Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Arolwg adborth ar y wefan 2024

Oes gennych chi unrhyw syniadau neu awgrymiadau am ffyrdd o wella ein gwefan? Os felly, hoffem glywed gennych chi!

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 March 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 March 2024

Rydym am wybod beth yw eich barn chi am ein gwefan. Dyna pam rydym wedi lansio arolwg sydyn i chi rannu eich barn.

Drwy dreulio ychydig funudau’n llenwi ein harolwg byr, byddwch yn ein helpu ni i wella’r wefan a’i gwneud yn haws ei defnyddio.

Rydym am sicrhau bod y wefan yn diwallu eich anghenion, felly mae eich adborth yn amhrisiadwy i ni. Hefyd, ni fydd yn cymryd llawer o’ch amser.

Dyma ambell reswm dros roi o’ch amser i lenwi’r arolwg:

  • Mae eich safbwyntiau’n bwysig a gallant helpu i lunio’r wefan hon ar gyfer y dyfodol
  • Gallwch ein helpu ni i greu profiad gwell i bob defnyddiwr
  • Mae’n gyflym ac yn hawdd. Y cyfan sydd ei angen yw cyfrifiadur neu ddyfais symudol sydd â mynediad at y rhyngrwyd

Mae’r arolwg yn cynnwys cwestiynau amlddewis yn bennaf, ond mae hefyd rai blychau sylwadau lle gallwch rannu eich barn a’ch safbwyntiau.

Bydd eich ymatebion yn gyfrinachol ac yn ddienw. Byddwn ond yn defnyddio’ch ymatebion i wella ein gwefan a’n cynnwys.

Peidiwch â cholli’r cyfle i leisio’ch barn – llenwch ein harolwg adborth ar ein gwefan heddiw!