Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Gwobrwyo’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru am gynhwysiant gyda Gwobr Aur+

Penodol i Gymru

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru wedi ennill y Wobr ‘Cyflogwr Chwarae Teg Aur+’ gyntaf erioed gan brif elusen cydraddoldeb ar sail rhywedd Cymru, Chwarae Teg.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 April 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 April 2023

Mae ennill y Wobr Aur+ newydd, a roddir gan Gyflogwr Chwarae Teg, sef cangen fasnachol yr elusen cydraddoldeb ar sail rhywedd Chwarae Teg, yn gyflawniad eithriadol ac yn cydnabod ymrwymiad parhaus yr ASB i greu gweithle cynhwysol lle gall pob gweithiwr ffynnu. Mae’r rhaglen Cyflogwr Chwarae Teg wedi bod yn rhedeg ers dros bum mlynedd, ac mae wedi cefnogi cannoedd o fusnesau, ond yr ASB yng Nghymru yw’r cyntaf i gyrraedd y safon Aur+ hyd yma. 

Mae’r llwyddiant yn dangos bod yr ASB yng Nghymru wedi ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb ar sail rhywedd ac amrywiaeth yn y gweithle, ochr yn ochr ag ymrwymiad clir i ymgysylltu â staff – sy’n anelu at sicrhau canlyniadau a chyfleoedd cyfartal i bawb. 

Mae’r rhaglen arloesol ‘Cyflogwr Chwarae Teg’ yn meincnodi sefydliadau yn erbyn eraill yn eu diwydiant a’u rhanbarth, ac yn nodi ffactorau llwyddiant sylweddol a meysydd posib i’w gwella. Yna, ceir llwybr o gefnogaeth a gwelliant dan arweiniad sy’n cynnwys cynllun gweithredu pwrpasol a mynediad at amrywiaeth o offer a digwyddiadau.

Yn 2020, yr ASB oedd y cyflogwr cyntaf yng Nghymru i ennill gwobr Cyflogwr Chwarae Teg safon Aur, a gwnaeth yr Asiantaeth yng Nghymru ragori ar ei sgôr yn 2020 i gyrraedd safon Aur+. Roedd y meysydd gwella mwyaf yn cynnwys ‘dysgu a datblygu’ a ‘recriwtio a dethol’. 
 
Meddai Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru:

“Dyma gyflawniad enfawr i’r Asiantaeth yng Nghymru, ac rwy’n falch iawn o weld ein cynnydd. Ni oedd y sefydliad cyntaf i ennill gwobr Cyflogwr Chwarae Teg safon Aur yn 2020. Rydym nawr yn falch iawn o fod y cyntaf i ennill y wobr Aur+. 

“Rwyf wrth fy modd bod gwaith caled y tîm cyfan yng Nghymru wedi’i gydnabod ac yn falch o’r cyfraniad y mae’r tîm wedi’i wneud i ennill y wobr hon. Mae’n hollbwysig i ni fod ein gweithle yn amgylchedd cynhwysol a chefnogol i bawb.”

Meddai Alison Dacey, Ymgynghorydd AD Cyflogwyr, Cyflogwr Chwarae Teg:

“Mae hwn yn gyflawniad mawr gan fod ein proses feincnodi yn hynod llym. Er mwyn ennill Gwobr Aur+, mae angen i’r cleient fod o safon eithriadol o uchel a rhaid i staff y sefydliad hefyd gredu yn y safonau hynny ac ymrwymo’n gryf i’r diwylliant ar draws y sefydliad. 

“Rydym yn falch iawn o’r ASB yng Nghymru a hefyd o Gyflogwr Chwarae Teg a’r cymorth a gynigiwn i sefydliadau i’w helpu i wneud gwelliannau sylweddol sydd o fudd i bawb sy’n gweithio iddynt, ac sy’n rhoi cyfle i fenywod wneud cynnydd a chyflawni eu llawn botensial.

“Mae cyflogwyr blaengar fel yr ASB yng Nghymru yn dymuno sicrhau bod eu sefydliadau’n darparu’r amgylchedd cywir i bawb ffynnu. Gall ein gwasanaeth Cyflogwr Chwarae Teg gefnogi hyn trwy gynnig llwybr clir i sefydliadau a busnesau lwyddo.” 

Pwy yw Chwarae Teg? 

Chwarae Teg yw prif elusen cydraddoldeb ar sail rhywedd Cymru. Mae’n sicrhau bod menywod yng Nghymru yn gallu cael mynediad i’r gweithle, datblygu eu sgiliau ac adeiladu gyrfaoedd gwerth chweil.

Mae gwobr Cyflogwr Chwarae Teg yn cydnabod agwedd sefydliad at amrywiaeth trwy adolygu a gwobrwyo eu harferion. Maent yn meincnodi perfformiad ac yn gweithio gyda sefydliadau i wella eu prosesau, eu pobl a newid eu ffordd o feddwl. Yna dyfernir gwobrau i sefydliadau ar bedair lefel: efydd, arian, aur a phlatinwm.