Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Crynodeb o’r trafodaethau yng nghyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd . 21 Mehefin 2023 

Cyfarfu Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn Belfast ddydd Mercher. Roedd trafodaethau’r Bwrdd yn cynnwys adroddiad ar y Broses Dadansoddi Risg a’r Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddieg, diweddariad ar Reolaethau Mewnforio a’r Model Gweithredu Targed (TOM), a rhannodd y Prif Weithredwr Emily Miles sylwadau ar Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol yr ASB.

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 June 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 June 2023

Diweddariad ar y Broses Dadansoddi Risg a’r Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig  

Aeth y Bwrdd ati i drafod y diweddariad ar berfformiad proses dadansoddi risg yr ASB. Dyma’r broses o asesu, rheoli a chyfathrebu risgiau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, gan sicrhau safonau uchel o ran diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid er mwyn diogelu defnyddwyr. Nododd y Bwrdd y cynnydd cyson a wneir o ran awdurdodiadau cynhyrchion rheoleiddiedig a materion dadansoddi risg, tra’n cydnabod hefyd y pwysau ar adnoddau ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gofynnodd y Bwrdd hefyd i gyflymu’r agenda ddiwygio tymor hirach, a chynyddu uchelgais er mwyn cefnogi arloesedd yn y sector hwn yn well.
 
Dywedodd yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB:   

 
 “Er ein bod yn gwybod bod angen i ni weithio o fewn y system bresennol am y ddwy flynedd nesaf, mae angen i ni feddwl yn wahanol. Felly, tra bod y tîm yn blaenoriaethu’r gwaith presennol, byddwn yn edrych ar hyn yn fanwl unwaith eto ym mis Medi, gan ystyried papur ar ddiwygio’n sylweddol broses dadansoddi risg yr ASB a’r gwasanaeth cynhyrchion rheoleiddiedig.”  

Rheolaethau Mewnforio a’r Model Gweithredu Targed (TOM) 

Trafododd y Bwrdd bapur yn diweddaru ar y broses a ddilynwyd ar gyfer penderfynu ar y Model Gweithredu Targed, categorïau risg, a’r camau nesaf. Roedd y Bwrdd yn falch o weld y dull rheoli sy’n seiliedig ar risg ar gyfer rheolaethau, ac yn hyderus yn y prosesau adolygu gwelliant parhaus sydd ar waith i sicrhau y gallwn ymateb yn gyflym wrth i dystiolaeth newydd ddod i law, er mwyn sicrhau bod y system yn parhau i fod yn gymesur â’r risgiau. 

Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio’n bennaf ar sicrhau bod y model ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd yn cael ei roi ar waith. Roedd y Bwrdd yn cefnogi’r cynlluniau ‘Trusted Traders’, a fe’i sicrhawyd bod profiad yr ASB o achosion o dwyll bwyd yn cael ei fwydo i mewn i’r cynllun er mwyn sicrhau bod lefelau uchel o ddiogelwch i ddefnyddwyr a bod camau gorfodi digonol ar waith i sicrhau nad yw’r cynllun yn diogelu gweithredwyr drwg yn y system. Ymrwymwyd i ddiweddaru’r Bwrdd ymhellach ar sut mae’r model risg yn gweithredu’n ymarferol a sut y bydd llwyddiant yn cael ei fesur yn y cynlluniau peilot ‘Truster Trader’  

Dywedodd Cadeirydd yr ASB, yr Athro Susan Jebb, ei bod yn falch o natur arloesol y model a’i ddefnydd o wyddoniaeth a thystiolaeth. Nododd fod absenoldeb rheolaethau mewnforio o’r UE wedi’i nodi fel risg yn Adroddiad Blynyddol y llynedd a bod dod â’r rheolaethau i rym o dymor yr hydref yn hanfodol i gynnal safonau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid uchel y DU a chynnal hyder defnyddwyr. 

Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol yr ASB

Yn ei hadroddiad i’r Bwrdd, siaradodd y Prif Weithredwr Emily Miles am rôl Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol (SACs) annibynnol yr ASB, ac yn arbennig rôl y Pwyllgor ar Wenwyndra (COT). Mae aelodau’r Pwyllgor COT yn gweithio mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys adrannau academaidd a’r diwydiant, gan ddarparu arbenigedd mewn meysydd arbenigol o wenwyneg.  

Yn ei hadroddiad, ychwanegodd Emily:  

“Mae buddiannau aelodau ein Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol yn cael eu rheoli yn unol â Chod Ymarfer y Llywodraeth ar gyfer Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol. Mae’n rhaid i aelodau’r COT ddatgan eu buddiannau ar gyfer pob eitem sy’n cael ei thrafod a gellir gwneud penderfyniadau ynghylch lefelau cyfranogiad yr aelod yn unol â hynny. Mae llawer o fuddiannau yn anuniongyrchol iawn a dim ond angen eu cofnodi.   

“Fodd bynnag, gan ddibynnu ar natur y buddiant, efallai na fydd aelodau’n gallu cyfrannu at gasgliadau’r Pwyllgor ar bwnc penodol neu efallai y bydd yn rhaid iddynt adael y drafodaeth yn gyfan gwbl; nodir hyn yn y cofnodion. Mae cyfarfodydd COT hefyd yn cael eu cynnal mewn sesiwn agored cyn belled ag y bo modd, felly gall partïon sydd â buddiant wneud cais i wylio’r cyfarfodydd.” 

 Diolchodd yr Arglwydd Blencathra, Aelod o Fwrdd yr ASB, i Emily a’i thîm am “amddiffyn uniondeb ein gwyddonwyr” yn dilyn beirniadaeth ddiweddar yn y cyfryngau.
 Dywedodd yr Arglwydd Blencathra: 

“Os yw adrannau’r Llywodraeth eisiau i wyddonwyr o’r radd flaenaf wasanaethu ar eu pwyllgorau, mae’n anochel y bydd y rhai gorau wedi gwneud gwaith i adrannau eraill, i sefydliadau addysg fel prifysgolion, neu hyd yn oed y sector preifat.  

“Ond nid yw hynny’n golygu eu bod yn rhagfarnllyd, ac mae’n hynod bwysig ein bod yn amddiffyn eu huniondeb. Ac, wrth gwrs, mae gennym ein systemau mewnol ein hunain i wneud yn siŵr bod eu holl fuddiannau yn cael eu datgan. Felly, rwy’n eich llongyfarch ar amddiffyn hynny, gan ei fod yn ofnadwy o bwysig.”