Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Diweddariad: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn darparu canllawiau am fod modd defnyddio rhagor o olewau wedi’u puro’n llawn i amnewid cynhwysion

Wrth i’r gwrthdaro yn Wcráin barhau i effeithio’n ddifrifol ar gyflenwad olew blodau’r haul y Deyrnas Unedig (DU), dyma ragor o wybodaeth ddefnyddwyr a manwerthwyr am amnewidion olew a labelu cynnyrch.  

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 April 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 April 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynghori defnyddwyr y gall rhai cynhyrchion bwyd bellach gynnwys olewau llysiau safon bwyd (food grade) eraill wedi’u puro neu wedi eu puro’n llawn, er bod y cynhyrchion hyn wedi’u labelu fel rhai sy’n cynnwys olew blodau’r haul. 

Mae’r diweddariad hwn yn cynghori defnyddwyr bod olew palmwydd, olew cnau coco ac olew ffa soia, oll wedi’u puro’n llawn yn cael eu defnyddio mewn rhai cynhyrchion heb wneud newidiadau i’r label. Rydym eisoes wedi cyhoeddi cyngor i ddefnyddwyr ar ddefnyddio olew hadau rêp wedi’i buro oherwydd effaith y gwrthdaro yn Wcráin ar argaeledd cynnyrch. 

Meddai Emily Miles, Prif Weithredwr yr ASB:  

 “Ein blaenoriaeth ni yw bod bwyd yn ddiogel, a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Os yw’r diwydiant yn gwneud penderfyniadau ynghylch amnewid yr olewau hyn, rydym yn disgwyl i’r labeli cywir gael eu paratoi a’u hargraffu cyn gynted â phosib fel y gall defnyddwyr fod yn hyderus o ran y bwyd y maent yn ei brynu. Rhaid i unrhyw anghywirdebau labelu fod yn rhai dros dro yn unig. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant i godi ymwybyddiaeth defnyddwyr o unrhyw newidiadau posib i gynhwysion.

“Rydym wedi cynnal asesiad risg cyflym ar dri olew wedi’i buro’n llawn y mae’r diwydiant bwyd yn bwriadu eu defnyddio mewn amrywiaeth o gynhyrchion yn lle olew blodau’r haul am fod y rhyfel yn Wcráin yn effeithio ar gyflenwad y math hwn o olew. Mae’r asesiad risg yn canolbwyntio ar bobl sydd ag alergeddau bwyd, ac mae risg bwyd uniongyrchol olew palmwydd wedi’i buro’n llawn ac olew cnau coco wedi’i buro’n llawn yn isel iawn, ac yn ddibwys ar gyfer olew ffa soia wedi’i buro’n llawn. Mae hyn yn golygu bod adweithiau alergaidd i’r olewau llysiau hyn wedi’u puro’n llawn yn brin iawn ac – os byddant yn digwydd, byddant yn ysgafn.”

Rydym yn annog y diwydiant i ystyried defnyddio’r olewau iachach a mwy cynaliadwy sydd ar y rhestr hon os ydynt yn amnewid eu cynhwysion. Dylai defnyddwyr gysylltu â’r gwneuthurwr neu’r brand i gael rhagor o wybodaeth os ydynt yn ansicr o ran cynnwys unrhyw gynnyrch neu os oes ganddynt bryderon am gynhwysyn a gaiff ei amnewid.”  
 

Mae canllawiau wedi’u hanfon at awdurdodau lleol ar y ffactorau y gallent eu hystyried er mwyn helpu i wneud penderfyniadau gorfodi cymesur fesul achos, gan ystyried buddiannau ehangach defnyddwyr.  

Mae’r asesiad risg alergenau cyflym ar gyfer yr olewau hyn wedi’i gyhoeddi fel rhan o’n hymrwymiad i gyhoeddi’r wyddoniaeth a’r dystiolaeth sy’n sail i’n cyngor a’n canllawiau.   

Pan ddefnyddir olewau amgen, mae’r ASB yn disgwyl i fusnesau roi gwybod i ddefnyddwyr am unrhyw newid cynnyrch cysylltiedig, p’un a yw’r cynnyrch hwnnw’n cael ei brynu yn y siop neu ar-lein, gan ddefnyddio, er enghraifft, hysbysiadau mannau gwerthu a gwybodaeth ar eu gwefannau.

Sut mae’r ASB yn llywio penderfyniadau ar amnewidion olew blodau’r haul   

Wrth ystyried yr olewau amgen y gellir eu defnyddio yn lle olew blodau’r haul o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, mae’r ASB wedi cynnal nifer o brofion i bennu a ddylid mabwysiadu dull gorfodi cymesur o ymdrin ag anghywirdebau labelu sy’n deillio o amnewid cynhwysion dros dro.

Mae’r profion dros dro hyn wedi’u datblygu i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch mesurau dros dro i gefnogi’r gadwyn gyflenwi bwyd. Bydd y profion hyn yn helpu i sicrhau bod bwyd yn ddiogel, bod buddiannau defnyddwyr yn cael eu diogelu ac nad oes unrhyw darfu ar y gadwyn cyflenwi bwyd.

Mae Bwrdd yr ASB yn ymwybodol o’r sefyllfa a bydd yn parhau i’w hadolygu, gan gynnwys cynnydd y diwydiant o ran cydymffurfio.