Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Hysbysiad i fanwerthwyr: Cynwysyddion neu offer cegin plastig sy’n cynnwys bambŵ

Dywedir wrth fusnesau na ddylent fod yn gwerthu cynwysyddion nac offer cegin plastig sy’n cynnwys bambŵ na deunyddiau eraill sy’n dod o blanhigion, wrth i’r Asiantaeth Safonau Bwyd lansio galwad am dystiolaeth ar eu diogelwch

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 June 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 June 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae busnesau wedi cael gwybod na ddylent fod yn gwerthu cynwysyddion nac offer cegin plastig sy’n cynnwys bambŵ na deunyddiau eraill sy’n dod o blanhigion, er enghraifft, plisg reis, gwellt gwenith a chywarch (hemp).

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) hefyd yn annog manwerthwyr a busnesau eraill i ymateb i alwad am dystiolaeth, a lansiwyd heddiw, er mwyn helpu i bennu diogelwch hirdymor deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd sy’n cynnwys bambŵ a deunyddiau tebyg sy’n dod o blanhigion yn y DU. Hyd nes y bydd y cynhyrchion hyn wedi’u hasesu a’u hawdurdodi’n llawn, ni fyddant yn gallu aros ar y farchnad, a dylid tynnu’r cynhyrchion sydd ar y farchnad ar hyn o bryd yn ôl.

Mae asesiad cychwynnol o’r risgiau a gyflwynir gan blastigau a ddaw i gysylltiad â bwyd sy’n cynnwys bambŵ wedi’i gynnal gan y Pwyllgor ar Wenwyndra (COT). Grŵp annibynnol o wyddonwyr yw hwn sy’n rhoi cyngor i’r ASB ac adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth ar faterion sy’n ymwneud â gwenwyndra cemegion.

Penderfynodd y COT, mewn rhai achosion, y gallai presenoldeb bambŵ a deunyddiau tebyg sy’n dod o blanhigion mewn deunyddiau plastig arwain at gydrannau plastig, fel fformaldehyd neu felamin, yn cael eu rhyddhau i fwyd neu ddiod, a hynny uwchlaw’r terfyn cyfreithiol. Er ei bod yn annhebygol iawn y byddai’r defnydd cychwynnol o’r cynhyrchion hyn yn arwain at risg i iechyd ar unwaith, mae effeithiau hirdymor defnyddio eitemau o’r fath yn rheolaidd yn parhau i fod yn anhysbys oherwydd diffyg tystiolaeth.

O ganlyniad i’r asesiad cychwynnol hwn, y cyngor rhagofalus i ddefnyddwyr yw na ddylent ddefnyddio cynhyrchion o’r fath hyd nes y gellir cynnal astudiaeth lawn o’r risgiau posib. Disgwylir i’r astudiaeth gael ei chwblhau ar ôl i’r alwad am dystiolaeth ddod i ben, a bydd yn dibynnu ar fusnesau’n darparu’r dystiolaeth angenrheidiol i’r ASB ar ddiogelwch y cynhyrchion hyn.

Dylid cymryd gofal ychwanegol i osgoi defnyddio’r offer neu’r cynwysyddion i fwyta ac yfed bwydydd a diodydd poeth ac asidig, a pheidio â’u rhoi yn y microdon, gan y gallai hyn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd lefelau uwch o gemegion niweidiol yn cael eu rhyddhau.

Mae cynhyrchion a nodir yn aml fel rhai a wneir gan ddefnyddio plastig sy’n cynnwys bambŵ a deunyddiau tebyg yn cynnwys cwpanau yfed y gellir eu hailddefnyddio, llestri bwrdd, cyllyll a ffyrc, bocsys bwyd, a byrddau torri. Mae cynhyrchion ychwanegol yn cynnwys platiau, powlenni, a chwpanau gan gynnwys rhai sy’n cael eu marchnata’n benodol fel setiau llestri i fabanod a phlant. 

Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Bwyd yr ASB, Natasha Smith: 
“Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn gwybod a oes unrhyw bryderon diogelwch o ran defnyddio’r eitemau hyn yn rheolaidd, ond rydym yn gwybod y gallai eu defnyddio gyda bwydydd poeth ac asidig – neu eu rhoi mewn microdon – achosi i lefelau uwch o gemegion gael eu rhyddhau.

“Rydym am i fusnesau roi cymaint o wybodaeth ag y gallant am y cynhyrchion hyn, gan gynnwys manylion ynghylch pa brofion sydd wedi’u cynnal a sut yn union y maent yn cael eu gwneud. 

“Bydd yr alwad am dystiolaeth yn galluogi’r ASB i wella ein dealltwriaeth o’r cynhyrchion hyn, yn enwedig o ran sut bydd amrywio’r gymhareb o blastig i ddeunyddiau sy’n dod o blanhigion yn effeithio ar sefydlogrwydd hirdymor a’r risg yn gyffredinol.”

Nid yw cyngor yr ASB yn berthnasol i eitemau a wneir o fambŵ neu ddeunyddiau sy’n dod o blanhigion yn unig. Yn hytrach, mae’n ymwneud â’r cynhyrchion hynny sy’n defnyddio cyfuniad o blastig a llenwad planhigion. Gofynnir i fanwerthwyr sicrhau nad yw unrhyw gynhyrchion bambŵ neu gynhyrchion tebyg sy’n dod o blanhigion sy’n parhau i fod ar werth yn cynnwys unrhyw gydrannau plastig, a gofynnir iddynt sicrhau eu bod yn bodloni’r rheoliadau cenedlaethol perthnasol.

Efallai y bydd yn anodd gwybod a yw cynnyrch wedi’i wneud o ddeunyddiau cyfansawdd bambŵ ar ôl iddo gael ei dynnu o’i ddeunydd pecynnu, ond bydd gan y fath gynhyrchion arwyneb llyfn a byddant yn teimlo fel plastig. 

Efallai y bydd gan rai cynhyrchion logo adnabyddadwy a fydd yn helpu defnyddwyr i gadarnhau a yw’n un o’r eitemau dan sylw.

Os nad ydych yn sicr, cyngor yr ASB yw peidio â defnyddio’r cynhyrchion nes bod yr asesiad risg llawn wedi’i gwblhau.

Daw galwad am dystiolaeth yr ASB i ben ar 12 Rhagfyr 2023. I gael mwy o fanylion ac i ymateb i’r alwad am dystiolaeth, gweler tudalen we yr ASB.