Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhannu neges o gydymdeimlad yn dilyn marwolaeth Syr Colin Blakemore

Mae Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb, yn mynegi ei chydymdeimlad yn dilyn marwolaeth ddiweddar yr Athro Syr Colin Blakemore.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 July 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 July 2022

Syr Colin oedd un o'r gwyddonwyr mwyaf dylanwadol ac uchel ei barch ym Mhrydain. Roedd yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Rhydychen ac ef oedd Prif Weithredwr y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) rhwng 2003 a 2007. Cafodd ei benodi’n Gadeirydd cyntaf Pwyllgor Cynghori Cyffredinol yr ASB ar Wyddoniaeth yn 2007 ac roedd yn frwd dros wreiddio'r sefydliad yn gadarn mewn gwyddoniaeth a thystiolaeth. Cafodd ei urddo'n farchog yn 2014 am wasanaethau i ymchwil wyddonol, polisi ac allgymorth.

Meddai’r Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB:
 

‘'Mae gyrfa Colin yn siarad drosti'i hun am ei arweinyddiaeth a’i allu gwyddonol eithriadol.  Ond efallai mai’r peth mwyaf arbennig amdano oedd ei ei ymrwymiad angerddol i’r nodau a'u gosododd iddo’i hun.  Credai ei bod yn bwysig bob pobl yn ymgysylltu â gwyddoniaeth ymhell cyn i hynny ddod yn syniad prif ffrwd, roedd yn gadarn o blaid defnyddio anifeiliaid mewn astudiaethau ymchwil penodol, ac ar yr un pryd roedd yn  dilyn egwyddorion y 3R (adnewyddu, lleihau, mireinio), ac roedd yn sefyll dros yr hyn yr oedd yn credu ynddo.’

'Mae'r byd wedi colli gwyddonydd gwych ac mae'r Asiantaeth wedi colli chyfaill a chefnogwr. Rydym yn meddwl am deulu Colin yn ystod y cyfnod anodd hwn.'