Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr ASB yn rhybuddio pobl ag alergeddau ynghylch rhai cynhyrchion siocled ‘dull Dubai’ a fewnforir

Dylai pobl ag alergeddau fod yn ofalus wrth brynu siocled ‘dull Dubai’ wedi’i fewnforio, oherwydd efallai na fydd gan rai cynhyrchion labeli clir na dibynadwy. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, peidiwch â phrynu’r cynhyrchion hyn, a rhowch wybod am unrhyw bryderon i’ch awdurdod lleol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Mehefin 2025

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn codi ymwybyddiaeth ac yn ymgysylltu â busnesau, mewnforwyr a defnyddwyr mewn perthynas â phryderon ynghylch rhai cynhyrchion siocled ‘dull Dubai’ a fewnforir sy’n cael ei werthu yn y DU, a allai beri risg i unigolion ag alergeddau bwyd.  

O ran y cynhyrchion siocled ‘dull Dubai’ a fewnforir, mae’n bosib nad oedd yn fwriad i rai ohonynt gael eu gwerthu yn y DU, ac efallai na fydd ganddynt restr gynhwysion lawn na labeli sy’n nodi’r alergenau. Yn ôl y gyfraith, rhaid i labeli restru’r holl gynhwysion a nodi’n glir unrhyw un o’r 14 alergen rheoleiddiedig. Efallai na fydd y cynhyrchion hynny na ddylent fod wedi cael eu mewnforio i’w gwerthu yn bodloni safonau diogelwch bwyd uchel y DU. 

Er bod y rhan fwyaf o siocled ‘dull Dubai’ sydd ar gael mewn siopau yn y DU yn ddiogel, wrth weithio gydag awdurdodau lleol, rydym wedi nodi nifer o gynhyrchion sy’n peri risg iechyd i ddefnyddwyr ag alergeddau. Gall rhai o’r cynhyrchion hyn hefyd gynnwys ychwanegion a lliwiau nad ydynt yn cael eu caniatáu ar farchnad y DU. Ym mhob achos, mae’r ASB yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod camau dilynol yn cael eu cymryd i ddiogelu defnyddwyr. 

Dylai pawb allu ymddiried bod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Dyna pam mae’r ASB wedi cymryd camau ar y cynhyrchion dan sylw ac wedi rhannu pryderon â busnesau a grwpiau yn y diwydiant fel y gellir tynnu’r cynhyrchion oddi ar silffoedd a marchnadoedd ar-lein.   

Mae yna bethau y gallwch chi chwilio amdanynt i wirio a yw cynnyrch wedi’i fwriadu i’w werthu yma. Yn ôl y gyfraith, dylai cynhyrchion a wneir i safonau’r DU fod â labeli yn Saesneg sy’n cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • enw’r bwyd (er enghraifft, siocled llaeth gyda phast cnau pistasio)  
  • rhestr gynhwysion, gyda’r alergenau wedi’u pwysleisio  
  • pwysau’r bwyd mewn gramau  
  • dyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu ‘defnyddio erbyn’   
  • enw a chyfeiriad y busnes yn y DU neu’r UE sy’n gyfrifol am yr wybodaeth am y cynnyrch. Os nad yw’r bwyd yn dod o’r DU neu’r UE, rhaid cynnwys enw a chyfeiriad y mewnforiwr. 

Mae’r ASB bellach yn arolygu ac yn samplu’r cynhyrchion hyn i ddarganfod maint y mater dan sylw. Wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo, rydym yn gweithio gydag elusennau alergedd i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r risg i ddefnyddwyr. 

“Mae’r mwyafrif helaeth o’r bwyd yn y DU yn ddiogel ond, nid yw rhai cynhyrchion siocled ‘dull Dubai’ a fewnforir yn bodloni ein safonau, a gallent beri risg diogelwch bwyd – yn enwedig i ddefnyddwyr ag alergeddau. Os ydych chi’n bwriadu prynu siocled ‘dull Dubai’, rydym yn cynghori cadw at fanwerthwyr dibynadwy, fel y rhai y byddech chi’n eu defnyddio ar gyfer eich siopa wythnosol. Mae hyn oherwydd bod y cynhyrchion yn fwy tebygol o gael eu gwneud ar gyfer defnyddwyr y DU, ac felly’n ddiogel i’w bwyta.   

Gan ei bod hi’n anodd i ddefnyddwyr wahaniaethu rhwng cynhyrchion sy’n cael eu gwneud ar gyfer y DU a’r rhai nad ydynt yn cael eu gwneud ar gyfer y DU, os oes gennych alergedd neu anoddefiad bwyd, rydym yn eich cynghori i beidio â phrynu’r cynnyrch oni bai eich bod chi’n siŵr ei fod wedi’i fwriadu i’w werthu yma. Mae cyfraith y DU yn ei gwneud yn ofynnol i labeli bwyd bwysleisio unrhyw un o’r 14 alergen rheoleiddiedig sydd yn y cynnyrch, ond efallai na fydd rhai cynhyrchion a fewnforir yn gwneud hyn. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar food.gov.uk/cy. 

Os oes gennych bryderon am siocled rydych chi’n ei weld ar werth, peidiwch â’i brynu. Yn hytrach, rhowch wybod amdano i’ch awdurdod lleol. Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod unrhyw gynhyrchion anniogel yn cael eu tynnu oddi ar y farchnad cyn gynted â phosib.

Yr Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB

Ni ddylai neb fwyta cynhyrchion os ydynt yn ansicr amdanynt ar ôl eu prynu, yn enwedig os oes ganddynt alergeddau neu anoddefiadau bwyd. 

Am fwy o wybodaeth am alergeddau bwyd a sut i fod yn ddiogel, ewch i food.gov.uk/cy.