Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cefnogi camau gweithredu ar gynhyrchion bwyd CBD i ddiogelu defnyddwyr

Mae Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi rhybuddio’r diwydiant a manwerthwyr CBD bod angen iddynt farchnata cynhyrchion yn gyfrifol, ac mae wedi cynnig cefnogaeth i awdurdodau lleol os bydd angen iddynt ddwysáu eu hymdrechion gorfodi ar gynhyrchion bwyd CBD yn ystod y misoedd nesaf.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 December 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 December 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Wrth siarad yng nghyfarfod Bwrdd yr ASB ar 8 Rhagfyr, nododd Emily Miles ddull cymesur yr ASB ar gyfer rheoleiddio CBD, gan sicrhau bod y diwydiant yn cydymffurfio â’r gofyniad i gynhyrchion CBD fod yn destun asesiad diogelwch yr ASB, a’r camau nesaf yn y broses honno, gan gynnwys diweddaru’r rhestr gyhoeddus CBD

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynhyrchion bwyd CBD ar y farchnad sydd wedi bod trwy’r asesiad diogelwch gorfodol ac wedi’u hawdurdodi i’w gwerthu. Bydd y rhestr gyhoeddus CBD yn cael ei diweddaru cyn bo hir. Dyma gofnod cyhoeddus o gynhyrchion lle mae ceisiadau credadwy am awdurdodiad i’w rhoi ar y farchnad wedi’u cyflwyno i’r ASB. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd awdurdodau lleol a manwerthwyr yng Nghymru a Lloegr yn gallu defnyddio’r rhestr i wirio statws cynhyrchion bwyd CBD a blaenoriaethu gorfodi lle bo angen. 

Meddai Emily Miles, Prif Weithredwr yr ASB: 

“Fy neges i’r diwydiant CBD, ac i fanwerthwyr, yw bod angen i chi ymddwyn yn gyfrifol wrth farchnata a gwerthu’r cynhyrchion hyn. A fy neges i awdurdodau lleol yw, wrth i gynhyrchion gael eu gwrthod o’n proses awdurdodi i’w rhoi ar y farchnad, efallai y bydd angen i chi gynyddu ymdrechion gorfodi. Bydd yr ASB yn eich cefnogi chi yn ystod y broses hon.”

Wrth siarad ar ran y Bwrdd, meddai’r Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB:

“Mae dyletswydd ar yr ASB i ddiogelu defnyddwyr. Rwyf am achub ar y cyfle hwn i ofyn i bobl feddwl yn ofalus cyn cymryd CBD, ac i ddilyn cyngor yr ASB ar gynhyrchion CBD. Ni fydd yr ASB yn oedi wrth gymryd camau gweithredu os daw tystiolaeth i’r amlwg bod cynhyrchion yn anniogel ac yn peryglu defnyddwyr.” 

Bu’r Bwrdd hefyd yn trafod papur ar ddeall safbwyntiau defnyddwyr ac yn clywed diweddariad ar gyfnod pontio’r Undeb Ewropeaidd. Cyflwynwyd yr adroddiad Gwyddoniaeth blynyddol ar gyfer 2021 yn y cyfarfod hefyd. 

Mae agenda lawn a phapurau’r Bwrdd ar gael ar wefan yr ASB (Saesneg yn unig). Bydd recordiad o’r cyfarfod ar gael yn ddiweddarach yn yr wythnos. 

Bydd cyfarfod nesaf y Bwrdd yn cael ei gynnal yn Birmingham ar 9 Mawrth.

Cyngor i Ddefnyddwyr ar CBD

Yn seiliedig ar dystiolaeth gyfredol, mae’r ASB yn argymell lefel uchaf o 70mg y dydd ar gyfer oedolyn iach. Ar gyfer defnyddwyr sy’n agored i niwed, rydym ni’n argymell, ar sail ragofalus, i beidio â chymryd CBD oherwydd nad yw’r asesiadau diogelwch perthnasol wedi’u cwblhau eto.

Gellir gweld papur llawn y Prif Weithredwr i’r Bwrdd (Saesneg yn unig) drwy glicio ar y ddolen yma