Dyn wedi’i ddedfrydu yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gan yr NFCU i droseddau’n ymwneud â diogelwch bwyd a ‘smokies’
Yn dilyn ymchwiliad gan yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU), sy’n rhan o’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), a Chyngor Redbridge, mae dyn wedi cael dedfryd ohiriedig.
Cafodd Arfan Sultan o Ilford ei ddedfrydu yn Llys y Goron Snaresbrook ddydd Gwener, 14 Tachwedd 2025.
Roedd Sultan wedi pledio’n euog yn flaenorol a chafodd ei ddedfrydu i 16 mis o garchar wedi’u gohirio am 18 mis, 250 awr o waith cymunedol di-dâl i’w gwblhau yn ystod y 12 mis nesaf a chostau o £3,000.
Plediodd Mr Sultan yn euog i wyth trosedd o dan Reoliad 19 o Reoliadau Diogelwch a Hylendid Bwyd (Lloegr) 2013.
Defaid, hyrddod neu eifr sydd wedi’u lladd yn anghyfreithlon yw ‘smokies’, ac mae’r blas mwg yn dod o osod y croen dan dymheredd uchel.
“Mae’r ddedfryd a roddwyd i Mr Sultan yn adlewyrchu natur ddifrifol y troseddau hyn. Mae’r NFCU, mewn partneriaeth â’r heddlu a chyngor Redbridge, wedi bod yn gweithio ar ymchwiliad i droseddau sy’n gysylltiedig â hylendid bwyd, a lladd defaid a geifr yn anghyfreithlon. Drwy gydweithio’n agos â’n partneriaid, fe wnaethom lwyddo i gael gwared ar lawer iawn o gig anaddas o’r gadwyn fwyd.
Oherwydd y ffordd maen nhw’n cael eu gwneud, mae ‘smokies’ yn torri’r gyfraith diogelwch bwyd, ac yn aml ddeddfwriaeth lles anifeiliaid. Felly, os ydych chi’n amau bod ‘smokies’ yn cael eu gwerthu, cysylltwch â’ch adran Safonau Masnach leol.
Byddem yn annog unrhyw un sydd ag amheuon neu bryderon ynghylch ‘smokies’ neu dwyll bwyd i’w trafod â ni yn gyfrinachol arn 0800 028 1180.”