Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Dyn yn pledio’n euog i drin nwyddau wedi’u dwyn yn dilyn ymchwiliad yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd

Penodol i Gymru a Lloegr

Yn dilyn ymchwiliad gan yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU), sy’n rhan o’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), plediodd dyn yn euog i drin nwyddau wedi’u dwyn mewn achos yn gysylltiedig â thwyll dosbarthu swm mawr o ddofednod yn ehangach.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Medi 2025

Plediodd Liam Dooney, 52 oed, o Wigan yn euog yn Llys y Goron Bolton ddydd Iau 28 Awst.
 

Cafodd fechnïaeth gan y llys tan 29 Medi 2025, pan fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Bolton i gael ei ddedfrydu.

Casglodd yr NFCU dystiolaeth o gyfres o droseddau lle roedd twyllwyr yn dynwared busnesau bwyd cyfreithlon yn y DU.

“Mae’r ple euog heddiw yn ganlyniad i waith caled a dycnwch pawb a oedd yn rhan o’r ymchwiliad hwn. Mae’r achos wedi bod yn gymhleth a heriol, yn cynnwys sawl asiantaeth bartner, gan gynnwys Heddlu Manceinion Fwyaf, Cyngor Wigan, a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Nid oes lle yn y diwydiant bwyd i unrhyw fath o weithgarwch troseddol.
 
Byddem yn annog unrhyw un sydd ag amheuon neu bryderon ynghylch twyll bwyd sy’n gysylltiedig â nwyddau bwyd wedi’u dwyn i roi gwybod i ni yn gyfrinachol drwy ffonio 0800 028 1180.” 
Neil Castle, Dirprwy Bennaeth NFCU yr ASB

Os ydych chi’n amau twyll bwyd, rhowch wybod i’r tîm Trechu Troseddau Bwyd yn Gyfrinachol drwy food.gov.uk/cy/rhoi-gwybod neu drwy ffonio 0800 028 1180 (0207 276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau ffôn o’r tu allan i’r DU).