r dull hwn, rydym yn disgwyl i’r rhan fwyaf o’r effeithiau gael eu lliniaru, gan y dylai busnesau sy’n manteisio ar y cyfle i ailfformiwleiddio ac ail-labelu nawr fod mewn sefyllfa i fodloni’r telerau awdurdodi newydd fel y’u nodir yn argymhellion rheoli risg drafft yr ASB, pe bai gweinidogion yn cytuno i’r awdurdodiad.
Rydym yn ceisio safbwyntiau gan randdeiliaid ar sut y gallai awdurdodiadau effeithio ar gynhyrchion presennol ar y rhestr sy’n gysylltiedig â’r tri chais, yn ogystal â chynhyrchion presennol eraill nad ydynt yn gysylltiedig â’r tri chais.
Oes gennych chi unrhyw sylwadau ynghylch sut y gallai awdurdodiadau effeithio ar gynhyrchion presennol ar y Rhestr Gyhoeddus o gynhyrchion bwyd CBD?
Pe bai’r bwydydd newydd yn cael eu hawdurdodi, pa effeithiau, os o gwbl, sydd ar ddefnyddwyr neu fusnesau mewn perthynas â marchnata cynhyrchion sydd eisoes ar y Rhestr Gyhoeddus?
Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd yr ASB ac FSS yn gwerthuso ymatebion rhanddeiliaid ac yn ystyried a oes angen cynigion ychwanegol i reoli’r effaith ar ddefnyddwyr a chynhyrchion presennol, cyn gwneud argymhellion i weinidogion.
Diogelu data
O dan Erthygl 26 o Reoliad a gymathwyd (CE) 2015/2283 , mae’r tri ymgeisydd wedi gofyn am ddiogelu’r data perchnogol a ddarparwyd i gefnogi diogelwch y bwydydd newydd yn eu ceisiadau. O dan y rheoliad hwn, mae gan yr ymgeiswyr hawl i fynnu bod eu data’n cael ei ddiogelu, ac mae hyn wedi’i adlewyrchu yn y telerau awdurdodi arfaethedig ar gyfer pob cais.
Mae’r telerau awdurdodi arfaethedig yn cynnwys cyfnod diogelu data o 5 mlynedd o ddyddiad yr awdurdodiad ar gyfer data gwyddonol a thystiolaeth wyddonol berchnogol benodol a ddarperir ar gyfer pob bwyd newydd. Yn ystod y cyfnod hwn, dim ond yr ymgeisydd all farchnata’r bwyd newydd oni bai bod ymgeisydd dilynol yn cael awdurdodiad ar gyfer y bwyd newydd heb gyfeirio at y data perchnogol a ddiogelir o dan Erthygl 26, neu gyda chydsyniad yr ymgeisydd cychwynnol.
Gallai’r trefniadau diogelu data sy’n cael eu cynnig arwain at effeithiau ar fusnesau eraill sy’n marchnata cynhyrchion bwyd CBD. O dan amgylchiadau arferol, ni fyddai awdurdodiad bwyd newydd sy’n diogelu data deiliad yr awdurdodiad yn effeithio ar fusnesau na chynhyrchion sydd ohoni oherwydd na fyddai marchnad bresennol o gynhyrchion i effeithio arnynt. Yn achos cynhyrchion bwyd CBD, fodd bynnag, mae marchnad wedi bodoli ers dros 10 mlynedd. Ar hyn o bryd, mae’r rhestr gyhoeddus yn cynnwys tua 11,500 o gynhyrchion bwyd CBD sy’n gysylltiedig â cheisiadau sy’n mynd drwy’r broses awdurdodi. Gallai’r mesurau diogelu data a ddarperir o fewn telerau’r awdurdodiad atal busnesau eraill rhag defnyddio’r CBD awdurdodedig yn eu cynhyrchion, ni waeth a ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr ai peidio, oni bai eu bod wedi cael awdurdodiad ar wahân heb gyfeirio at y data perchnogol y gweithredwyd mesurau diogelu data ar ei gyfer.
Rydym yn ceisio safbwyntiau gan randdeiliaid ar sut y gallai’r darpariaethau diogelu data yn nhermau awdurdodi pob argymhelliad effeithio ar gynhyrchion presennol, y diwydiant CBD cyfan, neu waith gorfodi cynhyrchion bwyd CBD ar y farchnad.
Oes gennych chi unrhyw sylwadau ynghylch sut y gallai’r darpariaethau diogelu data yn yr argymhellion rheoli risg drafft effeithio ar gynhyrchion presennol, y diwydiant CBD cyfan, neu waith gorfodi cynhyrchion bwyd CBD ar y farchnad?
