Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Penodi Dr Ruth Hussey yn Ddirprwy Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd wedi cyhoeddi penodiad Dr Ruth Hussey CB, OBE, DL yn Ddirprwy Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Mae ei phenodiad yn dechrau ar 1 Gorffennaf am dair blynedd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 June 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 June 2023

Meddai Heather Hancock, Cadeirydd yr ASB:  

“Rwy’n falch iawn y bydd Ruth, sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol fel aelod o’n Bwrdd dros Gymru, bellach yn Ddirprwy Gadeirydd yr ASB.  Mae gwybodaeth eang Ruth am yr ASB, gan gynnwys am ein gwaith cynllunio helaeth ar gyfer cyfrifoldebau llawer mwy arwyddocaol nawr bod y Deyrnas Unedig wedi ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a'i chefndir fel Prif Swyddog Meddygol uchel ei pharch yng Nghymru – i gyd yn golygu ein bod ni’n croesawu ei phenodiad.  Gan fod yr ASB yn wynebu un o'r cyfnodau mwyaf heriol a chyffrous yn ei hanes, ac yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed, rwy’n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Ruth yn ei rôl newydd."   

Meddai Dr Hussey:

“Rwy’n falch iawn o barhau i gefnogi’r ASB mewn rôl newydd. Mae'r ASB yn rheoleiddiwr blaengar ac effeithiol sy'n gweithio mewn ffordd dryloyw sy'n seiliedig ar dystiolaeth.  Wrth i’r system fwyd barhau i esblygu, byddaf yn ymdrechu i sicrhau bod diogelwch bwyd ac iechyd y cyhoedd yn parhau i gael eu diogelu yn hyderus.”

Mae Dr Ruth Hussey wedi bod yn Aelod Bwrdd yr ASB dros Gymru a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru  ers 2016. Yn ogystal â’i gwaith i’r ASB, mae Ruth yn aelod o’r Bwrdd Anghydraddoldebau Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Lloegr, yn Llywodraethwr y Sefydliad Iechyd ac yn aelod o Fwrdd Cynghori ar gyfer yr NIHR, Ysgol Ymchwil Iechyd y Cyhoedd. Mae hi'n Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Lerpwl ac yn Ddirprwy Raglaw Glannau Mersi.