Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr ASB yn lansio ymgynghoriad ar ddatblygu model gweithredu hylendid bwyd wedi’i foderneiddio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn croesawu eich safbwyntiau a’ch sylwadau ar y datblygiadau arfaethedig ar gyfer model gweithredu hylendid bwyd (FHDM) wedi’i foderneiddio.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 April 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 April 2023

Mae maes bwyd sy’n newid wedi creu cyfleoedd newydd i ni ddiogelu buddiannau defnyddwyr yn well. Ein nod yw datblygu model sy’n addas ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn parhau i weithredu’n llwyddiannus ac yn cynnal hyder defnyddwyr. 
 
Heddiw (03 Ebrill) mae’r ASB wedi cyhoeddi ymgynghoriad 12 wythnos yn ceisio safbwyntiau awdurdodau lleol a chynghorau dosbarth, gweithredwyr busnesau bwyd, sefydliadau sicrwydd trydydd parti ar gyfer diogelwch bwyd, cyrff dyfarnu proffesiynol ar gyfer iechyd yr amgylchedd a safonau masnach, undebau llafur a grwpiau eraill sydd â buddiant.  

Ym mis Medi 2022, cymeradwyodd Bwrdd yr ASB y prif bolisi a’r egwyddorion i werthuso llwyddiant ar gyfer FHDM wedi’i foderneiddio. Rydym nawr yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar y datblygiadau arfaethedig canlynol: 

  • cynllun sgorio ymyriadau hylendid bwyd wedi’i foderneiddio, gan gynnwys matrics penderfynu i bennu amlder priodol rheolaethau hylendid bwyd yn seiliedig ar y risg a berir gan sefydliad busnes bwyd 
  • dull wedi’i ddiweddaru sy’n seiliedig ar risg o ran yr amserlenni ar gyfer rheolaethau swyddogol cychwynnol mewn sefydliadau bwyd newydd, ac ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol priodol
  • mwy o hyblygrwydd yn y dulliau a’r technegau rheolaethau swyddogol y gellir eu defnyddio i bennu lefel risg sefydliad, gan gynnwys, lle bo'n briodol, asesu o bell  
  • ehangu’r gweithgareddau y gall swyddogion, fel Swyddogion Cymorth Rheoleiddiol, nad oes ganddynt ‘gymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd eu cyflawni, os ydynt yn gymwys. 
Meddai Katie Pettifer, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chydymffurfiaeth Rheoleiddio yr ASB: 

“Mae’r dirwedd fwyd wedi newid yn sylweddol yn ystod y tri degawd ers cyflwyno’r system reoleiddio gyfredol, yn ogystal â’r ffordd yr ydym yn prynu ac yn bwyta bwyd.  

Rydym am i bobl gael bwyd y gallant ymddiried ynddo. Felly rydym am wneud yn siŵr bod awdurdodau lleol a chynghorau dosbarth yn gallu targedu eu hadnoddau mor effeithiol â phosib wrth i ni ddatblygu model rheoleiddio hylendid bwyd sy’n addas ar gyfer y dyfodol.  

Bydd ein cynigion yn galluogi awdurdodau lleol i dreulio mwy o’u hamser yn canolbwyntio ar fusnesau bwyd nad ydynt yn cydymffurfio neu fusnesau sy’n peri’r risg fwyaf i iechyd y cyhoedd, a thrwy hynny leihau beichiau rheoleiddiol ar fusnesau sy’n cydymffurfio neu fusnesau risg isel. 

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 30 Mehefin 2023, felly byddem yn annog pawb sydd â diddordeb yn y maes i ymateb dros y 12 wythnos nesaf.” 

Mae’r ymgynghoriadau ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar gael ar wefan yr ASB.  

Dylid cynnwys yr holl sylwadau a safbwyntiau yn y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad a’u hanfon drwy e-bost i hygienemodelreview@food.gov.uk.  

Bydd yr ymgynghoriad yn cau am 23:59 ddydd Gwener 30 Mehefin 2023.