Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Penodi Cadeirydd yr Asiantaeth

Mae'r Athro Susan Jebb wedi'i chadarnhau fel Cadeirydd newydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), a hynny o 1 Gorffennaf am dair blynedd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 June 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 June 2021
Professor Susan Jebb

 

Fe wnaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gymeradwyo penodiad yr Athro Susan Jebb fel Cadeirydd yr ASB yn dilyn gwrandawiad craffu cyn penodi cyhoeddus yn unol â gweithdrefnau seneddol.

Meddai Susan Jebb: “Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi fel Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae hwn yn gyfnod pwysig i'n system fwyd, ac rwy'n edrych ymlaen at adeiladu ar yr ymddiriedaeth y mae'r llywodraeth wedi'i rhoi yn yr ASB i chwarae rhan lawn a gweithredol yn yr heriau sydd o'n blaenau.  Yn bwysicaf oll, rwyf am sicrhau bod yr adran yn parhau i fod yn hynod effeithiol wrth ddiogelu iechyd y cyhoedd a chyflawni ei chenhadaeth o ‘fwyd y gallwn ymddiried ynddo’.

“Fy nod yw hyrwyddo gwyddoniaeth a gwneud penderfyniadau tryloyw, yn seiliedig ar dystiolaeth, wrth sicrhau bod persbectif y defnyddiwr yn ganolog i bopeth a wnawn. Rwyf am gryfhau ein perthnasoedd ar draws y llywodraeth a chyda'r gwledydd datganoledig, fel y gallwn, gyda'n gilydd, gynnal yr hyder yn ein safonau bwyd ymhlith defnyddwyr a'n partneriaid masnachu.”

Rhagor am yr Athro Susan Jebb

Mae'r Athro Susan Jebb yn un o brif wyddonwyr y wlad, yn Gymrawd Academi y Gwyddorau Meddygol ac yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol y Meddygon.  Mae ei hymchwil ddiweddar wedi canolbwyntio ar drin gordewdra ac ymyriadau i annog deiet iach a chynaliadwy.

Mae gan Susan ddiddordeb hirsefydlog mewn trosi tystiolaeth wyddonol yn bolisi a hi oedd y Cynghorydd Gwyddoniaeth i adroddiad Foresight Swyddfa Gwyddoniaeth y Llywodraeth ar ordewdra yn 2007, ac mae'n gynghorydd i'r Strategaeth Fwyd Genedlaethol ar hyn o bryd. Yn y gorffennol mae wedi cadeirio grŵp cynghori arbenigol traws-lywodraethol ar ordewdra (2007–2011), rhwydwaith bwyd bargen cyfrifoldeb yr Adran Iechyd (2011–2015) a phwyllgorau cynghori iechyd y cyhoedd ar gyfer y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (2013-2018).  Dyfarnwyd OBE iddi yn 2008 am ei gwasanaethau i iechyd y cyhoedd.

Bydd Susan yn parhau gyda phenodiad rhan-amser ym Mhrifysgol Rhydychen ochr yn ochr â'r rôl fel Cadeirydd yr ASB.