Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

‘COVID-19, Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE), a Strategaethau Bwyd yn y Dyfodol’ – anerchiad i Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd

Trawsgrifiad o anerchiad Prif Weithredwr yr ASB, Emily Miles, yng Nghynhadledd Diogelwch Bwyd Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 July 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 July 2021

Siaradodd ein Prif Weithredwr, Emily Miles, yng nghynhadledd Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) ar 29 Mehefin 2021.

Yn ei haraith, diolchodd i broffesiwn iechyd yr amgylchedd am ei waith caled yn rheoli effaith COVID-19 a thrafododd sut mae’r pandemig ac Ymadael â’r UE wedi effeithio ar strategaethau diogelwch bwyd yr ASB yn y dyfodol. Dyma drawsgrifiad o’r araith:

Cyflwyniad

Diolch yn fawr am ofyn i mi siarad â chi eto.

Fe wnes i annerch Cynhadledd Diogelwch Bwyd Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) ym mis Hydref ac mae’n fy nharo i bod rhai pethau wedi newid ers hynny, ond yn anffodus mae cryn dipyn wedi aros yr un peth.

Ers mis Hydref, mae ymarferwyr iechyd yr amgylchedd, y diwydiant bwyd a’r Llywodraeth wedi llywio diwedd cyfnod Pontio’r UE a, diolch i raglen frechu lwyddiannus ledled y Deyrnas Unedig (DU), mae’r ymdeimlad bod bywyd normal yn gallu ailddechrau eto ar ôl pandemig COVID-19, ar y gorwel. Mae’n teimlo’n hynod o agos, er bod nifer yr achosion o’r amrywiolyn Delta yn cynyddu. Fodd bynnag, rwy’n cael y teimlad nad yw’r pwysau’n lleihau eto i’r mwyafrif ohonoch chi. Nid yw effaith y pandemig wedi lleddfu’n sylweddol eto i ymarferwyr iechyd yr amgylchedd (EHPs) ledled y wlad.

Yn achos EHPs awdurdodau lleol, ac i raddau, EHPs sy’n gweithio yn y diwydiant bwyd, rydych chi wedi bod ar reng flaen y pandemig COVID-19 ers y diwrnod cyntaf, gan ddarparu ymateb brys ac ymdrin â rheoliadau a chanllawiau sy’n newid yn gyflym oddi wrth sawl adran o’r llywodraeth. Mae’r rhai ohonoch chi sy’n gweithio yn y sector preifat wedi profi’ch heriau eich hun, fel methu ag ymweld â safleoedd a chyflwyno’r broses ‘archwilio o bell’ mewn dim o dro.

Rwy’n cael yr argraff ei fod wedi bod yn anodd iawn yn gorfforol, ac yn feddyliol, i lawer ohonoch chi. Bu’n rhaid i chi sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd teuluol, gofalu am bobl gartref, ac weithiau gwrando a delio â rhwystredigaethau preswylwyr a busnesau. Efallai eu bod wedi mynegi eu dicter am fesurau rheoli sydd yn aml yn amhoblogaidd. Mae’n anochel bod hyn wedi effeithio ar hwyliau ac iechyd meddwl.

Mae’r straeon a glywaf gan broffesiwn iechyd yr amgylchedd yn anhygoel o deimladwy. Trwy gydol y pandemig, rydw i wedi ei weld yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn yr awdurdodau lleol, ac yn y diwydiant bwyd hefyd. Rydych chi’n gweld pobl gyffredin yn gwneud pethau arbennig, a hynny er mwyn gwasanaethu’r bobl rydym ni am wneud gwahaniaeth i’w bywydau, sef pobl ein gwlad. Roedd angen ein help ar bobl, ac roedd yn angenrheidiol, ac roedden ni’n gwneud hynny am y rhesymau iawn. Rwy’n teimlo’n falch iawn o’r hyn rydw i wedi’i weld.

