Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Lansio ymgynghoriad ar gynigion am fframwaith newydd yn Lloegr ar gyfer rheoleiddio organebau wedi’u bridio’n fanwl a ddefnyddir mewn bwyd a bwyd anifeiliaid

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio safbwyntiau ar gynigion ar gyfer fframwaith newydd a fydd yn rheoleiddio’r defnydd o organebau wedi’u bridio’n fanwl (PBOs) a ddefnyddir mewn bwyd a bwyd anifeiliaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 November 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 November 2023

I gael mwy o wybodaeth am fridio manwl a rôl yr ASB, gwyliwch ein fideo Yr ASB yn esbonio: Bridio Manwl. (Sylwer bod y fideo ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd).

Daeth Deddf Technoleg Enetig (Bridio Manwl) 2023 yn gyfraith yn Lloegr ym mis Mawrth. Mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer creu fframwaith rheoleiddio newydd yn Lloegr ar gyfer awdurdodi organebau wedi’u bridio’n fanwl cyn eu rhoi ar y farchnad i’w defnyddio mewn bwyd a bwyd anifeiliaid, a’r gwaith gorfodi yn ei gylch. Mae’r ASB wedi nodi cynigion ar gyfer y fframwaith newydd hwn mewn ymgynghoriad cyhoeddus a lansiwyd heddiw, ac mae’n ceisio safbwyntiau pob parti sydd â buddiant. 

Mae bridio manwl yn parhau i ddenu cryn ddiddordeb. Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle pwysig i bawb, gan gynnwys defnyddwyr, grwpiau cymdeithas sifil a’r diwydiant, ymgysylltu â ni wrth i ni ddatblygu cynigion ar gyfer y fframwaith rheoleiddio newydd.  
  
Mae Bwrdd yr ASB yn cydnabod manteision posib organebau wedi’u bridio’n fanwl i’r system fwyd. Rydym am gyflwyno system sy’n darparu mesurau diogelu a hyder bod organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl i’w defnyddio mewn bwyd a bwyd anifeiliaid yn ddiogel cyn iddynt gael eu hawdurdodi i’w rhoi ar y farchnad.

Yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB

Mae’r Ddeddf yn gymwys i Loegr yn unig, fel y bydd hefyd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir oddi tani. O ganlyniad i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a Fframwaith Windsor, bydd goblygiadau i wledydd eraill y DU fel y nodir yn yr ymgynghoriad. Felly, rydym yn croesawu adborth gan bartïon â buddiant o bob rhan o’r DU ar yr agwedd hon.

Mae’r ymgynghoriad ar gael ar wefan yr ASB, ac mae angen ymatebion erbyn 8 Ionawr 2024.