Arestio un person wrth i gig y gwylltir anghyfreithlon gael ei atafaelu fel rhan o ymgyrch yr NFCU
Mae ymgyrch dan arweiniad Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) sy’n ymwneud â chig y gwylltir (‘bushmeat’) rhewedig anghyfreithlon wedi arwain at arestio un person.
Ddydd Gwener, 5 Rhagfyr, aeth swyddogion yr NFCU, ynghyd â’r Heddlu Metropolitan, i leoliad yn Deptford lle gwnaethant atafaelu 38kg o rywogaethau cig y gwylltir wedi’u rhewi gan gynnwys pangolinod, llygod mawr câns a phorciwpeinod. Ystyr cig y gwylltir yw cig anifeiliaid gwyllt sydd wedi cael ei hela, yn aml o rywogaethau a geir mewn rhanbarthau trofannol.
Cafodd dyn 57 oed ei arestio a’i ryddhau dan ymchwiliad.
Gwnaeth yr ymgyrch dargedu cynhyrchion cig sydd wedi’u mewnforio’n anghyfreithlon ac sy’n peri risgiau diogelwch bwyd posib i ddefnyddwyr. Mae cig sy’n cael ei fewnforio’n anghyfreithlon yn osgoi’r gwiriadau diogelwch a hylendid trylwyr sy’n ofynnol ar gyfer bwyd a werthir yn y DU a gall y fath gig gario clefydau a halogion sy’n peryglu defnyddwyr. Mae rhywogaethau fel pangolinod hefyd yn rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol, ac mae masnachu’r rhain wedi’i wahardd yn rhyngwladol.
Mae ymholiadau’n parhau.
Mae’r ymgyrch hwn yn rhan o waith parhaus yr NFCU i darfu ar y fasnach gig anghyfreithlon ac atal cynhyrchion anniogel rhag cyrraedd y cyhoedd.
Mae’r ASB yn cynghori defnyddwyr i beidio â phrynu na bwyta cig sydd wedi’i fewnforio’n anghyfreithlon, gan gynnwys cig y gwylltir, oherwydd y gallai beri risgiau iechyd difrifol. Os oes gennych bryderon ynghylch cynhyrchion sy’n cael eu gwerthu, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.
Rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus ynghylch y bygythiad o gig anghyfreithlon yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd, a byddwn yn parhau i gymryd camau i ddiogelu’r cyhoedd.
Pangolin rhewedig a gafodd ei atafaelu gan Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr ASB a’r Heddlu Metropolitan.