Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn diweddaru canllawiau sy’n caniatáu i fusnesau CBD ailfformiwleiddio cynhyrchion ar y Rhestr Gyhoeddus am resymau diogelwch
Mae busnesau CBD sydd â cheisiadau ar Restr Gyhoeddus yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cael eu hannog i ailfformiwleiddio cynhyrchion bwyd i wella diogelwch defnyddwyr. Cynhyrchion yw'r rhain sydd ar werth ar hyn o bryd yng Nghymru a Lloegr, nad ydynt yn newydd i'r farchnad, ac mae cais credadwy i'w hawdurdodi wedi'i gyflwyno i'r ASB.
Mae'r newidiadau, a gyhoeddwyd heddiw, yn annog busnesau i fodloni’r cymeriant dyddiol derbyniol dros dro o CBD, sef 10 mg y dydd (sy’n cyfateb i 0.15 mg/kg o bwysau’r corff y dydd o CBD ar gyfer oedolyn 70kg) a’r terfyn uchaf diogel o THC, sef 0.07 mg y dydd (sy’n cyfateb i 1 µg/kg o bwysau’r corff y dydd o THC ar gyfer oedolyn 70kg). Cytunwyd ar y terfyn uchaf diogel ar gyfer THC ar sail cyngor gan ein pwyllgorau cynghori gwyddonol annibynnol, a gyhoeddwyd heddiw hefyd. Mae'n rhaid i bob cynnyrch CBD hefyd gydymffurfio â Deddf 1971 a Rheoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001.Diweddarwyd y cymeriant dyddiol derbyniol ar gyfer CBD ddiwethaf ym mis Hydref 2023.
Mae’r newid i’r canllawiau yn annog cydymffurfio â Rheoliadau bwyd newydd, gan flaenoriaethu iechyd y cyhoedd. Bydd caniatáu i fusnesau ailfformiwleiddio eu cynhyrchion ar y cam hwn yn gwneud y broses awdurdodi yn fwy effeithlon, a bydd defnyddwyr ar eu hennill, gan y bydd y cynhyrchion CBD ar y farchnad yn fwy diogel.
‘Mae ein dull pragmatig yn caniatáu i fusnesau wneud y peth iawn o safbwynt diogelwch defnyddwyr, wrth symud ymlaen tuag at gydymffurfiaeth lawn â’r rheoliadau. Mae’r hyblygrwydd hwn yn creu llwybr cliriach i fusnesau CBD, wrth hefyd sicrhau bod cynhyrchion yn bodloni ein safonau diogelwch.
Nid oes angen i fusnesau sydd â chynhyrchion ar y rhestr gysylltu â’r ASB os nad yw ailfformiwleiddio yn effeithio ar fanylion y cynnyrch ar y rhestr. Os yw ailfformiwleiddio yn gofyn am newidiadau i fanylion cynnyrch, mae’n rhaid i fusnesau ddarparu rhif eu cais, diweddariadau angenrheidiol, a chadarnhad bod y newidiadau’n gysylltiedig â diogelwch.
Mae’r ASB yn cynghori pob busnes bwyd CBD i adolygu labeli cynhyrchion, er mwyn sicrhau eu bod yn arddangos y terfyn cymeriant dyddiol derbyniol ar gyfer CBD a argymhellir, yn ogystal â gwybodaeth diogelwch allweddol fel cyfyngiadau o ran oedran a rhybuddion i’r sawl sy’n feichiog neu’n cymryd meddyginiaethau. Rydym yn parhau i gynghori na ddylai pobl dan 18 oed, pobl sy’n cymryd meddyginiaethau, a’r sawl sy’n bwydo ar y fron, yn feichiog neu’n ceisio beichiogi ddefnyddio CBD.
Mae’r diweddariad hwn yn nodi cam arall yng ngwaith yr ASB i sicrhau bod y diwydiant CBD yn cydymffurfio â chyfraith bwyd, gan gefnogi diogelwch defnyddwyr a thwf busnes cyfreithlon yn y sector hwn sy’n tyfu.