Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Mehefin 2025

Bydd cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ym mis Mehefin 2025 yn cael ei gynnal heddiw am 9am.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Mehefin 2025

Cynhelir y cyfarfod yn Birmingham, dan arweiniad cadeirydd yr ASB, yr Athro Susan Jebb. Mae dal i fod amser i gofrestru i’w wylio ar-lein.

Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:

  • Glyserol mewn diodydd iâ slwsh
  • Rheoleiddio ar Lefel Genedlaethol
  • Diwygio’r drefn o ran Awdurdodiadau’r Farchnad
  • Diweddariad ar werthuso’r drefn o ran rhoi gostyngiadau wrth godi tâl ar gig
  • Adroddiad Blynyddol y Prif Gynghorydd Gwyddonol

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd

Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin 2025 yn gyfarfod agored, ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau o’r cyhoedd sydd wedi cofrestru i fod yno’n bersonol.

Os nad ydych wedi cofrestru eto, mae dal i fod amser i gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Cwestiynau i’r Bwrdd

I weld y cwestiynau sydd wedi dod i law’r ASB cyn y cyfarfod, ewch i dudalen y Bwrdd ar ein gwefan.