Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi enw’r ymgeisydd a ffefrir i fod yn Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae'r Athro Susan Jebb wedi'i henwi fel yr ymgeisydd y mae'r Llywodraeth yn ei ffafrio ar gyfer swydd Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 April 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 April 2021
Yr Athro Susan Jebb

Mae Susan Jebb, athro deiet ac iechyd y boblogaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, wedi ei henwi fel yr ymgeisydd a ffefrir i gymryd yr awenau gan y Cadeirydd dros dro, Dr Ruth Hussey, a fydd yn dychwelyd i’w rôl fel Is-gadeirydd.

Fel Cadeirydd, bydd Susan Jebb yn gyfrifol am weithio gyda Bwrdd yr ASB a’r Prif Weithredwr i bennu cyfeiriad strategol yr ASB ac i oruchwylio ei rhaglenni gwaith.

Meddai Susan Jebb: “Rydw i ar ben fy nigon i gael fy enwi fel yr ymgeisydd a ffefrir i Gadeirio’r ASB. Mae hon yn adeg bwysig i’n system fwyd, ac edrychaf ymlaen at adeiladu ar yr ymddiriedaeth mae’r llywodraeth wedi’i buddsoddi yn yr ASB i chwarae rhan lawn a gweithredol yn yr heriau sydd o’n blaenau. Yn bwysicach na dim, rydw i’n awyddus i sicrhau bod yr adran yn parhau i fod yn hynod effeithiol wrth ddiogelu iechyd y cyhoedd a sicrhau ei chenhadaeth o ‘fwyd y gallwn ymddiried ynddo’.

Fy nod yw hyrwyddo gwyddoniaeth a phenderfyniadau tryloyw sy’n seiliedig ar dystiolaeth, tra hefyd yn sicrhau bod safbwynt y defnyddiwr yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydw i eisiau cryfhau ein perthynas ar draws y llywodraeth a chyda’r gwledydd datganoledig, fel y gallwn, gyda’n gilydd, gynnal yr hyder yn ein safonau bwyd ymhlith defnyddwyr a’n partneriaid masnachu.”

Cyn y gellir cadarnhau’r penodiad, mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Matt Hancock, ar ran yr holl awdurdodau penodi, wedi gwahodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnal gwrandawiad craffu cyn-penodi cyhoeddus yn unol â gweithdrefnau seneddol, ac mae disgwyl i hwn ddigwydd ddechrau mis Mai.

Mae’r cyhoeddiad ar yr ymgeisydd a ffefrir gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’w weld ar wefan GOV.UK.

Dysgu rhagor am Susan Jebb 

Mae’r Athro Susan Jebb yn un o brif wyddonwyr y Deyrnas Unedig, yn Gymrawd Academi y Gwyddorau Meddygol ac yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol y Meddygon. Roedd ei gwaith ymchwil diweddaraf yn canolbwyntio ar drin gordewdra ac ymyriadau i annog deiet iach a chynaliadwy.

Mae gan Susan ddiddordeb hiroes mewn trosi tystiolaeth wyddonol yn bolisi, a hi oedd Cynghorydd Gwyddonol adroddiad Swyddfa’r Llywodraeth ar Ragolygon Gwyddonol ar ordewdra yn 2007 ac ar hyn o bryd, mae hi’n gynghorydd i’r Strategaeth Fwyd Genedlaethol. Yn flaenorol, mae wedi cadeirio’r grŵp cynghori arbenigol trawslywodraethol ar ordewdra (2007–2011), rhwydwaith cyfrifoldeb bwyd yr Adran Iechyd (2011–2015) a phwyllgorau cynghori ar iechyd y cyhoedd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (2013-2018). Cafodd OBE yn 2008 am wasanaethau i iechyd y cyhoedd.

Mae Susan yn bwriadu parhau gyda phenodiad rhan amser ym Mhrifysgol Rhydychen law yn llaw â’r rôl fel Cadeirydd yr ASB.