Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn croesawu 24 aelod newydd

Mae Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb, wedi cyhoeddi bod yr ASB wedi penodi 24 o arbenigwyr annibynnol i’w Phwyllgorau Cynghori Gwyddonol. Mae’r penodiadau ar gyfer 12 aelod llawn, 10 aelod Cyswllt a 2 Gadeirydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 June 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 June 2023

Mae’r Cyngor Gwyddoniaeth a’r Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol, gyda chefnogaeth Cyd-grwpiau Arbenigol, yn darparu cyngor arbenigol annibynnol ac yn herio strategaeth wyddoniaeth ac asesiad risg yr ASB, ac yn sicrhau bod penderfyniadau polisi yn seiliedig ar yr wyddoniaeth a’r dystiolaeth ddiweddaraf. Maent yn ymdrin â materion fel bwydydd newydd, gwenwyndra, bwyd anifeiliaid, pathogenau, plaladdwyr a gwyddor gymdeithasol.

Eleni, cyflwynodd yr ASB aelodaeth Gyswllt i’r Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol gyda deg penodiad newydd yn y categori hwn. Diben Aelod Cyswllt yw rhoi cyfle i ymchwilwyr ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfa i fod yn rhan o waith yr ASB. Neilltuir aelod, neu Gadeirydd, o’r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol i’r aelod Cyswllt newydd fel mentor ar holl waith y pwyllgor. 

Meddai’r Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB: “Mae gwaith yr ASB wedi’i seilio ar wyddoniaeth a thystiolaeth ac mae’r pwyllgorau’n chwarae rhan hanfodol wrth gynnal hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd o ran y bwyd rydym yn ei fwyta. Bydd ein haelodaeth Gyswllt newydd yn dod ag arbenigedd newydd i’r ASB ac rwy’n falch y byddwn yn gallu cyfrannu at ddatblygu carfan o ymchwilwyr gan wella eu dealltwriaeth yn y maes polisi bwyd. Bydd creu cysylltiadau cryf rhwng y byd academaidd a pholisi cyhoeddus yn helpu i feithrin gallu’r DU ar gyfer ymchwil sy’n cael effaith.”

Meddai’r Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB: “Mae arbenigedd, dadansoddiad a safbwyntiau ein haelodau Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol, sy’n deillio o’u profiad, yn hanfodol i sicrhau bod ein system fwyd gymhleth yn ddiogel. Mae ein Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol yn elfen bwysig iawn o’n gwaith yn yr ASB. Maent yn darparu cyngor arbenigol ar ddiogelwch a safonau bwyd, yn ogystal â sganio’r gorwel ar gyfer risgiau sy’n dod i'r amlwg yn y dyfodol. Rydym yn falch iawn o groesawu ein haelodau newydd ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda phob un ohonynt.”

Dyma’r penodiadau newydd: 

Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd  

  • Dr Roberto Vivancos – Epidemiolegydd Ymgynghorol – UKHSA
  • Yr Athro Andrew Page – Pennaeth Gwybodeg – Sefydliad Biowyddorau Quadram  
  • Dr Inaki Deza-Cruz – Darlithydd mewn Iechyd Cyhoeddus Milfeddygol – Prifysgol Surrey 
  • Ms Adri Bester – Uwch Dechnolegydd Bwyd – Prifysgol South Bank Llundain 

Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd

  • Yr Athro George Bassel – Cymrawd Sefydliad Alan Turing – Prifysgol Warwick  
  • Dr Cathrina Edwards – Arweinydd Grŵp Career-track – Sefydliad Biowyddorau Quadram 
  • Aelod Cyswllt – Dr Kimon Andres Karatzas – Athro Cyswllt mewn Microbioleg Bwyd – Prifysgol Reading 
  • Aelod Cyswllt – Dr Antonio Pena-Fernandez – Athro Cyswllt mewn Tocsicoleg a Gwyddorau Meddygol – Prifysgol De Montfort 
  • Aelod Cyswllt – Dr Christine Bosch – Athro Cyswllt mewn Maeth – Prifysgol Leeds 

Pwyllgor ar Wenwyndra 

  • Dr Steven Enoch – Pennaeth Pwnc Dros Dro: Gwyddorau Cemegol a Fferyllol – Prifysgol John Moores Lerpwl  
  • Yr Athro Peter Barlow – Cadeirydd Imiwnoleg a Heintiau. Pennaeth y Ganolfan Biofeddygaeth ac Iechyd Byd-eang – Prifysgol Napier Caeredin 
  • Aelod Cyswllt – Ms Eimear O’Rourke – Prifysgol Queens Belfast 
  • Aelod Cyswllt – Dr Ben Amies-Cull – Modelwr Iechyd Ôl-ddoethurol, Grŵp Bwyd Iach Cynaliadwy – Prifysgol Rhydychen 
  • Aelod Cyswllt – Dr Charlotte Mills – Darlithydd Hugh Sinclair mewn Gwyddorau Maeth – Prifysgol Reading 
  • Aelod Cyswllt – Dr Tarek Abdelghany – Prifysgol Aberdeen 
  • Aelod Cyswllt – Yr Athro Jeanette Rotchell – Deon Cyswllt ar gyfer Ymchwil a Menter – Prifysgol Hull 
  • Aelod Cyswllt – Dr Samantha Donnellan – Darlithydd Gwyddor Fiofeddygol – Prifysgol Napier Caeredin 

Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd Anifeiliaid

  • Cadeirydd – Yr Athro Nicholas Jonsson – Athro Iechyd a Chynhyrchu Anifeiliaid – Prifysgol Glasgow  
  • Dr Olivia Champion – Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol – Entec Nutrition 
  • Yr Athro Emily Burton – Athro Cynhyrchu Bwyd Cynaliadwy – Prifysgol Nottingham Trent 
  • Ms Hannah Kane – Dirprwy Ansawdd ac Iechyd a Diogelwch – Cefetra Ltd 
  • Aelod Cyswllt – Dr Oonagh Markey – Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddorau Maeth – Prifysgol Loughborough 
  •  

Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar Ychwanegion, Ensymau a Chynhyrchion Rheoleiddiedig Eraill

  • Cadeirydd – Dr Allain Bueno – Prif Ddarlithydd mewn Ffisioleg Ddynol – Prifysgol Caerwrangon 
    Dr Claire Stephenson – Global Regulatory Residues Expert – Adama Agricultural Solutions UK Ltd

Cynhaliwyd yr ymarfer recriwtio trwy gystadleuaeth agored. Mae aelodau newydd wedi'u penodi am dymor cychwynnol o dair blynedd, ac Aelodau Cyswllt wedi'u penodi am dymor cychwynnol o flwyddyn, gyda'r posibilrwydd gael eu hailbenodi wedi hynny.