Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Adroddiad newydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban yn tynnu sylw at heriau o ran adnoddau diogelwch a safonau bwyd.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi cyhoeddi eu hadroddiad blynyddol ‘Ein Bwyd’, sy’n adolygu safonau bwyd ledled y DU ar gyfer 2022. Dyma’r ail adroddiad ers i’r DU ymadael â’r UE, ac mae’n asesiad blynyddol annibynnol sy’n seiliedig ar dystiolaeth o safonau bwyd ar draws y pedair gwlad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 November 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 November 2023

Ar y cyfan, arhosodd safonau bwyd yn sefydlog yn 2022, er gwaethaf pwysau gan gynnwys chwyddiant, prinder llafur a’r rhyfel yn Wcráin. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn nodi prinder mewn galwedigaethau allweddol sydd eu hangen i gadw bwyd yn ddiogel, fel milfeddygon ac arolygwyr bwyd. Heb ddigon o bobl â’r sgiliau cywir i gynnal rheolaethau bwyd hanfodol, bydd yn anoddach nodi, monitro ac ymateb i risgiau diogelwch bwyd, gan adael defnyddwyr a busnesau yn agored i niwed.

Mae’r ASB ac FSS yn galw ar y llywodraeth, awdurdodau lleol, cyrff proffesiynol a’r diwydiant i wneud y canlynol: 

  • mynd i’r afael â’r gostyngiad yn nifer y swyddogion safonau masnach mewn awdurdodau lleol, a swyddogion iechyd yr amgylchedd a chyfraith bwyd i sicrhau bod safonau bwyd yn cael eu cynnal
  • mynd i’r afael â’r prinder o filfeddygon swyddogol i ddiogelu iechyd a lles anifeiliaid a masnach, a sicrhau bod hylendid bwyd yn cael ei gynnal
  • rhannu mwy o wybodaeth o ansawdd gwell ar draws y diwydiant bwyd er mwyn helpu i atal gangiau troseddol a mynd i’r afael â throseddau bwyd, sy’n costio hyd at £2 biliwn y flwyddyn i’r DU
  • cyflwyno rheolaethau mewnforio ar fwyd a fewnforir o’r UE er mwyn helpu i leihau’r risg y bydd bwyd anniogel yn dod i mewn i’r DU o’r UE.

Mae hyder yn y system fwyd yn sail i ddiwydiant gwerth £240 biliwn, ac mae’n cefnogi lles anifeiliaid da, ffermwyr, proseswyr bwyd, masnach ryngwladol a diwylliant bywiog y DU o ran bwyd. 

Dywedodd yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd:

Roedd system fwyd y DU yn profi heriau sylweddol trwy gydol 2022, gyda chostau byw cynyddol a chwyddiant yn effeithio ar filiau bwyd defnyddwyr, a busnesau bwyd yn teimlo’r pwysau ynghylch prinder llafur a chostau cadwyn gyflenwi uwch. 

Er gwaethaf y pwysau hyn, rwyf wedi fy nghalonogi bod ein hadroddiad yn nodi bod safonau bwyd wedi aros yn sefydlog ar y cyfan. Fodd bynnag, mae diogelwch a safonau bwyd yn dibynnu ar weithdrefnau da a phobl fedrus i sicrhau bod y gwiriadau cywir yn cael eu cynnal. Mae’n cymryd amser i recriwtio a datblygu’r sgiliau hyn ac rydym yn poeni, heb gamau penodol i roi hwb i’r gweithlu, yn benodol i recriwtio mwy o filfeddygon swyddogol ac arolygwyr awdurdodau lleol, na fydd yn bosib cynnal y safonau uchel hyn yn y dyfodol.

Gall methu â recriwtio a hyfforddi gweithwyr proffesiynol mewn swyddi allweddol arwain at ganlyniadau am flynyddoedd lawer i ddod. Gofynnwn i lywodraethau ar draws y DU, ac eraill, weithio gyda ni i fynd i’r afael â’r materion hyn yn ystod y flwyddyn hon, a hynny fel y gall pobl yn y DU barhau i gael bwyd y gallant ymddiried ynddo, a bod enw da bwyd Prydeinig gael ei gynnal dramor.

Dywedodd Heather Kelman, Cadeirydd Safonau Bwyd yr Alban:

“Mae’n galonogol gweld, yn 2022, yng nghanol sawl her sylweddol yma yn y DU a thu hwnt, fod diogelwch a safonau cyffredinol ein bwyd wedi’u cynnal i’r safonau uchel iawn yr ydym yn eu disgwyl. 

Fodd bynnag, rhaid i ni gydnabod yr heriau sylweddol iawn sydd o’n blaenau a’r problemau posib y gall diffyg adnoddau, yn benodol o fewn rolau swyddogion iechyd yr amgylchedd a milfeddygon swyddogol, eu hachosi i’r system fwyd yn gyffredinol. Mae’n bwysicach nag erioed i’r rhai sy’n llywodraethu’r system, yn ogystal â phawb sy’n ymwneud â chynhyrchu, manwerthu a dosbarthu bwyd, gydweithio i sicrhau bod bwyd yn ddiogel, a bod defnyddwyr a’r diwydiant masnach yn cael eu diogelu. 

Mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gennym system fodern sy’n rhoi sicrwydd er mwyn cefnogi busnesau sy’n darparu bwyd diogel i bawb, a bod safonau bwyd uchel y DU yn cael eu cynnal, er gwaethaf y costau a’r pwysau ar y gweithlu yr ydym yn eu hwynebu o hyd.

Mae data’r gweithlu o’r adroddiad yn dangos gostyngiad o 14% mewn swyddi hylendid bwyd mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon dros y degawd diwethaf, gyda thros 13% o’r swyddi sydd ar gael yn wag. Yn yr Alban, mae nifer y swyddogion cyfraith bwyd (sy’n ymgymryd â gwaith hylendid bwyd a safonau bwyd) wedi gostwng ychydig dros chwarter (25.5%) o gymharu â 2016/17. 

Mae nifer swyddogion safonau bwyd y DU wedi gostwng 45% o gymharu â 10 mlynedd yn ôl. Mae proffesiwn milfeddygol y DU wedi gweld gostyngiad o 27% yn nifer y bobl sydd wedi ymuno â’r proffesiwn rhwng 2019 a 2022, gan greu heriau sylweddol o ran sicrhau digon o filfeddygon swyddogol ar gyfer y dyfodol. 

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y risgiau sy’n deillio o’r gostyngiadau hyn o ran niferoedd. Mae diffyg milfeddygon swyddogol yn peri risgiau i iechyd a lles anifeiliaid, yn arwain at darfu posib ar gyflenwad bwyd domestig, ac yn effeithio ar ein gallu i allforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid. Mae’n bosib y bydd y pwysau ar y gweithlu a brofir gan awdurdodau lleol yn amharu ar eu gallu i gynnal gwiriadau diogelwch a safonau bwyd hanfodol mewn busnesau bwyd. 

Darllen yr adroddiad

Ein Bwyd 2022: Adroddiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU.