Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Datganiad y Prif Weithredwr ar yr ymchwiliad i dwyll cig

Mae Emily Miles, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), wedi cyhoeddi datganiad ar yr ymchwiliad troseddol i dwyll bwyd posib yn dilyn adroddiadau diweddar yn y cyfryngau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 March 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 March 2023

 

Meddai Emily Miles:   
  
“Rydym yn parhau â’n hymchwiliad troseddol i honiadau bod cyflenwr cig wedi darparu cynhyrchion y nodwyd ar y labelwyd eu bod yn dod o Brydain, ond a oedd, mewn gwirionedd, wedi dod o wledydd eraill.   
 
Mae hwn yn ymchwiliad byw, sy’n golygu ein bod yn ystyried pob trywydd ymholi newydd gyda’r awdurdodau lleol perthnasol, gan gynnwys ymchwilio i achosion posib o dorri rheolau hylendid bwyd. Rydym yn gwneud hyn ochr yn ochr â’n hymchwiliad i dwyll bwyd. 
 
Yn seiliedig ar yr ymchwiliad hyd yma, nid oes unrhyw arwydd bod bwyd yn anniogel neu fod mwy o risg risg i ddefnyddwyr. 
 
Mae ymchwiliadau troseddol yn cymryd amser ac mae angen dilyn proses briodol a theg. Bydd yr ASB yn gweithio’n ddiflino ar ran defnyddwyr i sicrhau bod yr ymchwiliad troseddol hwn yn cael ei gynnal i’r safonau uchaf posib. 
 
A hithau'n gyfnod lle gallai'r risg o dwyll bwyd gynyddu oherwydd pwysau costau a heriau eraill, hoffwn bwysleisio ei bod yn hanfodol bod pawb sy’n ymwneud â’r gadwyn fwyd yn gweithio i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label” 

 
Os oes gan unrhyw un unrhyw bryderon neu wybodaeth yn ymwneud â thwyll neu droseddoldeb mewn cadwyni cyflenwi bwyd, gallant godi’r rhain trwy gysylltu â llinell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787 neu drwy roi gwybod ar-lein