Dyn yn pledio’n euog i droseddau’n ymwneud â diogelwch bwyd a ‘smokies’ yn dilyn ymchwiliad gan yr NFCU
Yn dilyn ymchwiliad gan Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd, mae dyn wedi pledio’n euog i droseddau’n ymwneud â diogelwch bwyd a ‘smokies’.
Yn Llys y Goron yn Isleworth, plediodd Carmello Gale, 71 oed, o Landysul yng Nghymru, yn euog o gynllwynio i roi bwyd anniogel, sef cig ‘smokie’, ar y farchnad. Mae hyn yn drosedd o dan Reoliadau Diogelwch a Hylendid Bwyd (Lloegr) 2013 a Deddf Cyfraith Trosedd 1977.
Cafodd Gale fechnïaeth gan y llys, wrth aros am ddedfryd a fydd yn digwydd maes o law.
Mae ‘smokies’ yn cyfeirio, yn bennaf, at gig defaid â’r croen ynghlwm, a gynhyrchir trwy losgi’r cnu oddi ar y carcas heb groen, gan roi lliw brown euraidd ac arogl mwg iddo. Mae cynhyrchu ‘smokies’ yn anghyfreithlon yn y DU, ac mae hynny’n golygu bod y broses yn cael ei chynnal mewn safleoedd heb eu cymeradwyo sy’n annhebygol o gydymffurfio â’r gofynion a’r safonau hylendid llym ar gyfer paratoi cig neu fwyd.
“Mae Carmello Gale yn cael ei ystyried yn ffigwr pwysig yn y fasnach ‘smokies’ anghyfreithlon, ac fe wnaeth yr ymchwiliad ddatgelu ei ran yn y dosbarthiad eang o ‘smokies’ ledled y DU.
Mae’r ple euog hwn yn adlewyrchu gwaith pawb oedd yn rhan o’r ymchwiliad hwn. Hoffwn i ddiolch i Gyngor Sir Ceredigion, Heddlu Dyfed-Powys, Cyngor Southwark, Cyngor Abertawe, ac Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian yn Ne Cymru, am eu cefnogaeth.
Ni fydd yr NFCU yn stopio ymdrechu i adnabod y rhai sy’n ceisio camfanteisio ar ein system fwyd, ymchwilio iddyn nhw, a’u dwyn gerbron y llys. Os oes gan unrhyw un amheuon neu bryderon ynghylch ‘smokies’ neu dwyll bwyd, gallwch chi gysylltu â’ch Safonau Masnach lleol neu siarad â ni yn gyfrinachol ar 0800 028 1180.”