Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyngor i berchnogion cathod yn dilyn cynnydd mewn achosion o pancytopenia cathod

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cyhoeddi cyngor i berchnogion cathod yn dilyn cynnydd mewn achosion o pancytopenia cathod sy'n gallu achosi salwch difrifol mewn cathod

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 September 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 September 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae'r ASB, Safonau Bwyd yr Alban ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn cynghori perchnogion cathod i beidio â bwydo cynhyrchion bwyd cath penodol i'w cathod.

Ers mis Ebrill 2021, bu dros 130 o achosion o pancytopenia cathod, sef salwch sy’n aml yn gallu bod yn angheuol mewn cathod. 

Mae pancytopenia yn gyflwr prin iawn lle mae nifer y celloedd gwaed (coch, gwyn a phlatennau) yn gostwng yn gyflym, gan achosi salwch difrifol.

Mae’r achosion presennol hyn o pancytopenia o bosibl yn gysylltiedig â chynhyrchion bwyd cath penodol. O ganlyniad i hyn, cyhoeddwyd hysbysiad galw cynhyrchion yn ôl sy'n nodi manylion y cynhyrchion yr effeithir arnynt.   

Meddai llefarydd ar ran y llywodraeth:

‘Gan weithio gyda'r Coleg Milfeddygol Brenhinol, yr Asiantaeth Iechyd Planhigion ac Anifeiliaid (APHA) ac adrannau eraill y llywodraeth ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig (DU), awdurdodau lleol a'r gadwyn cyflenwi bwyd anifeiliaid anwes, rydym ni’n ymchwilio i gysylltiad posibl rhwng cynhyrchion bwyd cath penodol a pancytopenia cathod. Nid oes tystiolaeth bendant i gadarnhau cysylltiad ar hyn o bryd.

‘Nid oes unrhyw fwyd cath anniogel wedi’i nodi, ond mae gweithgynhyrchwr a pherchnogion brand y cynhyrchion dan sylw, yn seiliedig ar yr ymchwiliadau hyd yn hyn, yn cymryd y camau gofalus o alw a thynnu’r cynhyrchion bwyd cath sy’n gysylltiedig â’r cathod yr effeithiwyd arnynt yn ôl.

‘Nid oes tystiolaeth i awgrymu bod yr achos hwn o pancytopenia cathod yn peri unrhyw risg i iechyd pobl.’

Cyngor i berchnogion cathod

Mae pancytopenia yn glefyd difrifol, ond prin iawn fel arfer. Os yw eich cath yn sâl ac wedi cael ei bwydo ag unrhyw un o'r bwydydd a restrir yn yr hysbysiad galw cynhyrchion yn ôl, dylech ofyn am gyngor ar unwaith gan eich milfeddyg.

Os yw bwyd arferol eich cath yn gynnyrch sydd wedi cael ei alw’n ôl, defnyddiwch frand bwyd cath arall.

Os oedd eich cath yn cael ei bwydo ag un o’r cynhyrchion dan sylw am resymau meddygol, trafodwch â’ch milfeddyg pa fwyd arall y byddai’n well ei ddefnyddio. Bydd hyn yn helpu i atal eich cath rhag mynd yn sâl o ganlyniad i roi’r gorau i fwydo’r bwyd sy’n rhan o’r hysbysiad galw’n ôl hwn.

Cyngor i filfeddygon

Mae'r Coleg Milfeddygol Brenhinol wedi galw am wybodaeth i gasglu rhagor o wybodaeth am unrhyw achosion a nodwyd a ffynhonnell bosibl y salwch hwn mewn cathod.

Mae rhagor o fanylion am y broses galw’n ôl a'r holl gynhyrchion yr effeithiwyd arnynt i’w gweld yn yr hysbysiad galw cynhyrchion yn ôl (Saesneg yn unig).