Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn croesawu deuddeg aelod newydd

Mae Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb, wedi cyhoeddi bod yr ASB wedi penodi 12 o arbenigwyr annibynnol i’w Phwyllgorau Cynghori Gwyddonol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 June 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 June 2022

Mae’r Cyngor Gwyddoniaeth a’r Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol, gyda chefnogaeth Cyd-grwpiau Arbenigol, yn darparu cyngor arbenigol annibynnol ac yn herio strategaeth wyddoniaeth ac asesiad risg yr ASB, ac yn sicrhau bod penderfyniadau polisi yn seiliedig ar yr wyddoniaeth a’r dystiolaeth ddiweddaraf.  Maent yn ymdrin â materion fel bwydydd newydd, gwenwyndra, bwyd anifeiliaid, pathogenau, plaladdwyr a gwyddor gymdeithasol.

Meddai’r Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB:

Mae’n bleser mawr gennyf groesawu cymaint o arbenigwyr nodedig i Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol yr ASB. Rydym yn falch bod ein gwaith wedi’i seilio ar wyddoniaeth ac mae’r pwyllgorau’n chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i sicrhau hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngwaith yr ASB. Rydym yn ymwybodol iawn faint o waith y mae hyn yn ei olygu ac yn ddiolchgar iddynt am rannu eu hamser gwerthfawr a’u harbenigedd gyda ni. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod bwyd yn ddiogel a’i fod yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y label.

Professor Robin May, Chief Scientific Adviser at the FSA, commented:

Penodiadau newydd

Cyngor Gwyddoniaeth (SC)

  • Yr Athro Michael Tildesley – Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Warwick
  • Yr Athro Simon Pearson – Athro technoleg bwyd-amaeth ym Mhrifysgol Lincoln
  • Yr Athro Peter Borriello CB – Cymrawd Coleg Prifysgol Llundain
  • Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch  Microbiolegol Bwyd (ACMSF)

Advisory Committee on Microbiological Safety of Food (ACMSF)

  • Dr. Dragan Antic - Senior lecturer in Veterinary Public Health in The Institute of Veterinary Science, University of Liverpool 
  • Prof. Cath Rees - Professor of Microbiology in the School of Biosciences, University of Nottingham

Advisory Committee on Novel Foods and Processes (ACNFP)

  • Dr. Dragan Antic – Uwch Ddarlithydd mewn Iechyd Cyhoeddus Milfeddygol yn y Sefydliad Gwyddor Filfeddygol, Prifysgol Lerpwl 
  • Yr Athro Cath Rees – Athro Microbioleg yn Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Nottingham
  • Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP)
  • Dr. Andy Greenfield – Darlithydd Ymchwil Anrhydeddus yn Adran Iechyd Menywod ac Atgenhedlol Nuffield, Prifysgol Rhydychen
  • Dr. Bruce Whitelaw – Dirprwy Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Partneriaethau yn Sefydliad Roslin ac Athro Biotechnoleg Anifeiliaid yn Ysgol Astudiaethau Milfeddygol Brenhinol (Dick) 
  • Dr. Ray Kemp – Yn arbenigo mewn rheoli risg a chyfathrebu ar gyfer materion Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol. Mae ganddo brofiad o gynrychioli’r aelod lleyg ar sawl pwyllgor y llywodraeth a phanel defnyddwyr.
  • Yr Athro Dimitris Charalampopoulos – Athro Biotechnoleg ym Mhrifysgol Reading

Pwyllgor ar Wenwyndra (COT)

  •  Dr. Silvia Gratz – Prif Ymchwilydd yn Sefydliad Rowett, Prifysgol Aberdeen yn y grŵp Gut Health. Aelod o Banel Mewnol ar Adolygu Moeseg Rowett (Astudiaethau Dynol) ac aelod Golygyddol o’r Bwrdd Frontiers in Predictive Toxicity

Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar Fwyd Anifeiliaid ac Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (AFFAJEG)

  • Dr Nick Wheelhouse – Aelod Grŵp Afiechydon Heintus Caeredin, aelod o Gyngor y Gymdeithas Atgenhedlu a Ffrwythlondeb, aelod o’r Gymdeithas Microbioleg a Chymrawd o’r Academi Addysg Uwch
  • Mr Mike Salter – Yn gweithio i AB Agri Ltd. Panel ariannu BBSRC/NERC SARIC fel cynrychiolydd AB Agri, Panel Cynghori Strategol Amaethyddiaeth a Diogelwch Bwyd y BBSRC fel cynghorydd diwydiannol a Bwrdd Cynghori Arloesedd NERC fel cynghorydd diwydiannol.
Mae dadansoddiad gwyddonol cadarn yn hanfodol i sicrhau diogelwch o fewn system fwyd gymhleth, yn enwedig ar adeg lle mae heriau geo-wleidyddol yn dod i’r amlwg. Mae Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr ASB yn chwarae rhan amhrisiadwy yn y broses hon, gan roi cyngor arbenigol ar ddiogelwch a safonau bwyd, yn ogystal â sganio’r gorwel ar gyfer risgiau sy'n dod i’r amlwg yn y dyfodol. Rydym yn hynod falch o groesawu’r aelodau newydd hyn, sy’n dod ag ystod eithriadol o arbenigedd, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda phob un ohonynt.