Yr ASB yn diweddaru cyngor ar risg glyserol mewn diodydd iâ slwsh i blant
Mae Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi galw ar y diwydiant i weithio gyda’r rheoleiddiwr i helpu i ddiogelu plant rhag effeithiau glyserol mewn diodydd iâ slwsh, a hynny’n seiliedig ar asesiad sy’n dangos risg i blant dan saith oed.
Yn ei gyfarfod ddydd Mercher 18 Mehefin, cymeradwyodd y Bwrdd gyngor nad yw diodydd iâ slwsh sy’n cynnwys glyserol yn addas ar gyfer plant dan saith oed. Gofynnodd y Bwrdd hefyd i hyn gael ei gyfleu’n glir i rieni a gofalwyr, a gwnaethon nhw roi cyfarwyddyd i swyddogion ddatblygu ‘dull gwirfoddol llawer gwell’ ar gyfer y diwydiant i helpu i reoli faint o glyserol mae plant ifanc yn ei gymryd yn y tymor hirach.
Yn ystod y tywydd cynnes, mae plant yn fwy tebygol o yfed diodydd iâ slwsh sy’n cynnwys glyserol, felly mae’n bwysig bod rhieni a gofalwyr yn ymwybodol o’r risgiau. Fel rhagofal, mae’r ASB yn argymell nad yw plant dan saith oed yn yfed diodydd iâ slwsh sy’n cynnwys glyserol. Gyda’n cymheiriaid yn yr Alban, byddwn yn siarad â grwpiau rhieni ac elusennau i roi canllawiau wedi’u diweddaru sy’n ddefnyddiol ac yn berthnasol ledled y DU.
Rydym yn disgwyl i’r diwydiant rannu data ar faint o glyserol sydd yn eu cynhyrchion i lywio ein gwaith yn y dyfodol. Yn y cyfamser, mae camau gweithredu y gallant eu cymryd ar unwaith a all helpu i ddiogelu plant a lleihau’r risg o’r cynhyrchion hyn. Er enghraifft, dylai manwerthwyr gyfyngu ar faint eu cwpanau, ac ni ddylent gynnig ail-lenwadau am ddim i blant dan 10 oed.
Trafodwyd canfyddiadau asesiad risg diweddaraf yr ASB ar glyserol mewn diodydd iâ slwsh fel rhan o’r cyfarfod. Roedd yr asesiad yn ymgorffori gwybodaeth o ddigwyddiadau diweddar o feddwdod glyserol, ac yn asesu effaith un dogn o ddiod iâ slwsh (350ml â 50,000mg/L o glyserol) ar blant â phwysau corff is na’r cyfartaledd ar gyfer eu hoedran. Mae’r asesiad risg diweddaraf hwn yn cymryd dull mwy rhagofalus na’r asesiad risg cychwynnol a gynhaliwyd yn 2023, a oedd yn seiliedig ar bwysau corff cyfartalog. Gan fod pwysau plant yn amrywio, mae pwysau’r corff wedi’i drosi i oedran, a hynny er mwyn darparu cyngor mwy ymarferol i rieni a busnesau.
Gall diodydd iâ slwsh gynnwys glyserol yn lle siwgr i’w hatal rhag rhewi’n solet. Y cyngor i fusnesau yw y dylent ond ychwanegu glyserol ar yr isafswm sy’n dechnegol angenrheidiol i gyflawni’r effaith slwsh. Er bod glyserol i’w gael mewn rhai bwydydd eraill, mae’n cael ei ychwanegu ar lefelau llawer is nag mewn diodydd iâ slwsh. Os caiff glyserol ei fwyta ar lefelau uchel, gall achosi lefelau siwgr gwaed isel iawn mewn plant ifanc a gwneud iddynt golli ymwybyddiaeth.
Mae’r cyngor diweddaraf hwn yn berthnasol i ddiodydd iâ slwsh parod i’w hyfed â glyserol mewn codenni a chitiau cartref sy’n cynnwys crynodiadau slwsh glyserol. Dylai’r label fod â gwybodaeth am gynnwys y glyserol, neu dylai gynnwys manylion cyswllt ar gyfer y gweithgynhyrchwr er mwyn gallu cael rhagor o wybodaeth.