Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarfod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar wella dealltwriaeth o’r rhaglen ‘Dyfodol Rheoleiddio Bwyd’ – 18 Mai 2026

Penodol i Gymru

Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnal ei gyfarfod nesaf ym Mharc Cathays, Caerdydd ar 18 Mai 2026. Bydd y cyfarfod hybrid hwn yn canolbwyntio ar wella dealltwriaeth o’r rhaglen ‘Dyfodol Rheoleiddio Bwyd’.

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Ebrill 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Ebrill 2026

Bydd y cyfarfod a’r trafodaethau’n cynnwys y canlynol

  • Y diweddaraf o ran y rhaglen ‘Dyfodol Rheoleiddio Bwyd’
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid Cymru
  • Ystyriaethau Bwrdd yr ASB
  • Adnoddau awdurdodau lleol

Mae’r agenda lawn i’w gweld ar dudalen Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar ein gwefan.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y thema hon, a gwaith yr ASB yng Nghymru yn gyffredinol, ddod i’r cyfarfod a chymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb agored ar ôl y trafodaethau.

Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer dod i’r cyfarfod hwn yn bersonol, ond mae croeso i’r rhai sydd â diddordeb ymuno ar-lein a chyflwyno cwestiynau i’r Pwyllgor ymlaen llaw trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod.

Manylion y lleoliad

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ym Mharc Cathays, Caerdydd. Bydd y cyfarfod hefyd yn cael ei gynnal ar-lein drwy MS Teams. Bydd y cyfarfod yn dechrau’n brydlon am 10am.

Cadw lle a chyflwyno cwestiynau

Anfonwch e-bost i walesadminteam@food.gov.uk er mwyn gwylio’r cyfarfod ar-lein, cyflwyno cwestiwn neu gael mwy o wybodaeth.