Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Crynodeb o’r trafodaethau yng nghyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’r Pwyllgor Busnes – 07 Rhagfyr 2022

Cynhaliwyd cyfarfodydd Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a’r Pwyllgor Busnes yr wythnos diwethaf. Roedd y trafodaethau’n cynnwys canfyddiadau ac argymhellion adolygiad allanol diweddar o Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr ASB.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 December 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 December 2022

Adolygiad Allanol yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU).

Yng nghyfarfod Pwyllgor Busnes yr ASB, croesawodd yr aelodau Keith Bristow QPM a arweiniodd ar adolygiad allanol cynhwysfawr o Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr ASB yn ddiweddar. Goruchwyliodd Mr Bristow, cyn Brif Gwnstabl Swydd Warwick, y gwaith o sefydlu’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac ef oedd y Cyfarwyddwr Cyffredinol cyntaf rhwng 2011 a 2016.
  
Mae’r NFCU, a sefydlwyd yn dilyn sgandal cig ceffyl bron i ddegawd yn ôl, bellach yn dîm o 80, gyda galluoedd ymchwilio ers 2020, ac mae’n un o lond llaw o unedau troseddau bwyd ar draws y byd sy’n gweithio i helpu i atal achosion o dwyll neu weithgarwch anghyfreithlon yn y gadwyn fwyd. 

Wrth nodi bod yr NFCU yn cael ei “harwain yn dda, gyda gweithlu llawn cymhelliant â chymwysterau da sy’n canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau”, rhybuddiodd Mr Bristow fod twyll bwyd yn drosedd ddifrifol nad yw’n cael digon o sylw gan y cyhoedd ar hyn o bryd. 

Dywedodd Mr Bristow wrth y Bwrdd:

Dydw i ddim yn meddwl bod y bygythiad [troseddau bwyd] yn cael ei ddeall yn ddigon da nac yn ddigon gweladwy. 

Pan ddechreuais ddeall mwy, cefais fy synnu gan natur y bygythiad. Mae’n acíwt, mae hefyd yn gronig, ac mae’n ymddangos bod cynyddu amlygrwydd – heb godi braw diangen neu anghymesur – yn bwysig iawn. Roedd hynny, i mi, yn ganfyddiad pwysig iawn o’r adroddiad, ac mae’n edefyn sy’n berthnasol i’n holl negeseuon. 

Amlygodd yr adolygiad hefyd fod angen pwerau ymchwilio pellach er mwyn i’r NFCU allu arwain ymchwiliadau troseddol i droseddau bwyd cymhleth. Mae gwaith yn parhau i sicrhau’r ddeddfwriaeth sydd ei hangen er mwyn rhoi’r pwerau ychwanegol hyn ar waith ar gyfer yr NFCU.

Bu’r Bwrdd yn trafod nifer o eitemau eraill, gan gynnwys Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir a Rhaglen Trawsnewid Gweithredol yr ASB, a gellir gweld holl bapurau’r Bwrdd hyn ar wefan yr ASB. Gallwch hefyd wylio recordiad fideo llawn o gyfarfodydd y Bwrdd a’r Pwyllgor Busnes drwy fynd i sianel YouTube yr ASB

Diolchodd Cadeirydd yr ASB, yr Athro Susan Jebb, i Mr Bristow am ei sylwadau, gan ychwanegu:

Mae hwn yn adolygiad pwysig iawn i ni. Mae’r NFCU wedi tyfu’n aruthrol ac yn cynrychioli llawer iawn o fuddsoddiad gan yr ASB. 

Mae’n galonogol iawn eich bod wedi edrych ar yr Uned, a nodi ei bod yn gwneud gwaith da ac yn cael ei harwain yn dda. Mae’n wych clywed clod am yr hyn y mae’r tîm yn ei wneud. 

Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn clywed eich safbwynt am lefel a statws risg troseddau bwyd, ac mae hynny’n rhywbeth yr ydym yn ei ddeall.