Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar gynigion am fframwaith newydd yn Lloegr ar gyfer rheoleiddio organebau wedi’u bridio’n fanwl a ddefnyddir mewn bwyd a bwyd anifeiliaid

Penodol i Loegr

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw rhoi’r cyfle i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) gasglu safbwyntiau rhanddeiliaid ar gynigion i greu fframwaith newydd yn Lloegr o dan Ddeddf Technoleg Enetig (Bridio Manwl) 2023 ar gyfer rheoleiddio bwyd a bwyd anifeiliaid a gynhyrchir o Organebau wedi’u Bridio’n Fanwl (PBOs).

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 November 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 November 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Ymgynghoriad ar gynigion polisi sy'n gymwys i Loegr gydag effeithiau i'w gweld ar wledydd eraill y DU.

I bwy fydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb? 

  • Defnyddwyr
  • Busnesau bwyd/bwyd anifeiliaid y DU a rhai rhyngwladol, a chyrff masnach y diwydiant
  • Awdurdodau cymwys (awdurdodau lleol y DU ac awdurdodau iechyd porthladdoedd) 
  • Sefydliadau anllywodraethol / Cymdeithas Sifil
  • Sefydliadau sicrwydd trydydd parti

Pwnc yr ymgynghoriad

Cafodd Deddf Technoleg Enetig (Bridio Manwl) 2023 (“y Ddeddf”) Gydsyniad Brenhinol ar 23 Mawrth 2023. Mae’r Ddeddf, sy’n gymwys yn Lloegr, yn cynnwys pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud is-ddeddfwriaeth o dan Rannau 3, 4 a 5 o’r Ddeddf, a hynny er mwyn gwneud darpariaeth ar gyfer rheoleiddio PBOs a ddefnyddir mewn bwyd/bwyd anifeiliaid a’u rhoi ar y farchnad yn Lloegr. 

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio casglu safbwyntiau rhanddeiliaid a phartïon â buddiant ar y cynigion ar gyfer rheoleiddio a’r effaith gysylltiedig.

Pecyn ymgynghori 

Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu’r wybodaeth gefndirol a’r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn. Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael ar y tudalennau canlynol hefyd. 

Ymgynghoriad ar gynigion am fframwaith newydd yn Lloegr ar gyfer rheoleiddio organebau wedi’u bridio’n fanwl a ddefnyddir mewn bwyd a bwyd anifeiliaid (Fersiwn hygyrch)

Sut i ymateb

Byddai’n well gennym pe gallech ymateb gan ddefnyddio’r ffurflen ymgynghori ar-lein, a hynny erbyn 8 Ionawr 2024.

Fel arall, gallwch ymateb drwy e-bostio: precisionbreeding@food.gov.uk

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.