Yn yr ASB, rydym ni wedi bod yn benderfynol o chwarae ein rhan i helpu. Rydym ni wedi lleddfu pwysau lle y gallwn, gan fabwysiadu agwedd fwy hyblyg at ymyriadau arferol. Rydym ni wedi ceisio gwneud y canllawiau a ddarparwn mor syml ac mor ddefnyddiol â phosibl. Rydym ni nawr yn edrych tuag at adferiad ac, mewn ymateb i’r pwysau parhaus ar awdurdodau lleol, wedi datblygu Cynllun Adfer Awdurdodau Lleol yr ASB.

Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu er mwyn helpu awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar y busnesau bwyd sy’n peri’r risg uchaf, gan roi mwy o hyblygrwydd i fusnesau sy’n peri risg is, lle bynnag y bo modd. Y nod yw bod awdurdodau lleol yn gallu dechrau dychwelyd i fusnes arferol eto yn raddol yn dilyn blwyddyn o reoli effaith COVID-19.

I chi, bydd yn golygu canolbwyntio eto ar ddiogelwch a safonau bwyd, a chamu i ffwrdd o ymateb brys y flwyddyn ddiwethaf. Ond byddwn ni’n gwneud hyn mewn modd graddol.

Byddwn i’n annog cydweithwyr awdurdodau lleol i astudio manylion y cynllun. Gallwch chi ddod o hyd iddo ar y platfform Hwyluso Cyfathrebu.

Dwi’n credu bod y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos i ni pa mor bwysig yw proffesiwn iechyd yr amgylchedd, a faint a gafodd ei danbrisio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae’r ASB yn dibynnu’n fawr ar ymarferwyr iechyd yr amgylchedd, ond nid yw’n ‘berchen’ ar ddyfodol y gweithlu hwnnw.

Yn syml, mae gennym ni ddiddordeb mawr ynddo. Yn fy marn i, mae angen edrych yn fwy strategol ar y gweithlu, yn debyg i sut mae’r GIG yn rheoli meddygon a nyrsys y dyfodol – maen nhw’n meddwl ymlaen llaw am bwy sy’n cael eu hyfforddi, nifer y lleoedd prifysgol sydd ar gael, a pha gyllid sydd ar gael. Mae angen i awdurdodau lleol fod yn rhan o’r dull strategol hwn, yn enwedig o ystyried eu cyfrifoldebau rheoleiddio newydd ar ôl Brexit sy’n disgyn i’r ASB a’r awdurdodau lleol.

Roeddwn i’n meddwl bod arolwg diweddar y CIEH ei hun ar hyn yn hynod ddiddorol ac yn peri pryder. Roedd yr arolwg yn nodi bod nifer y swyddogion diogelwch a hylendid bwyd yn Lloegr wedi gostwng 18% mewn naw mlynedd. Dangosodd yr ymchwil hefyd nad yw mwy na hanner yr awdurdodau lleol yn cefnogi hyfforddi cenhedlaeth newydd o ymarferwyr iechyd yr amgylchedd – yn 2019/20, nid oedd gan 52% o awdurdodau lleol yr un prentis neu hyfforddai fel rhan o’r gweithlu. Diffyg cyllideb neu’r gallu i fentora oedd y prif resymau a roddwyd dros beidio â chyflogi unrhyw hyfforddeion. Dwi’n credu mai canlyniad anochel i flynyddoedd a blynyddoedd o doriadau o ran cyllid ym mhroffesiwn yr awdurdodau lleol yw hynny.

Mae wastad mwy i’w wneud i gael y defnydd mwyaf effeithiol o’r bobl sydd yn y system. Offer gwell i dargedu’ch ymdrechion i ble mae’r risg. Prosesau digidol i arbed eich amser. Gallwn ni ddefnyddio data yn well i arbed amser. Ond yn y pen draw, er mwyn cadw pobl yn ddiogel, a chefnogi busnesau i wneud hynny, mae angen pobl arnom sydd wedi’u hyfforddi, ac sy’n gwybod am beth maen nhw’n siarad. Mae’r ASB wedi mynegi ei phryderon i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Gwasanaethau Rheoleiddio traws-lywodraethol, a sefydlwyd gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG). Mae’r grŵp hwn wedi bod yn edrych ar adnoddau, gallu a chymwysterau yng ngwasanaethau rheoleiddio awdurdodau lleol a’r opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau cyfredol.

Mae’r grŵp hwn dal wrthi’n cytuno ar yr argymhellion, ond dwi’n gobeithio’n gryf y bydd y canlyniadau, ochr yn ochr â’r gwaith sy’n cael ei wneud gan MHCLG ar gydlynu a hyrwyddo gwasanaethau rheoleiddio o fewn llywodraeth ganolog, yn cael effaith gadarnhaol ar y gweithlu. Dwi’n credu ei bod yn wirioneddol angenrheidiol ei fod yn gwneud hynny.

Ar ôl diwedd y cyfnod pontio

Nesaf, gadewch i mi droi at y DU yn gadael yr UE a diwedd y Cyfnod Pontio. Pan siaradais â chi ddiwethaf, diwedd Cyfnod Pontio’r UE oedd yr her fawr arall, ochr yn ochr â COVID-19, yr oedd yr ASB yn canolbwyntio arni. Mae bellach wedi bod yn saith mis ers diwedd y Cyfnod Pontio, a hoffwn amlinellu beth mae’r amser hwn wedi’i olygu i ni.

Credaf fod yr ASB, awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd porthladdoedd, a’r system fwyd yn ei chyfanrwydd wedi chwarae eu rhan yn hynod o dda trwy’r trawsnewidiad sylweddol hwn. Yn sicr, cwblhawyd paratoadau’r ASB ar gyfer 1 Ionawr mewn pryd ac roedd hynny’n ein galluogi i addasu i fywyd y tu allan i’r UE yn gymharol ddidrafferth. Gadewch i mi nodi ychydig o enghreifftiau.

  • Mae ein gwaith ar reolaethau mewnforio wedi mynd yn weddol dda, o ran trosglwyddo i system rheoli mewnforio newydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a datblygu dangosfwrdd sy’n ein helpu i ddarparu gwybodaeth i awdurdodau iechyd porthladdoedd ac awdurdodau lleol er mwyn cynorthwyo gyda’u rheolaethau bwyd a fewnforir; ac rydym wedi darparu cyllid parhaus i awdurdodau lleol i’w helpu i addasu i’r niferoedd cynyddol o fewnforion hefyd. Wrth gwrs, nid yw bob amser wedi bod yn syml. Mae llawer ohonoch chi wedi ein helpu ni i ddelio â nifer o lwythi mewnforio nad ydynt yn cydymffurfio, a oedd wedi teithio trwy’r UE i Brydain Fawr, o wledydd y tu allan i’r UE trwy Dover, heb y gwiriadau iechyd gofynnol; sydd bellach wedi’i gywiro i raddau helaeth.
  • Mae’r ASB hefyd wedi cwblhau cryn dipyn o waith polisi a chyfreithiol ar offerynnau statudol a gafodd eu rhoi ar waith yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon, ac ar fframweithiau’r DU, i alluogi gweithio ar draws y pedair gwlad a’r farchnad fewnol.
  • Gwnaethom ni gefnogi Defra a busnesau bwyd gyda gwaith ar dystysgrifau iechyd allforio (EHCs), ac rydym ni wedi gwneud ein gorau i gefnogi busnesau sy’n cludo bwyd i Ogledd Iwerddon i fod yn barod ar gyfer y realiti newydd hwnnw. Mae allforion yn faes arall sydd hefyd wedi arwain at heriau penodol. Mae gofynion newydd ar gyfer EHCs wedi rhoi pwysau sylweddol o ran adnoddau ar awdurdodau lleol a’r ASB. Mae hefyd wedi bod prinder milfeddygon yr ydym ni wedi bod yn cymryd rhai camau i’w cywiro.
  • Yn ddiweddar, rydym ni wedi gwneud newidiadau i’r protocolau yr ydym ni’n eu defnyddio i ddosbarthu ardaloedd cynaeafu pysgod cregyn, a hynny er mwyn helpu’r diwydiant i addasu i’r berthynas allforio newydd gyda’r UE. Mae’r rhain yn newidiadau technegol, wedi’u harwain gan wyddoniaeth, a byddwn ni’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr awdurdodau lleol mewn ardaloedd cynaeafu pysgod cregyn i reoli’r newidiadau.
  • Roedd rhai yn rhagweld y gallai troseddau bwyd fod yn broblem ar ôl diwedd y Cyfnod Pontio. Roedd y newid dros nos i fodel economaidd y DU a cholli mynediad i rai o gronfeydd gwybodaeth yr UE yn golygu bod yn rhaid i ni gynllunio’n ofalus i reoli risgiau newydd posibl o dwyll. Dwi’n falch o ddweud mai prin iawn oedd y dystiolaeth ers diwedd y Cyfnod Pontio i awgrymu bod twyll bwyd wedi cynyddu. Rydym ni’n gweithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn cynhyrchu adroddiadau gwybodaeth (intelligence) amserol ar dwyll bwyd. Er i ni golli mynediad at rai o systemau gwybodaeth yr UE, rydym ni wedi sicrhau ein bod yn parhau i gyfathrebu ag Aelod-wladwriaethau’r UE, gan gynnwys trwy Europol ac Interpol.
  • O ran risgiau diogelwch bwyd mwy cyffredinol, rydym ni bellach yn alinio ein hysbysiadau diogelwch bwyd ag INFOSAN, tra hefyd yn cael hysbysiadau trydydd gwlad trwy system RASFF yr UE. Yn 2020, rhwng 1 Ionawr a 31 Mai, cafodd y DU 138 o hysbysiadau RASFF ac anfonodd 96 o hysbysiadau (ac eithrio hysbysiadau ffiniau). Yn yr un cyfnod yn 2021, cafodd y DU gyfanswm o 168 o hysbysiadau RASFF ac INFOSAN; hefyd, anfonodd gyfanswm o 137 o hysbysiadau ar draws y ddau blatfform. Wrth gwrs, yn y ddwy flynedd hyn, mae COVID-19 wedi effeithio ar y ffigurau, ond mae yna lefelau tebyg o ran gweithgarwch ac yn sicr, does dim gostyngiad o ran nifer yr hysbysiadau.

Un o’r meysydd allweddol o gyfrifoldeb y mae’r ASB wedi’i fabwysiadu wrth i’r DU ymadael â’r UE yw dadansoddi risg. Rydym ni’n brysur iawn yn y maes hwn, gyda nifer o faterion parhaus sydd â blaenoriaeth uchel. Mae’r rhain yn amrywio o adolygu rheolaethau ar fwyd wedi'i fewnforio o Japan yn dilyn y ddamwain niwclear yn Fukushima, i asesu risgiau titaniwm deuocsid, sef lliw bwyd a ganiateir sy’n cael ei ddefnyddio mewn pethau fel past dannedd.

Aeth mynediad ar-lein i’n gwasanaeth ymgeisio am gynhyrchion wedi'u rheoleiddio hefyd yn fyw ddechrau 2021. Mae cynhyrchion wedi’u rheoleiddio’n gofyn am werthusiad a chymeradwyaeth cyn eu rhoi ar y farchnad gan Weinidogion a chyn y gellir eu defnyddio ym marchnad y DU.

Ddiwedd mis Mai, roeddem ni wedi cael mwy na 1100 o gyflwyniadau ar gyfer cynhyrchion wedi’u rheoleiddio, llawer mwy na’r disgwyl, ac roedd llawer yn gysylltiedig â’n dull graddol o sicrhau bod cynhyrchion bwyd CBD yn ddiogel ac wedi’u hawdurdodi yn y ffordd briodol. Mae tua 390 ohonyn nhw’n cael eu hystyried yn geisiadau ffurfiol, gyda digon o wybodaeth i ddechrau’r broses ddilysu, ac o’r rhain, mae 21 ohonyn nhw yng nghanol cam asesu’r broses.

Mae mwyafrif helaeth y ceisiadau sydd wedi dod i law yn dod o fewn y categori bwydydd newydd ac yn ymwneud yn bennaf â chynhyrchion CBD, yn amrywio o bizza i bopcorn. Rydym ni wedi cael nifer gymharol uchel o geisiadau ar gyfer ychwanegyn bwyd anifeiliaid a GM, a hyd yn oed un ar gyfer ciwcymbrau môr wedi’u sychu. Rydym ni’n falch bod y gwasanaeth ar waith ac yn cael ei ddefnyddio, ac rydym ni’n dechrau prosesu’r ceisiadau hynny am fwyd newydd.

Mewnforion, allforion, cynhyrchion wedi’u rheoleiddio, a sicrhau y gallwn ni olrhain bwyd. Mae’r holl weithgareddau newydd neu ychwanegol hyn yn sylfeini hanfodol i sicrhau y gall dinasyddion y DU gael bwyd y gallant ymddiried ynddo – sy’n ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Rydw i’n hynod falch o bopeth y mae’r ASB, awdurdodau lleol a’r diwydiant bwyd wedi’i wneud i gyflawni hynny drwy’r trawsnewidiad eithriadol hwn yng nghyd-destun y pandemig.

Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (ABC) a dyfodol rheoleiddio ar ôl y pandemig ac ar ôl Brexit

Yn rhan olaf fy araith, rydw i am fyfyrio ar ddyfodol rheoleiddio. Mae’r digwyddiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos i ni’r angen i gynllunio ymlaen llaw a’r pwysau y gall y diwydiant bwyd eu hwynebu mewn argyfwng. Wrth reoli effaith pandemig byd-eang ac addasu i’r newidiadau yn sgil Ymadael â’r UE, mae busnesau bwyd wedi dangos pa mor graff y gallant fod. Ond mae terfyn i’r hyn y gallant ei wneud.
Wrth i ni symud ymlaen o COVID-19 ac Ymadael â’r UE, mae angen i ni helpu busnesau i wneud y peth iawn. Dyma beth sy’n ein hysgogi ni o ran ein hymdrechion diwygio rheoleiddiol, a elwir yn rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (ABC) erbyn hyn.

Nid yw ABC yn enghraifft o ailwampio rheoleiddiol enfawr, ac nid ydym ni ychwaith yn cael gwared ar reolau’r UE yr ydym ni newydd eu trosglwyddo i gyfraith y DU. Bydd angen i fusnesau wneud yr un pethau yn fras, ond rydym ni am newid y ffordd yr ydym ni ac awdurdodau lleol yn cael sicrwydd bod busnesau yn cyflawni eu cyfrifoldebau.

Dechreuwyd y gwaith hwn cyn refferendwm yr UE ac mae wedi bod yn mynd rhagddo’n gyson wrth i’r DU baratoi ar gyfer ymadael â’r UE – mae wedi bod yn esblygiad yn hytrach nag yn chwyldro. Felly, er enghraifft, erbyn hyn mae 219 o awdurdodau lleol yn cymryd rhan yn ein cynllun Cofrestru Busnesau Bwyd, mae peilotiaid safonau bwyd sy’n profi dull sy’n canolbwyntio ar wybodaeth yn dod yn eu blaen yn dda, ac mae’r fframwaith cymwyseddau yn cael ei ymgorffori. Cafodd hyn i gyd ei wneud o dan faner ‘Rheoleiddio ein Dyfodol’.

