Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar y canllawiau i awdurdodau lleol ar nwyddau’r Farchnad Lwyd a roddir ar farchnad y Deyrnas Unedig

Ymgynghoriad yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar ganllawiau gorfodi sy'n ymwneud â nwyddau'r Farchnad Lwyd yn y Deyrnas Unedig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2025

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

  • Timau bwyd awdurdodau lleol a chynghorau dosbarth, gan gynnwys swyddogion safonau masnach, swyddogion iechyd yr amgylchedd
  • Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd.

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth awdurdodau gorfodi mewn perthynas â’r canllawiau a gynhyrchwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i gefnogi awdurdodau gorfodi wrth iddynt nodi a chymryd camau gweithredu ar fwyd nad yw wedi’i fwriadu ar gyfer marchnad y DU. 

Gall y bwydydd hyn, a ddisgrifir hefyd fel ‘nwyddau’r farchnad lwyd’, gynnwys gormod o ychwanegion a/neu gynhwysion, neu rai anawdurdodedig, nad ydynt yn bodloni’r gofynion a nodir yn neddfwriaeth diogelwch bwyd y DU. Gallant hefyd fethu â nodi alergenau yn y fformat rhagnodedig. 

Hoffem wybod y canlynol:

  • Ydy’r canllawiau’n nodi’n glir sut y gall awdurdodau ddefnyddio cyfraith bwyd i gymryd camau gorfodi mewn achosion lle canfyddir nwyddau’r Farchnad Lwyd nad ydynt yn cydymffurfio? 
  • Oes unrhyw beth ar goll o’r canllawiau neu feysydd nad yw’r canllawiau’n eu trafod yn ddigonol?
  • Ydych chi’n teimlo bod yr opsiynau gorfodi a amlinellir (er enghraifft atafaelu, hysbysiadau gwella, erlyn) yn ddigonol ac yn gymesur? Os nad ydych, pa opsiynau ychwanegol y dylid eu hystyried?
  • Ydy’r canllawiau ar dorri’r rheolau o ran gosod labeli neu sticeri ar ben y rhai gwreiddiol yn glir?
  • Ydy’r hysbysiadau sbesimen a’r llythyrau enghreifftiol a ddarperir yn ddefnyddiol ar gyfer eich gwaith gorfodi? A fyddai unrhyw enghreifftiau eraill o ddefnydd?
  • Ydy’r canllawiau’n rhoi mwy o hyder i chi gymryd camau gorfodi pan ganfyddir nwyddau’r Farchnad Lwyd nad ydynt yn cydymffurfio?
  • Oes unrhyw fylchau yn y canllawiau ynghylch gorfodi ar draws ffiniau neu gydlynu ag awdurdodau iechyd porthladdoedd?
  • At ddiben y dyfodol, pa hyfforddiant neu adnoddau ychwanegol fyddai’n ddefnyddiol er mwyn eich cefnogi ymhellach â’r canllawiau hyn?
  • Oes gennych chi unrhyw adborth arall?

Dogfennau'r canllawiau

Missing media item.

Sut i ymateb

Wrth ymateb i’r ymgynghoriad hwn, dylech roi “Ymgynghoriad” yn y llinell bwnc ac anfon yr e-bost i food.intelligence@food.gov.uk 

Wrth ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad/cwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).

Mae angen cyflwyno ymatebion erbyn 23:59 ddydd Gwener 24 Hydref 2025. 
 

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.