Yn dilyn ymgynghoriad, bydd yr ASB yn gwerthuso ymatebion rhanddeiliaid er mwyn deall yn well effaith diogelu data ar y farchnad CBD bresennol.
Cynnwys canabinoid
Canfu’r asesiadau diogelwch ar gyfer y ceisiadau yn yr ymgynghoriad hwn fod cynnwys CBD â lefel purdeb o fwy na 98% yn gyson, gyda symiau dibwys o ganabinoidau eraill yn cael eu canfod ar draws sypiau neu heb eu canfod o gwbl.
THC, sef math o ganabinoid, yw prif gynhwysyn seicoweithredol canabis (Cannabis sativa) ac un o o leiaf 113 o ganabinoidau a geir yn y planhigyn. Yr isomer mwyaf niferus o THC a geir yn naturiol mewn planhigion cywarch a chanabis yw Delta-9 Tetrahydrocanabinol (Δ9-THC).
Ar gyfer Δ9-THC, cynigir lefel uchaf yn nhermau’r awdurdodiad. Mae’r lefel hon yn benodol i bob cais ac mae’n seiliedig ar ganlyniadau profion a gyflwynir gan bob cais. Y dull a gymerir gan yr ASB yw gosod y lefel hon ar lefel mor isel ag y bo’n rhesymol gyraeddadwy. Mae hyn yn gyson â’r dull o reoli halogion eraill mewn bwyd.
Disgwylir mai dim ond mewn symiau isel iawn y bydd canabinoidau rheoledig eraill yn bresennol yn y bwydydd newydd. Mae’r Cyngor Ymgynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau (ACMD) yn cydnabod bod y data sydd ar gael ar y canabinoidau rheoledig eraill hyn yn awgrymu eu bod yn llai cryf a bod y dos a fyddai'n achosi adweithiau seicoweithredol yn uwch nag ar gyfer THC. Mae hyn wedi’i nodi yng nghyngor yr ACMD ar gynhyrchion canabidiol (CBD) i ddefnyddwyr – GOV.UK. Ni ddisgwylir y bydd y canabinoidau hyn yn bresennol yn y bwydydd newydd ar lefelau a fyddai’n achosi effeithiau andwyol. Bydd defnyddwyr yn cael eu diogelu rhag y sylweddau rheoledig hyn drwy ddilyn cyngor yr ASB i ddefnyddwyr ar y cymeriant dyddiol derbyniol dros dro ar gyfer CBD.
Gogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, mae cynhyrchion bwyd CBD yn fwydydd newydd heb eu hawdurdodi. Mae angen awdurdodi cynhyrchion bwyd CBD o dan gyfraith yr UE, yn benodol yn unol â Rheoliad yr UE 2015/2283, cyn iddynt gael eu rhoi ar y farchnad.
Nid yw’r Comisiwn Ewropeaidd wedi awdurdodi unrhyw gynhyrchion bwyd CBD fel bwydydd newydd ar gyfer marchnad yr UE eto. Felly, nid oes unrhyw gynhyrchion bwyd CBD awdurdodedig ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd.
O dan Fframwaith Windsor, gellir rhoi cynhyrchion bwyd CBD sydd wedi’u cymeradwyo fel bwydydd newydd ym Mhrydain Fawr ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon, os ydynt yn gymwys ar gyfer Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS), a’u bod yn cael eu symud drwyddo. O dan delerau NIRMS, dim ond nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw y gellir eu symud i Ogledd Iwerddon, felly ni fyddai’r Cynllun yn caniatáu i fusnesau sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon gynhyrchu eu cynhyrchion CBD eu hunain, ond byddai’n gyfreithlon iddynt fewnforio cynhyrchion wedi’u cynhyrchu ymlaen llaw o Brydain Fawr.
Monitro ôl-farchnad
Nid oes angen gwaith monitro ôl-farchnad fel rhan o’r ceisiadau hyn. Fodd bynnag, mae’r ASB yn bwriadu gweithio gyda’r diwydiant ac adrannau eraill o’r llywodraeth i weld sut mae’r farchnad CBD yn datblygu a sut mae cynhyrchion yn cael eu marchnata a’u defnyddio.
