Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Datganiad yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar Gomisiwn Iechyd The Times

Datganiad ar ran Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb, ar sylwadau a wnaed fel rhan o Gomisiwn Iechyd The Times.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 January 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 January 2023

Fel rhan o ymchwiliad y Comisiwn Iechyd, cyhoeddodd The Times sylwadau a wnaed gan yr Athro Susan Jebb ar 17 Ionawr 2023, yn nodi ei barn ar amrywiaeth o bynciau yn ymwneud ag atal a thrin gordewdra.

Mae’r Athro Jebb yn cymryd rhan yng Nghomisiwn Iechyd The Times mewn rhinwedd bersonol ac mae’r sylwadau yn adlewyrchu’r ymchwil a wnaed ganddi fel Athro Deiet ac Iechyd y Boblogaeth ym Mhrifysgol Rhydychen.

Meddai'r Athro Jebb:

'Rwyf am ei gwneud yn glir iawn nad yw’r sylwadau a fynegir yn erthygl The Times yn adlewyrchu barn Bwrdd yr ASB, ac nid ydynt ychwaith yn adlewyrchu polisi cyfredol neu arfaethedig yr ASB mewn unrhyw ffordd.

‘Cytunais i ymuno â’r Comisiwn Iechyd fel academydd, a chafodd y sylwadau eu gwneud mewn sgwrs â The Times ac mewn trafodaeth ag aelodau eraill o baneli'r Comisiwn Iechyd.

Fel y mae erthygl The Times yn ei nodi, gwnes i’r sylwadau mewn rhinwedd bersonol ac mae’n gamarweiniol ac yn anghywir eu dehongli fel safbwynt neu bolisi presennol yr ASB.’
 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â swyddfa'r wasg Prifysgol Rhydychen: news.office@admin.ox.ac.uk neu ffoniwch 01865 280528.