Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Crynodeb o’r trafodaethau yng nghyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – 22 Mawrth 2023

Cyfarfu Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ym Manceinion ddydd Mercher. Rhoddodd y Prif Weithredwr y newyddion diweddaraf i’r Bwrdd ar ddau fater cyfredol – Ymgyrch Hawk, a Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir – a thrafododd y Bwrdd hefyd bapurau yn ymwneud â’r rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (ABC) a Bridio Manwl.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 March 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 March 2023

Ymgyrch Hawk

Rhoddodd Emily Miles, Prif Weithredwr yr ASB, ddiweddariad i’r Bwrdd ar y ffordd yr ymdriniodd y sefydliad ag Ymgyrch Hawk, sef ymchwiliad troseddol i dwyll bwyd posib. Meddai:   

Mae ymchwiliadau troseddol o’r natur hon yn cymryd amser, gan fod angen archwilio’r dystiolaeth a dod i ganlyniad gwybodus, gan gynnwys erlyniadau posib. Mae’n rhaid i ni weithredu mewn ffordd nad yw’n peryglu unrhyw achosion cyfreithiol yn y dyfodol.  

Y llynedd, cynghorodd yr ASB manwerthwyr i wirio eu cyflenwyr cig wedi’i goginio. Pan fydd yr ASB yn gofyn i fanwerthwyr edrych ar eu cadwyni cyflenwi, rydym yn disgwyl iddynt gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ychwanegol. Nid ydym yn cyhoeddi’r rhybuddion hyn heb reswm.    
  
Bydd yr ASB yn parhau i gymryd camau pan fydd angen, gan gynnwys ymchwiliadau troseddol. Fodd bynnag, fel y rheoleiddiwr cenedlaethol, ni yw’r cam olaf o ran diogelu. Ar adeg pan fo pwysau costau a heriau eraill yn golygu y gallai’r risgiau o dwyll bwyd gynyddu, mae’n bwysig iawn bod pawb sy’n ymwneud â’r system fwyd yn wyliadwrus iawn.   

Yn ystod cyfarfod y Bwrdd, ymwelodd Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr ASB, ar y cyd â Chwnstabliaeth Swydd Derby a Safonau Masnach Cyngor Swydd Derby, â safle sy’n gysylltiedig â’r ymchwiliad troseddol hwn heb roi rhybudd ymlaen llaw.   

Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir  

Yn ei hadroddiad i’r Bwrdd, dywedodd Prif Weithredwr yr ASB, Emily Miles, wrth yr aelodau fod yr ASB yn aros am benderfyniad gan Lywodraeth y DU ar argymhellion yr ASB i gadw neu ymestyn y rhan fwyaf o gyfraith yr UE a ddargedwir sy’n rhan o’i chylch gwaith. Amlinellodd yr angen i weithio ar draws y pedair gwlad, yn ogystal â nod yr ASB i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn gynted â phosib ar ôl i’r Bil gael Cydsyniad Brenhinol.  

Wrth ymateb, dywedodd Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB: 

Rwyf wedi clywed llawer gan y diwydiant a busnesau sy’n chwilio am sicrwydd ar ddyfodol cyfraith bwyd. Mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi digon o amser ar gyfer cytuno ar ddull gweithredu sy’n gweithio i bob un o’r pedair gwlad ac ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ystyrlon, sy’n ofyniad statudol.

Rwy’n gobeithio y bydd gennym benderfyniadau gan y Llywodraeth yn fuan ynghylch y deddfau pwysig hyn sy’n bodoli i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chynnal safonau a diogelwch bwyd y DU. 

Y Bwrdd yn cymeradwyo model newydd ar gyfer rheolaethau safonau bwyd

Trafododd y Bwrdd bapurau o’r Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau a chytunodd i ddechrau rhoi ffordd newydd ar waith i awdurdodau lleol wirio bod busnesau bwyd yn cydymffurfio â gofynion o ran cyfansoddiad a labelu bwyd. Ei nod yw targedu busnesau sydd â’r risg fwyaf posib o dwyll bwyd neu labelu anghywir. 

Cafodd y model newydd ar gyfer rheolaethau safonau bwyd awdurdodau lleol ei dreialu’n llwyddiannus y llynedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, lle cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau i’r Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd i gyflwyno’r dull newydd.   

Roedd y Bwrdd yn cefnogi gweithredu’r model newydd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, er bod rhai wedi lleisio pryderon ynghylch adnoddau o fewn yr ASB ac adnoddau awdurdodau lleol i gefnogi gweithredu’r model newydd. Rhoddwyd sicrwydd i aelodau’r Bwrdd, unwaith y bydd y penderfyniad i fwrw ymlaen wedi’i wneud a’n bod wedi cytuno i gyhoeddi codau ymarfer cyfraith bwyd diwygiedig, y bydd y prosiect hwn yn flaenoriaeth i’r ASB. Bydd yr ASB yn gweithio gydag awdurdodau lleol i’w helpu i roi’r model newydd ar waith yn llwyddiannus.   

Y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)  

Gofynnodd y Bwrdd am fewnbwn mewn perthynas â gwybodaeth i ddefnyddwyr yn dilyn cyhoeddi ymchwil defnyddwyr. Fel rhan o hyn, siaradodd y Bwrdd am bwysigrwydd datblygu dealltwriaeth defnyddwyr o fridio manwl a meithrin hyder y cyhoedd ynghylch y wyddoniaeth a ddefnyddir.   

Meddai’r Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB:  

Mae pobl yn yr ystafell yn teimlo’n gryf bod angen i ni adolygu’r wybodaeth hon i ddefnyddwyr yn ofalus a dychwelyd ati maes o law.

Mae aelodau’r Bwrdd wedi bod yn glir iawn bod angen i ni ddefnyddio’r amser sydd gennym i gael yr effaith orau, drwy ddeall yn iawn sut gallwn helpu defnyddwyr i gael mynediad at wybodaeth ddibynadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a sut gallwn helpu defnyddwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o fridio manwl yn y ffordd fwyaf defnyddiol.

Trafodwyd diogelwch ac olrheiniadwyedd hefyd gan y Bwrdd, ac roedd yn parhau i fod â diddordeb yn natblygiad y fframwaith a’r broses reoleiddio, yn ogystal ag argymhellion un o bwyllgorau cynghori gwyddonol annibynnol yr ASB, y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP). 

Mwy o wybodaeth

Gellir gweld holl bapurau’r Bwrdd o’r cyfarfod yr wythnos hon ar wefan yr ASB (Saesneg yn unig). Bydd modd hefyd gwylio fideo o gyfarfod y Bwrdd cyn bo hir ar sianel Youtube yr ASB

Cynhelir cyfarfod nesaf Bwrdd yr ASB yn Belfast ar 21 Mehefin 2023.