Argymhelliad yr ASB
Mae’r ASB wedi paratoi argymhellion rheoli risg drafft ar gyfer pob un o’r ceisiadau yn yr ymgynghoriad hwn (mae manylion llawn i’w cael yn yr atodiadau perthnasol):
Atodiad A: RP 7, Canabidiol synthetig (CBD) (awdurdodiad newydd ar gyfer bwyd newydd)
Atodiad B: RP 350, Arunigyn canabidiol (CBD) (awdurdodiad newydd ar gyfer bwyd newydd)
Atodiad C: RP 427, Canabidiol (CBD) arunig sy’n deillio o gywarch (Cannabis sativa), (awdurdodiad newydd ar gyfer bwyd newydd)
England, Northern Ireland and Wales
Ar gyfer pob un o’r ceisiadau, mae’r ASB yn cynnig argymell awdurdodi o dan y telerau awdurdodi penodedig. Yn dilyn yr ymgynghoriad ac ar ôl ystyried ymatebion rhanddeiliaid, bydd yr ASB yn paratoi argymhellion terfynol ar gyfer gweinidogion yng Nghymru a Lloegr, a fydd yn gwneud penderfyniadau ynghylch a ddylid awdurdodi cynhyrchion bwyd CBD fel bwydydd newydd ar gyfer y marchnadoedd priodol ai peidio.
Y broses ymgysylltu ac ymgynghori
Bob mis, cyhoeddir manylion yr holl geisiadau dilys am gynhyrchion rheoleiddiedig ar y Gofrestr Ceisiadau am Gynhyrchion Rheoleiddiedig ar wefan yr ASB.
Gwahoddir rhanddeiliaid i ystyried y cwestiynau a ofynnir isod mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith a gymathwyd a ffactorau dilys eraill.
Yn dilyn y broses ymgynghori, bydd ymatebion ar gael ar wefan yr ASB ac yn cael eu rhannu â gweinidogion.
Cwestiynau
Y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn:
1. Oes gennych chi unrhyw bryderon am ddiogelwch y bwydydd newydd o ran y defnyddwyr arfaethedig? Os felly, rhowch dystiolaeth ychwanegol os oes ar gael.
2. Oes gennych chi unrhyw sylwadau neu bryderon am effeithiau awdurdodi neu beidio ag awdurdodi’r bwydydd newydd, ac, os ydych o blaid awdurdodi, delerau awdurdodi’r bwydydd newydd (fel yr amlinellir yn argymhellion rheoli risg yr ASB)?
3. Oes unrhyw ffactorau eraill y dylai gweinidogion eu hystyried sydd heb eu hamlygu’n barod?
4. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ynghylch sut y gallai awdurdodiadau effeithio ar gynhyrchion presennol ar y Rhestr Gyhoeddus o gynhyrchion bwyd CBD?
5. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ynghylch sut y gallai’r darpariaethau diogelu data yn yr argymhellion rheoli risg drafft effeithio ar gynhyrchion presennol, y diwydiant CBD cyfan, neu waith gorfodi cynhyrchion bwyd CBD ar y farchnad?
6. Ydych chi’n meddwl bod y darpariaethau labelu mewn perthynas â’r cymeriant dyddiol derbyniol (ADI) yn ddigonol i helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau diogel wrth fwyta nifer o gynhyrchion CBD mewn un diwrnod?
7. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ynghylch a oes potensial i ddefnyddwyr gael eu camarwain drwy awdurdodi’r bwydydd newydd yn y categori ‘atchwanegiadau bwyd’, neu a yw hyn yn cefnogi buddiannau defnyddwyr?
8. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar yr effeithiau, os o gwbl, mewn perthynas â statws cyfreithiol THC a’r cymhlethdodau canlyniadol, os oes rhai, sy’n ymwneud â gorfodi o dan ddeddfwriaeth cyffuriau neu’r Rheoliadau Bwydydd Newydd?
9. Ydych chi’n meddwl bod y cynigion labelu sydd wedi’u cynnwys yn yr argymhellion rheoli risg drafft yn ddigonol i atal pobl pobl dan 18 oed rhag eu defnyddio?
10. Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am ein dull o ddefnyddio labelu i ddiogelu grwpiau agored i niwed, neu am unrhyw un o’r cynigion labelu penodol ar gyfer ceisiadau unigol?
11. Oes gennych chi unrhyw sylwadau am awdurdodi’r bwydydd newydd yn unrhyw un o’r categorïau eraill a bennir yn yr argymhellion rheoli risg drafft?
12. Oes unrhyw effeithiau eraill yn ymwneud â gorfodi yr hoffech chi dynnu sylw’r ASB atynt?
13. Pe bai’r bwydydd newydd yn cael eu hawdurdodi, pa effeithiau, os o gwbl, sydd ar ddefnyddwyr neu fusnesau mewn perthynas â marchnata cynhyrchion sydd eisoes ar y Rhestr Gyhoeddus?
14. Oes gennych chi unrhyw adborth arall ar yr wybodaeth a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad, neu ar unrhyw beth nad yw wedi’i gynnwys?
