Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr ASB yn cyhoeddi penodi Junior Johnson yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau

Mae Emily Miles, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), wedi cadarnhau ei bod wedi penodi Junior Johnson yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 March 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 March 2022

Bydd Junior yn dechrau yn ei rôl ym mis Mai. Ar hyn o bryd mae’n Ddirprwy Gyfarwyddwr yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan arwain is-adran Craffu, Perfformiad ac Ymgysylltu Carchardai, lle mae wedi arwain gwaith ar dryloywder perfformiad ar draws y system carchardai a phrawf gyfan. 

Meddai ein Prif Weithredwr, Emily Miles: 'Rwyf wrth fy modd bod Junior yn ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Gweithrediadau. Mae’n dod atom gyda hanes cadarn o gyflawni gweithrediadau yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Adran Gwaith a Phensiynau, ac mae ganddo angerdd dros arweinyddiaeth gynhwysol a chyflawni cryf. Daeth i'r brig ymhlith carfan gref iawn o ymgeiswyr am y swydd hon.

‘Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Simon Tunnicliffe, sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau Dros Dro yn y cyfamser, ac a fydd yn parhau felly nes i Junior ddechrau arni. Mae Simon wedi bod yn gwneud gwaith gwych ar adeg heriol o safbwynt gweithrediadau, ac rydym wedi bod mewn dwylo diogel.

Meddai Junior: 'Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â'r ASB a gweithio gyda'i staff, ei phartneriaid cyflawni a’i rhanddeiliaid i sicrhau bwyd y gallwch ymddiried ynddo. Rwyf wedi clywed cymaint am yr hyn mae’r ASB yn ei wneud, ac rwy’n llawn edmygedd at y modd mae’r sefydliad wedi rheoli effaith y pandemig wrth fwrw iddi gyda chynlluniau diwygio. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan ohoni’.

Rhagor am Junior Johnson

Dechreuodd Junior ei yrfa yn y Gwasanaeth Sifil fel swyddog gweinyddol, gan brosesu hawliadau budd-daliadau, a gweithiodd ei ffordd tuag at fod yn rheolwr ar yr holl ganolfannau swyddi yn Llundain, cyn trosglwyddo i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Mae Junior yn un o Hyrwyddwyr Hil Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac yn Noddwr SCS i rwydwaith staff PROUD y sefydliad.