Bwrdd yr ASB yn cefnogi ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer system cymorth ariannol ddiwygiedig i ladd-dai
Mae Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cytuno heddiw i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn 2026 ar gynigion ar gyfer system ostyngiadau ddiwygiedig i ladd-dai, er mwyn cynnig cymorth ariannol mwy targededig i ladd-dai llai.
Mae milfeddygon swyddogol ac arolygwyr hylendid cig yn gwirio bod safonau diogelwch bwyd a lles anifeiliaid mewn lladd-dai yn cael eu bodloni. Mae’r gwaith hanfodol hwn yn cadw defnyddwyr yn ddiogel, yn cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd yn y diwydiant cig, ac yn galluogi busnesau i allforio, gan gefnogi sector cig y DU sy’n werth £10 biliwn.
Mae’r ASB yn adennill costau’r gwaith rheoleiddio hwn gan weithredwyr. Ar hyn o bryd, mae pob lladd-dy, gan gynnwys y rhai mwyaf, yn cael rhywfaint o ostyngiad ar y taliadau hyn.
Nid yw’r system wedi’i hadolygu ers 2015. Yn dilyn Galwad am Dystiolaeth y llynedd, yn ogystal â gwaith ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, ystyriodd Bwrdd yr ASB gynigion i sicrhau bod y cynllun yn parhau i gynnig gwerth am arian ac yn cael ei dargedu lle bydd yn dod â’r budd mwyaf.
Mae’r Bwrdd wedi cytuno heddiw i ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion ar gyfer system gymorth fwy targededig, sy’n canolbwyntio ar ladd-dai llai. Un o amcanion pwysig y system ddiwygiedig yw cydbwyso costau rheoleiddio ar gyfer lladd-dai o wahanol feintiau, a hynny wrth osgoi creu rhwystrau i dwf. Nod y newidiadau arfaethedig yw cynnig gwell gwerth i’r trethdalwr, a rhoi mwy o sicrwydd i fusnesau cymwys ynghylch y gefnogaeth y gallant ei disgwyl.
Mae mewnwelediadau gan grwpiau ffermio a chynaliadwyedd yn sgil Galwad am Dystiolaeth yr ASB, yn ogystal â gwaith ymgysylltu â’r diwydiant, yn dangos pa mor bwysig yw lladd-dai llai ar gyfer rhai cymunedau a dewis defnyddwyr. Maent yn gallu cefnogi ffermwyr sy’n arbenigo mewn bridiau prinnach ac yn rhoi’r opsiwn i’r cyhoedd brynu’n lleol. Mae’r model diwygiedig wedi’i ddatblygu gyda hyn mewn golwg.
Byddai’r lladd-dai lleiaf – y rhai sy’n prosesu hyd at 1,000 LSU y flwyddyn ar gyfer cig coch neu 150,000 o adar yn flynyddol ar gyfer dofednod – yn cael y gefnogaeth fwyaf, gyda gostyngiad o 90% ar daliadau.
Byddai rhai lladd-dai canolig yn derbyn cymorth a bennir yn ôl tapr gostyngol i helpu i leihau rhwystrau i dwf a chydraddoli beichiau rheoleiddio. Wrth symud i ffwrdd o’r system bresennol, ni fyddai’r busnesau mwyaf yn cael cymorth o dan y cynigion. Mae’r model diwygiedig hwn wedi’i gynllunio i ddarparu cymorth lle gall gael yr effaith fwyaf, gan dargedu cymorth ar gyfer lladd-dai llai wrth ddarparu gwerth am arian i drethdalwyr. Byddai mwy o ladd-dai llai yn elwa o’r lefelau cymorth uchaf o dan y system ddiwygiedig.
Yn y cyfarfod ddydd Mercher, 10 Rhagfyr, cytunodd Bwrdd yr ASB i symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus ar y dull arfaethedig.
Disgwylir i’r ymgynghoriad gael ei lansio yng ngwanwyn 2026, gyda Bwrdd yr ASB yn ystyried cynigion terfynol yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mater i weinidogion, ar ôl cael cyngor gan yr ASB, fydd gwneud y penderfyniad terfynol.
Fel corff cyhoeddus, rhaid i’r ASB sicrhau bod unrhyw gymorth ariannol i’r diwydiant yn cael ei adolygu’n gyson a’i fod yn parhau i gynnig gwerth am arian.
Rydym wedi gwrando’n ofalus ar adborth gan bartïon sydd â buddiant ac yn cydnabod y rhan bwysig y gall lladd-dai llai ei chwarae wrth gefnogi ffermio lleol, yr economi wledig ac wrth roi mwy o ddewis i bobl wrth brynu cig.
Mae penderfyniad y Bwrdd heddiw yn golygu y byddwn nawr yn symud ymlaen ag ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol a fydd yn ystyried sut y byddai’r model cymorth arfaethedig ar gyfer y dyfodol yn gweithio. Bydd hyn yn rhoi cyfle i fusnesau a’r cyhoedd helpu i lunio’r cynigion terfynol y byddwn yn eu cyflwyno i weinidogion sy’n anelu at gynnal gwaith rheoleiddio hanfodol ym maes diogelwch bwyd wrth gefnogi cynaliadwyedd a thwf lladd-dai llai.
Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Defra a DAERA i sicrhau y bydd unrhyw gefnogaeth yn y dyfodol yn helpu i gyflawni manteision cyhoeddus go iawn wrth gynnal y safonau diogelwch a lles anifeiliaid llym y mae’r cyhoedd yn eu disgwyl.