Ymatebion
Rhaid i ymatebion ddod i law erbyn diwedd y dydd 20 Tachwedd 2025. Yn eich ymateb, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn preifat, neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).
Ymatebwch i’r ymgynghoriad drwy’r arolwg ar-lein. Os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i: RPconsultations@food.gov.uk
Nodwch pa gais/ceisiadau neu gynnyrch/cynhyrchion rydych chi’n ymateb yn eu cylch trwy ddefnyddio’r llinell bwnc ganlynol ar gyfer eich ymateb:
Ymateb i [mewnosod rhif(au) RP os yw’n berthnasol] a phwnc yr ymgynghoriad [CBD – bwydydd newydd].
Os byddwch yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.
Ein nod yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn o fewn 12 wythnos ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben.
I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifratrwydd ar gyfer ymgynghoriadau.
Bydd yr ymatebion yn cael eu rhannu â gweinidogion yng Nghymru, Lloegr yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mwy o wybodaeth
Os bydd angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat sy’n haws i’w ddarllen, anfonwch fanylion at y cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried.
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Fawrhydi.
Ar ran yr ASB, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.
Tîm Awdurdodi Cynhyrchion Rheoleiddiedig i’w rhoi ar y Farchnad
Diffiniadau
Y math o gynnyrch rheoleiddiedig a geir yn yr ymgynghoriad hwn yw bwydydd newydd.
Gall yr wybodaeth a’r diffiniadau canlynol fod o ddefnydd wrth ymateb i’r ymgynghoriad hwn.
Cynhyrchion Rheoleiddiedig – haid i rai cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid, a elwir yn gynhyrchion rheoleiddiedig, fynd trwy asesiad diogelwch fel rhan o’r broses dadansoddi risg, ac mae angen awdurdodiad arnynt cyn y gellir eu gwerthu yn y DU. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio, gan gynnwys y prosesau asesu diogelwch a rheoli risg, a chyfraniad gweinidogion, yma: Cefndir ar roi cynnyrch rheoleiddiedig ar y farchnad
Mae bwydydd newydd yn fwydydd sydd heb gael eu bwyta gan bobl i raddau helaeth yn y DU neu’r UE cyn 15 Mai 1997. Er mwyn rhoi bwydydd newydd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, neu newid y manylebau neu’r amodau ar gyfer defnyddio bwydydd newydd awdurdodedig, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cais yn unol â Rheoliad a gymathwyd 2015/2015.
Canllawiau ar awdurdodi bwydydd newydd
Cyfraith a gymathwyd – Nid yw deddfwriaeth yr UE sy’n uniongyrchol gymwys bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Cafodd deddfwriaeth yr UE, a ddargedwyd (‘retained’) pan ymadawodd y DU â’r UE, ei chymathu (‘assimilate’) ar 31 Rhagfyr 2023. Pan fydd cyfeiriadau at ddeddfwriaeth ag ‘UE/EU’ neu ‘CE/EC’ yn y teitl, dylid ystyried bod y rhain bellach yn gyfraith a gymathwyd lle bônt yn gymwys i Brydain Fawr. Cyhoeddir cyfreithiau a gymathwyd ar legislation.gov.uk. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.
Mae'r Fframwaith Cyffredin dros dro ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn drefniant anstatudol rhwng Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig i sefydlu dulliau cyffredin o ymdrin â meysydd polisi lle mae pwerau wedi dychwelyd o’r UE o fewn meysydd lle y mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli. Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i ddatblygu yn unol â’r ymrwymiadau i weithio ar y cyd ar draws y pedair gwlad, fel y nodir yn y Fframwaith hwn. Felly, datblygwyd yr ymgynghoriad hwn drwy ddull pedair gwlad. Cytunir ar yr argymhellion terfynol ar sail pedair gwlad cyn eu cyflwyno i weinidogion Cymru, Lloegr a’r Alban, gyda Gweinidog Iechyd Gogledd Iwerddon yn cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf. Mae Gogledd Iwerddon yn parhau i gymryd rhan lawn yn y prosesau dadansoddi risg sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae hyn yn adlewyrchu rôl annatod Gogledd Iwerddon yn y DU ac yn sicrhau bod unrhyw benderfyniad a wneir yn ystyried yn llawn yr effeithiau posib ar y DU yn ei chyfanrwydd.
Cyfnodau trosiannol – Gellir defnyddio trefniadau trosiannol, er enghraifft, pan fo’r meini prawf ar gyfer awdurdodiad newydd yn wahanol i’r awdurdodiad bwyd neu fwyd anifeiliaid cyfredol er mwyn caniatáu i stociau a chynhyrchion presennol ar y farchnad gael eu defnyddio. Ni chyfeirir at drefniadau pontio oni bai bod hynny’n gymwys, yn seiliedig ar newid sylweddol rhwng yr awdurdodiad cyfredol a’r awdurdodiad newydd.
