Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar y canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM)

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio adborth mewn perthynas â chanllawiau newydd ar MSM. Nod y canllawiau yw rhoi cymorth i weithredwyr busnesau bwyd, yn dilyn dyfarniadau’r Llys sy’n egluro sut y dylid dehongli a chymhwyso’r diffiniad o gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM).

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 April 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 April 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

  • Gweithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig yn ystod eu prosesau cynhyrchu; a’r rhai sy’n defnyddio MSM fel cynhwysyn
  • Swyddogion Gorfodi Cyfraith Bwyd
  • Cyrff masnach y diwydiant cig
  • Defnyddwyr

Pwnc yr ymgynghoriad

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio adborth mewn perthynas â chanllawiau newydd ar MSM. Nod y canllawiau yw rhoi cymorth i weithredwyr busnesau bwyd, yn dilyn dyfarniadau’r Llys sy’n egluro sut y dylid dehongli a chymhwyso’r diffiniad o gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM).

Diben yr ymgynghoriad

Ceisir adborth o’r ymgynghoriad yn benodol ar y canlynol:

  • pa mor effeithiol yw’r ddogfen ganllaw ar MSM (Saesneg yn unig) o ran darparu cefnogaeth yn sgil dyfarniadau’r Llys
  • yr effeithiau wrth i weithredwyr busnesau bwyd addasu eu gweithgareddau a’u gweithrediadau yn unol â dyfarniadau’r Llys
  • a oes materion ehangach yn gysylltiedig ag MSM y dylai’r ASB, neu’r llywodraeth ehangach, fod yn ceisio mynd i’r afael â nhw, a pham

Pecyn ymgynghori

Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu’r wybodaeth gefndirol a’r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn. 

Ymgynghoriad ar y canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM) (Fersiwn hygyrch)

Canllawiau drafft

Diffiniad MSM a’r goblygiadau ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd (Saesneg yn unig – fersiwn hygyrch)

Sut i ymateb

Mae angen i ymatebion ddod i law erbyn 22 Mai 2024. Yn eich ymateb, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad neu gwmni, gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli.

Dylech ymateb i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio’r arolwg ar-lein (Arolwg Ymgynghoriad MSM (surveymonkey.com)). Gellir hefyd anfon adborth dros e-bost i meathygiene@food.gov.uk

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.