Pedwar dyn wedi cael dedfrydau o garchar am ddargyfeirio cig nad oedd yn addas i’w fwyta gan bobl yn ôl i’r gadwyn fwyd
Cafodd y diffynyddion eu dyfarnu’n euog yn gynharach eleni yn dilyn ymchwiliad gan Gyngor Southwark ac Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Roedd barnwr yn Llys y Goron Llundain Fewnol heddiw yn rhoi dedfrydau o garchar.
Cafodd Anthony Fear, unig gyfarwyddwr busnes o’r enw Fears Animal Products Ltd, ei ddedfrydu i 42 mis yn y carchar am gynllwynio i dwyllo drwy roi bwyd nad oedd yn addas i’w fwyta gan bobl ar y farchnad. Cafodd ei wahardd hefyd rhag gweithredu fel cyfarwyddwr cwmni am chwe blynedd.
Dedfrydwyd Mark Hooper, rheolwr yn Fears Animal Products Ltd, i 24 mis yn y carchar, wedi’i ohirio am ddwy flynedd, am gynllwynio i dwyllo drwy roi bwyd nad oedd yn addas i’w fwyta gan bobl ar y farchnad. Gorchmynnwyd iddo hefyd gwblhau 200 awr o waith di-dâl.
Cafodd Azar Irshad ei ddedfrydu i 35 mis yn y carchar am gynllwynio i dwyllo, methu â chydymffurfio â Rheoliad 19 o Reoliadau Diogelwch a Hylendid Bwyd yn ymwneud â safleoedd heb eu cymeradwyo, rhoi bwyd nad yw’n addas i’w fwyta gan bobl ar y farchnad (smokies), rhoi bwyd nad yw’n addas i'w fwyta gan bobl ar y farchnad (byrgyrs cig eidion sydd wedi mynd heibio’r dyddiad) a rhoi bwyd nad yw’n addas i’w fwyta gan bobl ar y farchnad (sgil-gynhyrchion anifeiliaid Categori 3 a ddargyfeiriwyd yn anghyfreithlon). Rhoddwyd gorchymyn ymddygiad troseddol i Irshad am gyfnod amhenodol hefyd, gan ei wahardd rhag cymryd unrhyw ran yn y diwydiant bwyd.
Cafodd Ali Afzal ei ddedfrydu i chwe mis yn y carchar, wedi’i ohirio am 21 mis, 150 awr o waith di-dâl, a’i orchymyn i dalu £5000, am fethu â chydymffurfio â Rheoliad 19 o Reoliadau Diogelwch a Hylendid Bwyd mewn perthynas â safleoedd heb eu cymeradwyo.
Bydd Fears Animal Products Ltd yn cael ei ddedfrydu yn 2026 yn dilyn diwedd yr achos atafaelu. Bydd costau Fear, Hooper, ac Irshad hefyd yn cael eu pennu ar ôl i’r achos atafaelu ddod i ben.
Plediodd Mark Hooper yn euog hefyd i gynllwynio yn ymwneud â mater ar wahân yn Aylesbury, a chafodd ei ddedfrydu am 24 mis ar yr un pryd.
Mae’r ddedfryd yn dilyn achos llys ar ymchwiliad cymhleth a ddechreuodd pan ddaeth swyddogion Southwark o hyd i 1.9 tunnell o sgil-gynhyrchion anifeiliaid Categori 3, gan gynnwys ieir cyfan a darnau ohonynt, ceilliau oen a byrgyrs cig eidion, yn cael eu prosesu i’w gwerthu i’r gadwyn fwyd mewn ffatri torri cig anghyfreithlon yn Llundain.
Nid oedd y ffatri dorri anghyfreithlon wedi’i chofrestru fel busnes bwyd. Nid oedd ganddi ddŵr poeth, ac roedd y cig yn cael ei baratoi mewn amodau anhylan.
Gwnaeth ymholiadau’r NFCU olrhain y sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn ôl i weithredwyr busnesau bwyd cyfreithlon a gadarnhaodd fod y cynhyrchion cig hyn wedi’u hanfon at Fears Animal Byproducts yng Ngwlad yr Haf i’w gweithgynhyrchu i greu bwydydd anifeiliaid anwes neu i’w gwaredu’n ddiogel.
Unwaith y bydd cig wedi’i ddosbarthu fel sgil-gynnyrch anifeiliaid, caiff ei eithrio’n barhaol o’r gadwyn fwyd am resymau diogelwch. Ar ôl dadansoddi llawer iawn o ddata cyfathrebu a thystiolaeth arall yn dangos perthynas droseddol rhwng y pedwar dyn, daeth darlun o gynllwynio troseddol i’r amlwg yn y dystiolaeth.
Plediodd Mark Hooper, Azar Irshad ac Ali Afzal yn euog mewn gwrandawiadau a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2025. Plediodd Anthony Fear yn ddi-euog ac fe aeth ar dreial. Daeth hyn i ben ar 27 Mawrth 2025 gyda dyfarniadau euog iddo fe a’i fusnes, Fear Animal Products Ltd.
Mae’r dedfrydau a roddwyd heddiw yn dangos nad oes lle i weithgarwch troseddol o’r fath yn ein system fwyd. Mae’r achos yn dangos y risg ddifrifol a berir i ddiogelwch defnyddwyr pan fydd unigolion yn anwybyddu rheoliadau diogelwch bwyd yn fwriadol drwy roi cig sy’n anaddas i’w fwyta gan bobl yn ôl i’r gadwyn fwyd.
Mae’r erlyniad llwyddiannus hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol cydweithio rhwng yr NFCU ac awdurdodau lleol fel cynghorau Southwark, Gwlad yr Haf a Dyfnaint er mwyn diogelu defnyddwyr rhag troseddau bwyd. Rydym yn ddiolchgar am waith caled pawb wrth sicrhau’r canlyniad hwn.
Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i’n gwaith o nodi, ymchwilio ac erlyn y rhai sy’n ceisio manteisio ar ein system fwyd er budd ariannol ar draul diogelwch y cyhoedd.
Mae’r ddedfryd hon yn nodi diwedd ymchwiliad hir i ddwyn troseddwyr bwyd i gyfrif. Roedd yr unigolion hyn yn gweithredu heb unrhyw ofal am iechyd y cyhoedd, wedi’u cymell gan drachwant.
Mae gan ddefnyddwyr yr hawl i ymddiried bod eu bwyd yn ddiogel. Rydym yn ddiolchgar i’n swyddogion ac i’r NFCU am eu hymdrechion diflino i ddatgelu’r fenter droseddol hon.
Mae'r dedfrydau a roddwyd heddiw yn anfon neges glir – ni fyddwn yn caniatáu troseddau bwyd.