Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Rydym yn newid y dull o gael mynediad at ddata’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Os ydych yn defnyddio rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau (API) y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) fersiwn 1 (f1), bydd angen i chi newid i enw parth newydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Hydref 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Hydref 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

O heddiw ymlaen (20 Hydref 2022), mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn diweddaru’r ffordd y gallwch gael mynediad at ryngwyneb rhaglennu cymwysiadau (API) y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) fersiwn 1 (f1).

Os ydych yn defnyddio CHSB API f1, bydd angen i chi newid i’r enw parth newydd (api1-ratings.food.gov.uk). Bydd gweddill strwythur yr URL cyfredol yn aros yr un fath. Yr unig newid yw’r enw parth. 

Er enghraifft, os ydych yn defnyddio API f1 ar hyn o bryd i gael data ar gyfer y math o fusnes ‘ysgolion/colegau/prifysgolion’, gallech ddefnyddio’r URL: https://ratings.food.gov.uk/enhanced-search/en-GB/%5E/%5E/Relevance/784….  

Bydd hyn yn newid i: https://api1-ratings.food.gov.uk/enhanced-search/en-GB/%5E/%5E/Relevanc…

Sylwch y bydd angen diweddaru unrhyw nodau tudalen neu ddolenni sydd gennych. 

Gallwch barhau i gael mynediad at yr API gan ddefnyddio’r parth cyfredol (ratings.food.gov.uk) tan fis Mawrth 2023. 

Rydym yn gwneud y newid hwn er mwyn moderneiddio ein seilwaith gwasanaeth.  

Ynglŷn â CSHB API f1  

Mae’r rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau yn caniatáu i ddatblygwyr gael mynediad at y data sgoriau hylendid bwyd sylfaenol a gyhoeddir ar y dudalen www.food.gov.uk/sgoriau

Anfonwch e-bost i data@food.gov.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.