Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Mae ymddiriedaeth yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn parhau i fod yn uchel, yn ôl arolwg defnyddwyr

Mae cylch diweddaraf arolwg Bwyd a Chi 2 yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn dangos bod ymddiriedaeth y cyhoedd mewn diogelwch bwyd, dilysrwydd bwyd, a’r gadwyn cyflenwi bwyd yn parhau i fod yn uchel, hyd yn oed yng nghanol y pandemig COVID-19.

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 January 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 January 2022

Yn nhrydydd cylch yr arolwg, a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd 90% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i'w fwyta. Dywedodd bron i dri chwarter o’r ymatebwyr (73%) fod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd, gyda’r rhan fwyaf o ymatebwyr (87%) yn dweud bod ganddyn nhw hyder mewn ffermwyr.

Mae’r arolwg blaenllaw hwn yn mesur yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill ymhlith oedolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain. Cynhaliwyd yr arolwg rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2021.

Meddai Emily Miles, Prif Weithredwr yr ASB:

‘Mae’n ddiddorol gweld bod ymddiriedaeth y cyhoedd mewn diogelwch bwyd, dilysrwydd bwyd a’r gadwyn cyflenwi bwyd yn parhau i fod yn uchel, er gwaethaf cwpwl o flynyddoedd heriol i’r diwydiant bwyd. Mae pob rhan o’r system fwyd wedi gorfod addasu o ganlyniad i effaith COVID-19 a phrinder yn y gadwyn cyflenwi bwyd, felly mae’n nodedig bod y cyhoedd yn hyderus o hyd fod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

‘Ein blaenoriaeth fydd parhau i gadw bwyd yn ddiogel a chynnal ymddiriedaeth yn ein system fwyd. Wrth i ni symud yn ein blaenau yn y flwyddyn newydd hon, bydd yr ASB yn parhau i gefnogi’r adfer wedi COVID, wrth hefyd ystyried sut gallwn ni gyfrannu ein mewnwelediadau a’n sgiliau i agenda’r llywodraeth ar gyfer system fwyd iachach a mwy cynaliadwy.’

Prif Ganfyddiadau Cylch 3

Hyder mewn diogelwch bwyd, dilysrwydd bwyd, a’r gadwyn cyflenwi bwyd  

  • Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (90%) eu bod yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i'w fwyta, a dywedodd mwy nag 8 ym mhob 10 o'r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir
  • Dywedodd bron i dri chwarter o’r ymatebwyr (73%) fod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd
  • Roedd yr ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder mewn ffermwyr (87%), a siopau ac archfarchnadoedd (83%) nag mewn siopau tecawê (56%), a gwasanaethau dosbarthu bwyd (41%)

Pryderon am fwyd

  • Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (80%) nad oedd ganddyn nhw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta
  • Roedd y pryderon mwyaf cyffredin yn ymwneud â faint o siwgr sydd mewn bwyd (63%), a gwastraff bwyd (61%)

Mynediad at gyflenwad bwyd sicr

  • Roedd lefelau’r mynediad at gyflenwad bwyd sicr yn debyg ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon Roedd gan dros dri chwarter yr ymatebwyr gyflenwad bwyd sicr (hynny yw roedd ganddyn nhw gyflenwad bwyd sicr neu ymylol) yng Nghymru (82%), Lloegr (85%) a Gogledd Iwerddon (84%) Roedd gan oddeutu 1 o bob 6 ymatebydd gyflenwad bwyd ansicr (hynny yw roedd ganddyn nhw gyflenwad bwyd ansicr neu ansicr iawn) yng Nghymru (18%), Lloegr (15%) a Gogledd Iwerddon (16%)

Siopa am fwyd a labelu bwyd

  • Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod nhw’n gwirio’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (84%) neu’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ (82%) yn aml wrth brynu bwyd
  • Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (83%) sy’n siopa am fwyd gan ystyried rhywun ag alergedd neu anoddefiad bwyd yn hyderus bod yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd yn eu galluogi i nodi bwydydd a fydd yn achosi adwaith corfforol gwael neu annymunol

Llwyfannau ar-lein

  • Roedd tua hanner (52%) yr ymatebwyr wedi archebu bwyd neu ddiod trwy gwmni archebu a dosbarthu ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats) ac roedd 30% wedi archebu trwy farchnad ar-lein (er enghraifft Amazon, Gumtree, Etsy). 
  • Roedd llai o ymatebwyr wedi archebu bwyd neu ddiod trwy'r cyfryngau cymdeithasol (er enghraifft, Facebook, Instagram, Nextdoor) (14%) neu ap rhannu bwyd (er enghraifft Olio, Too Good To Go) (8%)

Ymddygiadau sy'n gysylltiedig â bwyd ac arferion bwyta

  • Roedd arferion bwyta’r rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi newid yn ystod y 12 mis diwethaf
  • Roedd y newidiadau mwyaf cyffredin yn ymwneud â’r hyn roedd ymatebwyr yn ei fwyta, ac ymhle (57% yn bwyta allan yn llai aml, 55% yn bwyta gartref yn amlach, 50% yn coginio gartref yn amlach, a 39% yn bwyta llai o fwyd tecawê)

Ynglŷn â’r adolygiad

Cynhaliwyd gwaith maes Bwyd a Chi 2: Cylch 3 rhwng 28 Ebrill 2021 a 25 Mehefin 2021. Cwblhawyd yr arolwg gan 6,271 o oedolion o 4,338 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Darllen y gwaith ymchwil

Mae adroddiad llawn Cylch 3 ar gael yn adran ymchwil ein gwefan.

The full Wave 3 report is available in the research section of our website.