Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr ASB yn cyhoeddi canlyniadau’r Arolwg Gwyliadwriaeth Manwerthu diweddaraf a chanllawiau diwygiedig i’r diwydiant ar atchwanegiadau caffein

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi canlyniadau ei phumed arolwg blynyddol, sy’n chwarae rhan hanfodol wrth nodi a monitro risgiau diogelwch bwyd sy’n dod i’r amlwg. Yn dilyn y canlyniadau, mae’r ASB, ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban (FSS) a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC), wedi diwygio’r canllawiau i’r diwydiant ar atchwanegiadau caffein.

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mehefin 2025

Mae’r rhaglen Samplu Gwyliadwriaeth Manwerthu wedi’i thargedu at feysydd risg hysbys neu bosib. Cynhaliwyd yr arolwg rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2024, a chafodd 822 o gynhyrchion eu samplu, gan gynnwys y rhai a geir mewn basged nodweddiadol o fwyd, ynghyd ag amrywiaeth o gynhyrchion eraill. 

Prynwyd samplau bwyd o archfarchnadoedd cenedlaethol a manwerthwyr annibynnol llai, a phrynwyd rhai samplau ar-lein. Profwyd y samplau am alergenau heb eu datgan, halogion, achosion o ddifwyno, cyfansoddiad anghywir neu labelu anghywir.

  • Er bod y rhan fwyaf o’r bwyd a brofwyd fel rhan o’r rhaglen samplu dargededig hon yn ddiogel ac yn ddilys, tynnodd y prosiect sylw at rai pryderon y mae angen ymchwilio iddynt ymhellach: 
  • Nid oedd canlyniad 83% o’r samplau o atchwanegiadau caffein yn foddhaol. Roedd y canlyniadau anfoddhaol yn ymwneud â chynnwys caffein nad oedd wedi’i nodi ar y label (roedd rhai yn cynnwys llai na’r hyn a nodwyd, ac eraill yn cynnwys mwy) a phroblemau labelu eraill.
  • Nid oedd canlyniad 74% o’r samplau o fara yn foddhaol. O’r rhain, prynwyd 69% ohonynt gan fanwerthwyr bach. Roedd mwyafrif y canlyniadau anfoddhaol mewn perthynas â bara yn ymwneud â mân broblemau labelu. Fodd bynnag, roedd tri sampl (allan o 35 sampl) yn dangos presenoldeb alergenau heb eu datgan.
  • Nid oedd canlyniad 59% o’r samplau o de swigod yn foddhaol. Roedd nifer o fân broblemau labelu yn berthnasol i bob sampl anfoddhaol ond un  – y rhai mwyaf cyffredin yn ymwneud â gwybodaeth am faeth a fformat y dyddiad ar y label. Roedd gan 42% o samplau anfoddhaol broblemau hefyd yn ymwneud â defnyddio ychwanegion heb eu datgan neu gor-ddefnydd ohonynt.

Gwnaeth yr ASB roi gwybod i awdurdodau lleol am y canlyniadau anfoddhaol er mwyn iddynt gymryd camau priodol.  

Canfuwyd sawl problem diffyg cydymffurfio yn y samplau o de swigod, gan gynnwys defnyddio rhai ychwanegion heb eu hawdurdodi a lefelau uwch na’r rhai a ganiateir yn y DU. Rhoddodd yr ASB wybod i awdurdodau lleol am y materion hyn, yn enwedig ynghylch cynhyrchion te swigod o’r Dwyrain pell a oedd yn cynnwys Konjac (E425). Er bod Konjac yn ychwanegyn cymeradwy, nid yw ei ddefnyddio mewn te swigod wedi’i awdurdodi oherwydd perygl tagu posib. Pan wnaeth awdurdodau lleol ganfod yr achosion hyn o ddiffyg cydymffurfio, gofynnwyd iddynt gymryd camau gorfodi priodol, gan gynnwys tynnu cynhyrchion yn ôl. 

Mewn ymateb i’r canlyniadau, mae’r ASB, mewn cydweithrediad ag FSS a’r DHSC, wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r risgiau diogelwch posib sy’n gysylltiedig â chaffein mewn atchwanegiadau, ac mae wedi cyhoeddi cyngor diwygiedig i’r diwydiant. Bydd y cyngor diwygiedig yn diogelu defnyddwyr fwy fyth ac yn codi ymwybyddiaeth o’r risgiau sy’n gysylltiedig â gor-ddefnyddio atchwanegiadau bwyd sy’n cynnwys caffein, gan gynnwys powdrau sy’n cynnwys caffein pur. 

“Mae gan bobl hawl i ymddiried yn y bwyd maen nhw’n ei brynu ac rydym yn falch bod y rhan fwyaf o’r samplau a brofwyd am gydymffurfiaeth ag alergenau, dilysrwydd a chyfansoddiad wedi bodloni’r rheoliadau.  

Er mai prin yw’r problemau diogelwch neu ddilysrwydd mawr, rydym yn annog busnesau i roi mwy o sylw i gywirdeb labelu, yn enwedig mewn cysylltiad ag alergenau. Mae gan bob busnes gyfrifoldeb i ddarparu bwyd sy’n ddiogel ac sy’n bodloni ein safonau uchel. Lle canfuwyd meysydd o ddiffyg cydymffurfio eleni, rydym wedi gweithredu i fynd i’r afael â nhw drwy roi gwybod i’r awdurdodau lleol perthnasol er mwyn iddynt gymryd camau gweithredu priodol.   

Daw’r canfyddiadau hyn o arolwg targededig sy’n canolbwyntio ar feysydd yr ydym eisoes yn amau nad ydynt yn cydymffurfio o bosib, a dylai defnyddwyr barhau i fod yn dawel eu meddwl nad ydynt yn adlewyrchu diogelwch a safonau bwyd ehangach yn y DU.  

Yn dilyn canlyniadau’r arolwg, rydym wedi diwygio’r canllawiau i’r diwydiant ar atchwanegiadau caffein ledled y DU, gan ddangos sut mae’r ASB yn defnyddio gwybodaeth i lywio penderfyniadau polisi.  Diogelwch defnyddwyr yw ein prif flaenoriaeth, ac mae defnyddio mentrau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, fel yr arolwg gwyliadwriaeth manwerthu, yn sicrhau y gallwn gymryd camau gwybodus i ddiogelu iechyd y cyhoedd.” 

Rebecca Sudworth, Cyfarwyddwr Polisi yn yr ASB

Cyflwynwyd y rhaglen gan bartneriaeth rhwng Labordai Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Swyddogol y tri awdurdod lleol a dau labordy swyddogol preifat yng Nghymru a Lloegr.  Mae’r adroddiad llawn ar gael yn adran ymchwil ein gwefan. 

Rydym yn parhau i weithio gyda’r diwydiant ac awdurdodau lleol i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Os byddwn yn nodi bwyd anniogel ar y farchnad, byddwn yn gweithio gyda’r awdurdodau perthnasol i ymateb a chymryd camau cyflym i rybuddio defnyddwyr. Ewch i food.gov.uk/cy i danysgrifio i’r rhybuddion hyn.