Gyda’r rhaglen ABC, rydym ni’n parhau gyda’n hymgais i ddatblygu system fwy cymesur sydd wedi’i thargedu ar gyfer rheoleiddio busnesau bwyd. Mae hyn yn cynnwys edrych ar ein model safonau bwyd a’n model hylendid bwyd, i helpu i nodi a thargedu’r risgiau uchaf yn y system fwyd. Mae hefyd yn cynnwys canolbwyntio ar y rheiny sy’n rhan o’r system fwyd ac sydd mwyaf dylanwadol, sef y busnesau mwyaf.

Eleni, rydym ni hefyd wedi cychwyn sgwrs gyda busnesau mwy, yn benodol manwerthwyr dylanwadol mawr yn y lle cyntaf, i edrych ar sut y gallwn ni ac awdurdodau lleol eu rheoleiddio mor effeithiol â phosibl, er mwyn osgoi’r dyblygu y maent yn aml yn dod ar ei draws wrth roi sicrwydd i’r dinesydd.

Ystyriwch, er enghraifft, yr archfarchnadoedd mawr. Mae’n hanfodol i ni reoleiddio’r busnesau mawr hyn yn y ffordd gliriaf bosibl: mae ganddyn nhw tua 96% o gyfran marchnad Prydain Fawr ac mae ganddyn nhw ddylanwad enfawr dros eu cadwyni cyflenwi. Efallai bod ganddyn nhw ddegau o filoedd o gynhyrchion y maen nhw’n dylanwadu arnyn nhw y mae angen iddyn nhw fod yn ddiogel ac yn ddilys i ddefnyddwyr. I ddefnyddwyr, mae’n hanfodol ein bod yn ei gael yn iawn a bod gan reoleiddwyr pwerus a dylanwadol yr un pwerau â’r busnesau hyn. Rydym ni’n siarad â’r busnesau hynny a’u Prif Awdurdodau am sut y gallem ni eu rheoleiddio mor effeithiol â phosibl yn y dyfodol. Yn benodol, rydym ni am edrych ar sut y gallwn ni ddefnyddio mwy o’r wybodaeth a’r data y maent yn eu casglu ar eu sicrwydd eu hunain, i wneud yn siŵr ein bod ni’n cael mynediad at hynny fel y gallwn sicrhau’r un peth hefyd.

Wrth gwrs, bydd angen treialu hyn i gyd, er mwyn deall beth sy’n gweithio a beth sydd ddim.
Mae sut rydym ni’n rheoleiddio gwerthiant bwyd ar-lein yn well yn faes allweddol arall o’n ffocws. Hyd yn oed cyn y pandemig, roeddem ni’n gweld newidiadau yn ymddygiad busnesau a chwsmeriaid, gyda nifer cynyddol o wasanaethau ar-lein a symudol, yn aml yn cynrychioli partneriaethau rhwng busnesau mwy sefydledig a llwyfannau newydd. Mae COVID-19 wedi cyflymu’r symudiad hwn o ran gwasanaethau ar-lein. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r ASB wedi bod yn dyfnhau ei sgyrsiau â chwmnïau fel Amazon a Facebook ac yn ceisio deall a mesur graddfa gyfredol busnesau sydd heb eu cofrestru, gan gynnwys y rhai sy’n masnachu ar-lein trwy wahanol lwybrau gwerthu. Bydd hyn yn ein galluogi i ddadansoddi’r risgiau cysylltiedig yn effeithiol a blaenoriaethu gwaith datblygu yn y maes hwn yn y dyfodol. Nawr am air cyflym ar ddata, yn enwedig ar gyfer ein cydweithwyr sy’n Ymarferwyr Iechyd yr Amgylchedd (EHP) sy’n gweithio yn y sector preifat. Mae'r system fwyd yn gymhleth, yn rhyngwladol, yn newid drwy’r amser, ac mae hyn yn cyflwyno heriau. Fodd bynnag, mae’n llawn data ac mae’r arloesedd yn y meysydd technolegol yr ydym ni wedi’i weld dros y blynyddoedd diwethaf yn rhoi cyfle i ni ddefnyddio’r data hwnnw.

