Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Adolygiad o Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol a Phwyllgorau Arbenigol ar y Cyd

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi adroddiadau adolygiadau mewnol o dri o’i Phwyllgorau Cynghori Gwyddonol (SACs) a thri Grŵp Arbenigol ar y Cyd (JEGs).

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 November 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 November 2022

Mae’r adolygiadau hyn yn herio ac yn sicrhau llywodraethu da ac effeithlonrwydd Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd mewn modd rheolaidd.

Dyma’r pwyllgorau cynghori sy’n cael eu hadolygu: 

  • Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Cynnyrch Defnyddwyr a’r Amgylchedd (COT)
  • Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP)
  • Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd (ACMSF) 

Dyma’r Grwpiau Arbenigol ar y Cyd sy’n cael eu hadolygu:  

  • Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar Ychwanegion, Ensymau a Chynhyrchion Rheoleiddiedig Eraill (AERJEG)
  • Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar Fwyd Anifeiliaid ac Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (AFFAJEG)
  • Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar Ddeunyddiau a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd (FCMJEG) 

Mae’r Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol yn destun adolygiad o dan raglen adolygu Cyrff Cyhoeddus Swyddfa’r Cabinet.

Adroddiadau

Darllenwch yr adroddiadau llawn ar wefan y Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol.