Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Adroddiad cyntaf ar safonau bwyd y Deyrnas Unedig yn rhybuddio am heriau ar y gorwel

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban yn lansio adolygiad eang wedi’i seilio ar dystiolaeth o system fwyd y Deyrnas Unedig

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 June 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 June 2022

Heddiw (27 Mehefin), mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban wedi lansio Ein Bwyd: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU, sef adolygiad manwl o'n safonau bwyd. Hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau a fydd yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol, fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i dryloywder ac er mwyn sicrhau bod seneddwyr, partneriaid masnachu a defnyddwyr gartref a thramor yn gallu parhau i fod yn ymwybodol o’r newidiadau i’n system fwyd a’r heriau sy’n ei hwynebu. 

Daw’r adroddiad blynyddol cyntaf hwn ar ôl i’r system fwyd wynebu dwy flynedd o ansefydlogrwydd  mawr yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig (DU) â’r Undeb Ewropeaidd (UE), effeithiau sylweddol pandemig COVID-19 ac, yn fwy diweddar, y tarfu sydd wedi’i achosi gan y rhyfel yn Wcráin.

Er gwaethaf y pwysau sylweddol hyn, daw’r adroddiad i'r casgliad gofalus bod safonau bwyd yn y DU wedi cael eu cynnal i raddau helaeth. Fodd bynnag, er na fu tystiolaeth o ostyngiad mewn safonau, mae'r adroddiad yn rhybuddio am yr heriau sydd o'n blaenau.

Dau o'r prif bryderon a nodwyd yw'r gostyngiad yn nifer yr arolygiadau o fusnesau bwyd a gynhaliwyd, o ganlyniad i'r pwysau ar adnoddau awdurdodau lleol. Yn ail, mae’r oedi wrth bennu rheolaethau mewnforio llawn y DU ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel o’r UE wedi lleihau’r gallu i atal bwyd anniogel rhag cyrraedd marchnad y DU.
 

Meddai’r Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB: 

“Mae’r cyd-adroddiad cyntaf hwn yn myfyrio ar gyfnod pan fu cryn bryder ynghylch effaith digwyddiadau byd-eang ar safonau bwyd a diogelwch.

“Mae’n galonogol i ddefnyddwyr y DU a’n partneriaid masnachu rhyngwladol fod yr adroddiad hwn yn rhoi sicrwydd bod y safonau bwyd uchel rydym yn eu mwynhau yn y DU wedi’u cynnal yn ystod cyfnod anodd iawn i’r system fwyd. Fodd bynnag, mae effeithiau llawn y digwyddiadau pwysig hyn yn dal i amlygu eu hunain, a byddant yn parhau i gael effaith ar ein systemau bwyd am flynyddoedd lawer i ddod. 

“Nid ydym yn ein tywyllo ein hunain nad oes heriau mawr ar y gorwel. Mae pennu rheolaethau mewnforio llawn y DU ar fwyd o’r UE erbyn diwedd y flwyddyn nesaf yn flaenoriaeth. Po hiraf y bydd y DU yn gweithredu heb sicrwydd bod cynhyrchion yn bodloni ein safonau uchel o ran diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, y lleiaf hyderus y gallwn fod ynghylch nodi digwyddiadau diogelwch posibl yn effeithiol.

“Fel y mae’r adroddiad yn nodi, gostyngodd nifer yr arolygiadau a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod adrodd. Er bod arwyddion bod pethau’n gwella, yn enwedig o safbwynt arolygiadau hylendid, mae awdurdodau lleol yn dal i wynebu cyfyngiadau ar eu hadnoddau a allai effeithio ar gynnydd.

"Rhaid i ni, ynghyd â'n partneriaid yn y llywodraeth, sicrhau bod yr heriau cyfredol yn y system fwyd yn cael eu datrys mewn ffordd sy’n ein rhoi ar y trywydd iawn ar gyfer system fwyd ddiogel, iachach a mwy cynaliadwy yn y dyfodol.” 
 

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.