Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth yn ymwneud â thwyll neu droseddoldeb mewn cadwyni cyflenwi bwyd, neu os ydych yn dymuno chwythu’r chwiban ynghylch busnes bwyd yr ydych yn gweithio iddo, ffoniwch linell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787 (9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener) neu rhowch wybod drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Newyddion

Cyfarfod Agored Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 14 Gorffennaf 2022

Penodol i Gymru

Bydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnal ei gyfarfod agored hybrid nesaf yng Nghaerdydd a thrwy Microsoft Teams ddydd Iau 14 Gorffennaf 2022. Cyfarfod â thema benodol fydd hwn a fydd yn canolbwyntio ar fridio manwl.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2022

Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau gan Uned Gwyddorau Cymdeithasol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Aberystwyth. 

Darllenwch fanylion yr agenda a’r papurau cyhoeddedig.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pynciau hyn, neu yng ngwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yn gyffredinol, ddod i’r cyfarfod i fynegi barn ac i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb agored.

Lleoliad

Bydd y cyfarfod hybrid hwn yn cael ei gynnal yn Swyddfa’r Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW, ac ar-lein trwy Microsoft Teams.

Os ydych yn bwriadu cymryd rhan wyneb yn wyneb, bydd modd cofrestru a chael paned o 09:40 ymlaen cyn i’r cyfarfod  ddechrau’n brydlon am 09:55.

Cadw lle

I gadw lle, neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at walesadminteam@food.gov.uk