Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn croesawu 26 o aelodau newydd

Mae Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb, wedi cyhoeddi bod yr ASB wedi penodi 26 o arbenigwyr annibynnol newydd i’w Phwyllgorau Cynghori Gwyddonol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mehefin 2025

Mae’r Cyngor Gwyddoniaeth a’r Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol, gyda chefnogaeth Grwpiau Arbenigol ar y Cyd, yn darparu cyngor arbenigol annibynnol ac yn herio strategaeth wyddoniaeth ac asesiadau risg yr ASB, ac yn sicrhau bod penderfyniadau polisi yn seiliedig ar yr wyddoniaeth a’r dystiolaeth ddiweddaraf. Maent yn ymdrin â materion fel bwydydd newydd, gwenwyndra, bwyd anifeiliaid, pathogenau, plaladdwyr a gwyddor gymdeithasol.

“Rwy’n falch o groesawu ein haelodau newydd i Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol yr ASB.” Mae gwaith yr ASB yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth, a bydd yr arbenigedd eang y mae’r aelodau hyn yn ei gynnig yn cryfhau’r sylfaen honno ymhellach. Mae’r pwyllgorau hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal ymddiriedaeth y cyhoedd yn y bwyd rydyn ni’n ei fwyta, ac rydyn ni’n ddiolchgar am y sgiliau gwerthfawr maen nhw’n eu cyfrannu i’n cefnogi ni i gynnal safonau bwyd uchel.” 
Yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB
“Mae gwyddoniaeth wrth wraidd popeth a wnawn yn yr ASB, ac mae ein Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol yn hanfodol wrth sicrhau diogelwch ein system fwyd gymhleth. Mae eu rôl yn amhrisiadwy i’r ASB – gan ddarparu dadansoddiad gwyddonol trylwyr, cyngor arbenigol ar ddiogelwch a safonau bwyd, a rhagwelediad strategol wrth fynd i’r afael â heriau sy’n dod i’r amlwg. Mae’n bleser gennyf groesawu’r aelodau newydd i’n holl bwyllgorau heddiw, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio’n agos â nhw dros y misoedd nesaf.” 
Yr Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB

Dyma’r penodiadau newydd:

Cyngor Gwyddoniaeth

  • Yr Athro Steven Cummins – Pennaeth yr Adran Iechyd Cyhoeddus, Amgylcheddau a’r Gymdeithas, Cyd-Gyfarwyddwr y Labordy Arloesi Iechyd Poblogaethau, a Phrif Ymchwilydd Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain ac aelod o Ysgol Ymchwil Iechyd y Cyhoedd yn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal – Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain  

Pwyllgor Cynghori ar Wyddor Gymdeithasol   

  • Yr Athro Eleonora Fichera – Darllenydd mewn Economeg – Prifysgol Caerfaddon  
  • Dr Rounaq Nayak – Uwch-ddarlithydd mewn Systemau Ffermio – Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste   
  • Yr Athro Luca Panzone – Darllenydd mewn Economeg Amgylcheddol – Prifysgol Newcastle  
  • Dr Raymond Obayi – Darlithydd mewn Rheoli Prosiectau, Gweithrediadau a Chadwyni Cyflenwi – Prifysgol Manceinion 

Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd  

  • Cadeirydd – Mr Alec Kyriakides – Ymgynghorydd Diogelwch Bwyd Annibynnol
  • Dr Fahad Ahmed – Darlithydd mewn Iechyd Cyhoeddus Milfeddygol a Rheoleiddio Bwyd – Prifysgol Ulster  
  • Yr Athro Muna F. Anjum – Arweinydd y Grŵp Gwaith Nodweddu Bacteriol ac Arweinydd Ymchwil Ymwrthedd Gwrthficrobaidd – Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion  
  • Yr Athro Alasdair Cook – Epidemiolegydd Milfeddygol 

Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd

  • Yr Athro Paul Haggarty – Dirprwy Gyfarwyddwr, Sefydliad Maeth ac Iechyd Rowett – Prifysgol Aberdeen   
  • Yr Athro Alastair Macrae – Uwch-ddarlithydd mewn Iechyd a Chynhyrchu Anifeiliaid Fferm, a Phennaeth y Gwasanaeth Iechyd a Chynhyrchiant Buches Llaeth yn Ysgol Astudiaethau Milfeddygol Frenhinol (Dick) – Prifysgol Caeredin
  • Yr Athro Gunter Kuhnle – Athro Maeth yn Sefydliad Maeth ac Iechyd Rowett – Prifysgol Aberdeen

Y Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Cynnyrch Defnyddwyr a'r Amgylchedd

  • Cadeirydd – Y Parchedig Athro Lesley Stanley – Athro Gwadd mewn Tocsicoleg – Prifysgol Napier, Caeredin 
  • Dr Tarek Abdelghany – Darlithydd Ffarmacoleg a Ffisioleg – Prifysgol Aberdeen a Darlithydd Gwadd – Prifysgol Newcastle a Phrifysgol Cairo  
  • Dr Michelle Bingham – Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Bioamrywiaeth, Iechyd Cyfunol a Meddygaeth Filfeddygol – Prifysgol Glasgow  
  • Yr Athro Qasim Chaudhry – Athro Gwadd – Prifysgol Caer  
  • Dr Bryony Ross – Prif Docsicolegydd ac Arweinydd Tîm Diogelwch Pobl – Grŵp Cwmnïau Gwyddonol Blue Frog  
  • Yr Athro Martin Clift – Athro Tocsicoleg Gronynnau a Ffibrau – Ysgol Feddygol, Prifysgol Abertawe  
  • Dr Antonio Peña-Fernández – Darlithydd mewn Tocsicoleg Fforensig a Meddygaeth Gyfreithiol – Prifysgol Alcalá ac Athro Cyswllt Anrhydeddus mewn Tocsicoleg a Gwyddorau Meddygol – Prifysgol De Montfort  
  • Dr Aravindan Veraiah – Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodaeth Gwenwynau Cenedlaethol Caeredin, ac Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Acíwt a Thocsicoleg – Ysbyty Brenhinol Caeredin 

Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd Anifeiliaid 

  • Dr Barry Bradford – Darlithydd ac Arweinydd Ymchwil – Sefydliad Roslin ac Ysgol Astudiaethau Milfeddygol Frenhinol (Dick) – Prifysgol Caeredin.   
  • Dr Carla Viegas – Athro Llawn ac Ymchwilydd – Ysgol Technoleg Iechyd Lisbon, Sefydliad Polytechnig Lisbon  

Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar Ychwanegion, Ensymau a chynhyrchion rheoleiddiedig eraill  

  • Dr Stuart Adam – Arweinydd Gwyddoniaeth ar gyfer Halogion Bwyd – Fera  
  • Dr William Peveler – Uwch-ddarlithydd – Prifysgol Glasgow  

Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar Ddeunyddiau a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd

  • Dr Malcolm Driffield – Rheolwr Gwyddonol yn y Tîm Rheoleiddio Cemegion a Diogelwch Bwyd – Exponent International LTD  
  • Dr Sara Beverley – Prif Gemegydd Cymwysiadau Gwerthu – Waters Corporation

Cynhaliwyd yr ymarfer recriwtio trwy gystadleuaeth agored. Penodwyd yr aelodau newydd am gyfnodau cychwynnol o dair blynedd.