Fframwaith Windsor – Ar gyfer nwyddau sy’n gymwys ar gyfer Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS):
- Ym mis Hydref 2023, rhoddwyd Fframwaith Windsor ar waith gan ddarparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion bwyd manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.
- Gall y nwyddau hyn fodloni’r un safonau sydd ar waith yng ngweddill y DU ym maes iechyd y cyhoedd, marchnata (gan gynnwys labelu) a bwydydd organig wrth symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).
- Gall symud nwyddau sy’n cael eu hawdurdodi ym Mhrydain Fawr gael eu symud i Ogledd Iwerddon drwy NIRMS.
- Mae’r ASB yn parhau i ymrwymo i sicrhau y gall defnyddwyr ar draws y DU fod yn hyderus bod bwyd yn ddiogel a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, hyd yn oed lle gall rheolau sy’n gymwys i’r un math o fwyd fod ychydig yn wahanol.
Asesiad diogelwch – mae aseswyr risg ASB/FSS yn cyflwyno’r wyddoniaeth sy’n sail i’n cyngor. Maent yn gyfrifol am nodi a disgrifio peryglon a risgiau i iechyd, ac am asesu lefelau cysylltiad (‘exposure’). Mae dolenni i’r asesiad diogelwch ar gyfer pob cais i’w gweld yn yr Atodiad cyfatebol perthnasol isod (Saesneg yn unig).
Rheoli risg – Mae ein hymgynghorwyr polisi yn gyfrifol am yr allbynnau rheoli risg. Mae dogfen argymhellion rheoli risg yr ASB yn cyflwyno’r ffactorau y maent wedi’u nodi fel rhai sy’n berthnasol i’r ceisiadau hyn, gan gynnwys effaith bosib unrhyw benderfyniad a wneir gan weinidogion, ac mae’n cynnwys telerau awdurdodi arfaethedig a darpariaethau perthnasol eraill. Mae dolenni i’r ddogfen argymhellion rheoli risg ar gyfer pob cais i’w gweld yn yr Atodiad cyfatebol perthnasol isod (Saesneg yn unig).
Canabidiol (CBD) – Mae CBD yn un o lawer o gemegion a elwir yn ganabinoidau (‘cannabinoids’). Mae’n bresennol mewn planhigion cywarch (‘hemp’) a chanabis, a gellir ei gynhyrchu’n synthetig. Gellir cael echdyniadau (‘extracts’) CBD o’r rhan fwyaf o rannau planhigion canabis neu gywarch. Gellir eu hechdynnu’n ddetholus, a gall hynny grynodi CBD. Gall rhai prosesau newid cyfansoddion cemegol eraill.
Tetrahydrocanabinol – THC yw prif gynhwysyn seicoweithredol canabis (Cannabis sativa) ac un o o leiaf 113 o ganabinoidau a geir yn y planhigyn. Mae THC wedi’i ddosbarthu’n sylwedd rheoledig ac mae’n destun rheolaeth o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 a Rheoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001. Mae’n adnabyddus am ei effeithiau seicoweithredol, a all achosi teimlad o ewfforia a gwneud i rywun ymlacio.
Delta-9 Tetrahydrocanabinol (Δ9-THC) – Yr isomer mwyaf niferus o THC a geir yn naturiol mewn planhigion cywarch a chanabis. Mae presenoldeb Δ9-THC, a’i ffurf asid rhagflaenol, sef Δ9-THCA, fel halogion yn anochel mewn bwydydd newydd CBD ac mewn cynhyrchion eraill sy’n deillio o gywarch.
Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP) – Pwyllgor arbenigol annibynnol sy’n cynnwys gwyddonwyr ac arbenigwyr o amrediad eang o ddisgyblaethau gwyddonol, sy’n rhoi cyngor gweithredol i’r ASB ar faterion yn ymwneud â bwydydd newydd, bwydydd newydd traddodiadol, cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n deillio o dechnolegau genetig a phrosesau bwyd newydd gan gynnwys arbelydru bwyd.
Pwyllgor ar Wenwyndra (COT) – Pwyllgor gwyddonol annibynnol yw hwn sy’n rhoi cyngor i’r Asiantaeth Safonau Bwyd, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac adrannau ac asiantaethau eraill o’r llywodraeth ar faterion sy’n ymwneud â gwenwyndra cemegion.
Hanes diwygio
Published: 25 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Awst 2025