Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cytuno i wella gwybodaeth am alergeddau i ddefnyddwyr

Crynodeb o drafodaethau’r Bwrdd ar ddarparu gwybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr wrth fwyta allan

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 December 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 December 2023

Cytunodd Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ei gyfarfod ddydd Mercher 13 Rhagfyr yr hoffai iddi fod yn ofynnol i’r sector bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau, a bydd yn ysgrifennu at weinidogion i drafod safbwyntiau’r Bwrdd.

Yn y cyfamser, bydd yr ASB yn gweithio i ddatblygu canllawiau cryf i fusnesau bwyd ar sut i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau er mwyn helpu i wella cydymffurfiaeth, a’i gwneud yn haws i bobl ag alergedd bwyd, anoddefiad bwyd a chlefyd seliag ddiogelu eu hunain pan fyddant yn bwyta allan. 

Yn ogystal â darparu gwybodaeth ysgrifenedig, gwnaeth y Bwrdd hefyd gydnabod y dylai fod disgwyl i staff busnesau bwyd gael sgwrs ar lafar â chwsmeriaid, a hynny er mwyn sicrhau haen ychwanegol o ddiogelwch i ddefnyddwyr. 

Wrth drafod safbwynt y Bwrdd, dywedodd yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB:

“Yn yr ASB, rydym wedi ymrwymo i wella bywydau’r 2 filiwn o bobl sydd ag alergedd bwyd, anoddefiad bwyd neu glefyd seliag. Yn y trafodaethau heddiw, roedd hi’n amlwg bod y Bwrdd yn teimlo y dylem osod disgwyliad bod busnesau bwyd, fel siopau coffi a bwytai, yn darparu gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau yn ogystal â chael sgwrs.”

“Er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd hyn yn digwydd, mae’r Bwrdd hefyd o’r farn y dylai gwybodaeth ysgrifenedig fod yn ofyniad cyfreithiol, yn hytrach na chanllaw yn unig. Byddaf yn ysgrifennu at weinidogion yng Nghymru a Lloegr, a'r  Ysgrifennydd Parhaol yng Ngogledd Iwerddon, ac yn cysylltu â Chadeirydd Safonau Bwyd yr Alban, i drafod safbwynt y Bwrdd, gan yr hoffai’r Bwrdd weld gweinidogion yn bwrw ymlaen â hyn ar sail pedair gwlad.

“Yn y cyfamser, rwyf am i ni wneud popeth o fewn ein gallu yn yr ASB i ddarparu canllawiau a chymorth i fusnesau fel y gallwn ddechrau gwneud gwelliannau yn gyflym a fydd o gymorth i bobl â gorsensitifrwydd i fwyd pan fyddant yn bwyta allan.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’r teulu Carey am eu holl waith yn tynnu sylw at bwysigrwydd y mater hwn ar ôl i’w mab, Owen, farw yn sgil bwyta bwyd yn ddiarwybod yr oedd ganddo alergedd iddo yn 2017.”