Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi adroddiad ar brosesau cynhyrchu cig rhyngwladol

Heddiw, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi adroddiad gwyddonol, sy'n asesu prosesau cynhyrchu cig rhyngwladol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 May 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 May 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Edrychodd yr astudiaeth hon ar wybodaeth a data o wahanol wledydd ledled y byd ar brosesau cynhyrchu ar gyfer cig a dofednod, a pha mor gyffredin yw sawl micro-organeb.

Fe’i cynhaliwyd i’n helpu i ddeall cyd-destun rhyngwladol mewnforion yn well, a’r prosesau rheoli diogelwch bwyd sydd gan bob gwlad ar waith i ddiogelu cynhyrchion sy'n dod i'r Deyrnas Unedig (DU). 

Creodd ymchwilwyr broffiliau o 16 gwlad, gan gynnwys y DU, yn cynnwys data am ba mor gyffredin yw Salmonela, Campylobacter, E-coli, Trichinella ac Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMR) mewn cig, yn ogystal â disgrifiadau o brosesau cynhyrchu. 

Fodd bynnag, nododd yr adroddiad anawsterau wrth geisio cymharu’n uniongyrchol rhwng gwledydd, oherwydd amrywioldeb sylweddol mewn technegau casglu data fel samplu a phrofi, a’r dulliau gwahanol o weithredu cynlluniau rheoli ledled y byd. 

Meddai Pennaeth Gwyddoniaeth, Tystiolaeth ac Ymchwil yr ASB, Rick Mumford: 

“Mae dull gwyddonol cryf sy'n seiliedig ar dystiolaeth bob amser wedi bod yn ganolog i'n cenhadaeth i sicrhau bod bwyd yn ddiogel a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Mae pob penderfyniad a wnawn wedi'i seilio ar ffeithiau a thystiolaeth wyddonol, ac mae hyn yn berthnasol i gynhyrchion wedi’u mewnforio.

“Er ei bod yn anodd iawn cyflawni cymariaethau byd-eang uniongyrchol, mae’n hanfodol bwysig bod yr ASB yn parhau i archwilio gwahanol brosesau a ffynonellau gwybodaeth fel y gallwn ni wella ein data ein hunain – gan helpu i ddarparu’r sylfaen wyddonol orau un ar gyfer ein cyngor annibynnol i’r Llywodraeth a phartneriaid eraill.

“Mae’n bwysig nodi, os yw cig wedi’i fwriadu i’w allforio i’r DU, rhaid iddo fodloni gofynion mewnforio’r DU, a ni fydd hyn yn newid.”

Mae'r adroddiad llawn ar gael ar ein tudalennau ymchwil (Saesneg yn unig).