Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cynhyrchion Kinder pellach yn cael eu galw'n ôl fel cam rhagofalus yn dilyn brigiad o salmonela

Cynhyrchion Kinder pellach yn cael eu galw'n ôl mewn ffatri yng Ngwlad Belg fel cam rhagofalus yn dilyn brigiad o salmonela

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 April 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 April 2022

O ganlyniad i’r ymchwiliad parhaus i frigiad o achosion o salmonela sy’n gysylltiedig â chynhyrchion Kinder, mae Ferrero wedi ymestyn ei rybudd galw’n ôl i gynnwys yr holl gynhyrchion Kinder a gynhyrchwyd yn ei safle Arlon yng Ngwlad Belg rhwng mis Mehefin a heddiw.

Mae’r diweddariad newydd yn golygu na ddylid bwyta unrhyw un o’r cynhyrchion yn y rhybudd galw’n ôl, waeth beth fo’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ (best before). Dim ond cynhyrchion â dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ hyd at 7 Hydref 2022 oedd yn cael eu nodi yn y rhybudd blaenorol.

Kinder product recall items

Mae manylion llawn y cynhyrchion yr effeithir arnynt yn yr hysbysiad galw cynnyrch yn ôl (8 Ebrill). Efallai na fydd deunydd pecynnu’r cynhyrchion a alwyd yn ôl yn cyfeirio at y ffatri yng Ngwlad Belg lle cawsant eu cynhyrchu a gallant gynnwys cyfeiriad cyswllt gwahanol, felly mae’n bwysig bod defnyddwyr yn gwirio eu cynhyrchion yn erbyn y rhestr o gynhyrchion yn y rhybudd galw’n ôl.   

Mae Ferrero wedi atal yr holl weithrediadau yn ei ffatri yn Arlon i gynorthwyo’r ymchwiliad parhaus, a bydd gwaith ond yn ailddechrau pan fydd yr awdurdodau’n fodlon bod y bwyd a gynhyrchir yno yn ddiogel.  

Mae’n peri pryder i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fod Fererro wedi oedi wrth rannu gwybodaeth yn ystod yr ymchwiliad, sydd wedi cyfrannu at broses galw’n ôl dameidiog a’r angen i gynnal nifer o rybuddion galw’n ôl ar wahân.  

Fodd bynnag, mae’r ASB yn croesawu penderfyniad Ferrero heddiw i ymestyn ei rybudd galw’n ôl rhagofalus a’i ymrwymiad i gefnogi’r ymchwiliad parhaus i wraidd yr achos hwn. 

Meddai Pennaeth Digwyddiadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd, Tina Potter: 

“Dylai defnyddwyr ddilyn y cyngor yn y rhybuddion galw’n ôl diweddaraf, sy’n rhoi manylion yr holl gynhyrchion a allai beri risg. 

“Rydym ni wedi pwysleisio i’r busnes a’r awdurdodau yng Ngwlad Belg pa mor bwysig yw cymryd dull mor ofalus â phosib wrth alw’r cynhyrchion yn ôl ac rydym ni’n hyderus y byddant yn parhau i roi anghenion defnyddwyr yn gyntaf mewn unrhyw gamau y maent yn eu cymryd. 

“Rydym ni’n parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys UKHSA a Safonau Bwyd yr Alban, i sefydlu sut y dechreuodd y brigiad o achosion hwn ac i wneud yn siŵr bod yr holl gamau angenrheidiol wedi’u cymryd i atal salwch pellach.” 

Meddai Dr Lesley Larkin, Arweinydd Gwyliadwriaeth, Pathogenau Gastroberfeddol a Diogelwch Bwyd (One Health) yn UKHSA:

“Rydym ni’n croesawu cydweithrediad Ferrero International SA wrth alw yn ôl a thynnu yn ôl nifer o gynhyrchion melys sy'n gysylltiedig â brigiad o achosion parhaus o Salmonela yn y DU. Rydym ni’n gweithio’n agos gyda’r cwmni yn ogystal â’r Asiantaeth Safonau Bwyd, Safonau Bwyd yr Alban, Iechyd Cyhoeddus yr Alban, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon ac awdurdodau iechyd cyhoeddus a diogelwch bwyd rhyngwladol i sicrhau bod y risg i’r cyhoedd mor isel â phosibl.

“Mae symptomau salmonelosis fel arfer yn gwella heb driniaeth o fewn ychydig ddyddiau. Fodd bynnag, gall symptomau fod yn fwy difrifol, yn enwedig ymhlith plant ifanc a'r rhai â systemau imiwnedd gwan. Dylai unrhyw un sy’n pryderu bod ganddynt symptomau salmonelosis gysylltu â’u meddyg teulu neu ffonio GIG 111. Gall salmonela gael ei ledaenu o berson i berson, felly dylai unrhyw un yr effeithir arno sydd â symptomau ddilyn arferion hylendid da fel golchi dwylo’n drylwyr ar ôl defnyddio’r ystafell ymolchi ac osgoi trin bwyd i eraill lle bo’n bosibl."

Mae rhagor o gyngor a chanllawiau ar salmonela ar gael ar-lein.