Rydym ni’n gweld newid mewn busnesau sydd am reoli eu cadwyni cyflenwi yn well, yn ogystal â rheoleiddwyr ledled y byd, gan gynnwys yr ASB. Data yw’r allwedd sy’n datgloi cymaint o ran dulliau rheoleiddio da a chymesur, yn ogystal â bwyd y gallwch chi ymddiried ynddo. I fusnesau, fel nad yw’n faich ond yn fudd, ac i’r defnyddiwr, fel bod modd iddyn nhw gael sicrwydd am yr hyn maen nhw’n ei brynu. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod rheoleiddwyr a’r diwydiant bwyd yn gweithio gyda’i gilydd i gael y canlyniad gorau o ran data.

Casgliad

I gloi, hoffwn i ailadrodd pwynt a wnes i ym mis Hydref am ein cynlluniau ar gyfer diwygio rheoleiddiol. Bydd EHPs ac awdurdodau lleol yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn y system reoleiddio newydd, a’n nod yw mynd i’r afael â’r heriau hyn gan weithio gyda chi.

Mae gweithwyr iechyd yr amgylchedd proffesiynol sy’n gweithio gyda chymunedau lleol yn ased gwerthfawr a hanfodol. Maen nhw mewn sefyllfa ddelfrydol i ymgymryd â’r ystod o weithgareddau sy’n rhan annatod o ddiogelu defnyddwyr a chefnogi busnesau i wneud y peth iawn dros ddefnyddwyr. Bydd yr ASB yn parhau i hyrwyddo yn ogystal â dibynnu’n aruthrol ar wybodaeth leol yn ogystal â data mawr.

Fel rydym ni wedi trafod eisoes, mae’r pandemig wedi bod yn gyfnod heriol i broffesiwn iechyd yr amgylchedd ac i’r ASB, ond mae hefyd wedi rhoi cyfle i ni weithio’n well gyda’n gilydd.

Wrth i ragor o gyfarfodydd yn cael eu cynnal o bell, mae cydweithwyr yr ASB ac awdurdodau lleol, nad oeddent efallai wedi gallu teithio neu ddod i’r cyfarfodydd hyn o’r blaen, wedi gallu rhyngweithio’n haws.

Mae gweithio o bell wedi galluogi’r ASB i sicrhau bod y bobl berthnasol ar gael i ddod i gyfarfodydd yn ôl yr angen. Roedd hyn yn her yn y gorffennol.

Mae ymgysylltiad yn Lloegr yn arbennig wedi gwella’n fawr. Rydw i bendant yn gweld ein bod yn dibynnu mwy ar yr wybodaeth a gasglwyd yn y cyfarfodydd hynny wrth i ni feddwl am bethau fel y cynllun adfer awdurdodau lleol y soniais amdano yn gynharach. Mae’r gallu i gyfnewid gwybodaeth a mewnwelediadau yn y cyfarfodydd hynny wedi dylanwadu ar hyn.

I mi, dyna un peth cadarnhaol yn sgil y newidiadau sydd wedi codi yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, sef bod y ffordd rydym ni’n gweithio gyda’n gilydd wedi gwella oherwydd y pandemig, ac rydw i’n credu bod gennym ni berthynas waith agosach. Mae ymgysylltiad gwell wedi arwain at well cydweithredu ac wedi darparu adborth “amser real” amhrisiadwy i’r ASB gan awdurdodau lleol ar draws y tair gwlad lle’r ydym yn gweithio.

Wrth i ni nawr ganolbwyntio ar ddyfodol ar ôl y pandemig ac ar ôl Brexit, a gweithio tuag at adferiad, rydw i’n awyddus i adeiladu ar y berthynas well hon a chydweithio tuag at y dasg honno, sef bwyd y gallwn ymddiried ynddo.

Diolch.