Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Penodiadau newydd i Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi dau benodiad newydd i’w Bwrdd. Bydd Hayley Campbell-Gibbons a Dr Justin Varney yn gwasanaethu am dair blynedd, gan ddechrau ar 1 Medi 2022.

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 July 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 July 2022

Mae Hayley Campbell-Gibbons yn ymuno â’r Bwrdd a bydd yn rhannu ei phrofiad o fod wedi treulio 12 mlynedd fel Prif Gynghorydd Garddwriaeth Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) a chael ei phenodi’n aelod ieuengaf erioed y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) rhwng 2018 a 2021.

Mae Dr Justin Varney yn Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yng Nghyngor Dinas Birmingham, a hynny ers 2019. Cyn hynny, bu’n gweithio fel Cynghorydd Strategol Cenedlaethol yn Iechyd Cyhoeddus Lloegr, sef Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig (DU) yn flaenorol.

Meddai’r Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB:

“Rwy’n falch iawn o groesawu Hayley a Justin i Fwrdd yr ASB, ac rwy’n hyderus y byddwn i gyd yn elwa ar eu  profiad a’u harbenigedd. Rydym yn cynyddu nifer aelodau’r  Bwrdd i gydnabod cyfrifoldebau newydd yr ASB yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Bydd penodi’r ddau aelod newydd hyn yn ein galluogi i barhau i fod yn hynod effeithiol wrth ddiogelu iechyd y cyhoedd a chyflawni ein cenhadaeth, sef ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. ”

Bydd y penodiadau hyn yn golygu ymrwymiad amser o 20 diwrnod y flwyddyn, a bydd tâl am y rolau ar gyfradd o £8,000 y flwyddyn. Mae pob penodiad wedi’i wneud ar sail teilyngdod yn unol â Chod Llywodraethu Penodiadau Cyhoeddus Swyddfa’r Cabinet.

Nodiadau Ychwanegol:

Y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus sy’n rheoleiddio penodiadau cyhoeddus yn erbyn gofynion y Cod Llywodraethu. Gwneir y penodiadau ar sail teilyngdod ac nid oedd gan weithgarwch gwleidyddol unrhyw ran yn y broses benderfynu. Fodd bynnag, yn unol â’r Cod, mae’n ofynnol i weithgarwch y sawl a benodir (os caiff gweithgarwch o’r fath ei ddatgan) gael ei gyhoeddi. Nid yw Hayley Campbell-Gibbons na Justin Varney wedi datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol.

Bydd y cyhoeddiad yn cael ei roi ar GOV.UK: Appointments made April 2022 to March 2023.